Mai 2023
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi cytuno i wneud Hysbysiad o Gynnig gyda'r nod o fynd i'r afael â thlodi tanwydd.
Roedd Ffair Fai Bargod Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, a gafodd ei chynnal ar ddydd Sadwrn 13 Mai, wedi denu’r nifer mwyaf erioed o ymwelwyr i'r dref, gan wneud y digwyddiad yn llwyddiant anhygoel.
Capital Coated Steel yw'r prosesydd metelau cyn-orffenedig annibynnol mwyaf yn y Deyrnas Unedig a'r unig ddosbarthwr annibynnol sydd wedi'u hachredu gan Tata. Ac yntau'n dathlu dros 50 mlynedd mewn busnes, mae'r cwmni, a gafodd ei ddechrau gan y partneriaid busnes John Hunt a Nick Williams yn ôl ym 1972, yn parhau i fod yn fusnes teuluol heddiw.
Mae CB Refrigeration wedi bod mewn busnes ers dros 50 mlynedd, ac yn 2016, fe symudon nhw eu prif swyddfa i Gaerffili. Ers hynny, mae'r perchennog, Andrew Hall, wedi gweld y busnes yn mynd o nerth i nerth gyda throsiant yn fwy na £4.3 miliwn bellach, gan gynyddu 25% eleni yn unig.
Gwahoddir ceisiadau am Arian Grant i nodi 75 mlynedd ers i'r MV Empire Windrush ddocio yn Tilbury.
Mae Maethu Cymru wedi siarad â phobl ifanc leol â phrofiad o ofal sydd wedi rhannu eu straeon i gefnogi Pythefnos Gofal Maeth. Mae’r ymgyrch yn ceisio annog mwy o bobl i ystyried maethu gyda’u hawdurdod lleol, sy’n wasanaeth dielw, yn hytrach nag asiantaethau maethu masnachol, gan y bydd hyn yn cael effaith sylweddol ar ddyfodol plant a phobl...