News Centre

Capital Coated Steel: Y busnes lleol sy'n ymdrechu i wneud eu cyflenwad dur yn fwy cynaliadwy nag erioed

Postiwyd ar : 23 Mai 2023

Capital Coated Steel: Y busnes lleol sy'n ymdrechu i wneud eu cyflenwad dur yn fwy cynaliadwy nag erioed
Capital Coated Steel yw'r prosesydd metelau cyn-orffenedig annibynnol mwyaf yn y Deyrnas Unedig a'r unig ddosbarthwr annibynnol sydd wedi'u hachredu gan Tata. Ac yntau'n dathlu dros 50 mlynedd mewn busnes, mae'r cwmni, a gafodd ei ddechrau gan y partneriaid busnes John Hunt a Nick Williams yn ôl ym 1972, yn parhau i fod yn fusnes teuluol heddiw.

Wrth ymdrechu i ragori mewn busnes, gan gyflenwi rhai o'r cwmnïau mwyaf blaenllaw yn y Deyrnas Unedig ac yn rhyngwladol, maen nhw wedi blaenoriaethu'r amgylchedd a dyfodol cyflenwad dur cynaliadwy drwy eu busnes. Mae'r cwmni'n credu'n frwd bod angen gwneud hyn ac wedi trawsnewid sut mae'r busnes nawr yn gweithredu, gan sicrhau parhad busnes a lleihau neu ddileu effeithiau amgylcheddol a chymdeithasol negyddol eu gweithgareddau busnes, fel y bydd gan genedlaethau'r dyfodol adnoddau digonol i ddiwallu eu hanghenion nhw. Mae hyn yn cynnwys gweithwyr, cwsmeriaid, a'r amgylchedd bioamrywiol ehangach.

Maen nhw wedi dechrau ar gyfrifiad ôl troed carbon llawn, gan ganolbwyntio ar allyriadau cwmpas 1 a 2 (hynny yw, y rhai mae ganddyn nhw'r mwyaf o reolaeth arnyn nhw), gyda'r nod o fod yn garbon niwtral erbyn 2030, ond oherwydd eu strategaeth effeithiol, mae hyn yn debygol o ddigwydd yn gynt. Mewn partneriaeth ag ecologi.com, mae ymrwymiad Capital eisoes wedi achosi lleihad carbon o 948.18 tunnell ac mae dros 12,828 o goed newydd wedi cael eu plannu.

Mae eu busnes nhw wedi'i drawsnewid dros y blynyddoedd diwethaf, gyda 75% o'u cerbydau nhw bellach yn rhai trydan neu hybrid, ac maen nhw wedi buddsoddi mewn seilwaith sy'n cynnal hyn, gyda mannau gwefru newydd wedi'u creu.

Mae cadw cymaint o ddeunydd ffisegol â phosibl hefyd yn brif ffocws, gan gynnwys seiffno deunydd israddol ar gyfer defnydd eilaidd ailddefnyddio deunyddiau pecynnu ar bob cyfle, a lleihau eu defnydd nhw o baledi pren yn sylweddol trwy ddylunio paledi yn ofalus a gwaith adfer helaeth. Yn 2021, fe wnaethon nhw arbed 100 tunnell o bren yn y modd hwn, gan leihau pryniant pren 17%. Mae'r adeilad yn Wattsville hefyd wedi manteisio ar osod paneli ffotofoltäig ar y to, ac ar ddiwrnodau braf, mae dros 35% o bŵer y safle'n cael ei gynhyrchu ganddyn nhw.

Mae'r ymdrech gyson i ddod o hyd i ffyrdd o wella effaith ecolegol y busnes yn parhau yn eu ffatri yn Wattsville, gyda'r gwaith o greu eu gardd fioamrywiol eu hunain ar y safle i gynorthwyo bywyd gwyllt lleol. Daeth yr ysbrydoliaeth gan Bennaeth Gwaith a Gweithrediadau Capital, Simon Nurse, a oedd â'r weledigaeth i droi rhan adfeiliedig o'r safle yn ardd lle mae deiliach yn disgyn o'r llethr uwchlaw, cychod gwenyn yn swatio ymhlith planwyr wedi'u gwneud o bren adferedig, a phwll sydd wedi'i greu yn ddiweddar. Mae gwaith diweddar hefyd wedi cynnwys cyflwyno blychau i adar a draenogod. Mae Simon yn nodi bod yr ardd yn dangos ymrwymiad gweledol i'w polisi a'u hymarfer cynaliadwyedd gyda'r holl randdeiliaid (cyflenwyr, cwsmeriaid, sefydliadau ariannol, y gymuned leol, gweithwyr) a'r gobaith yw y bydd yn cael effaith wirioneddol ar fioamrywiaeth yn lleol. Ar adeg pan fo poblogaeth gwenyn mêl yn gostwng yn gyflym, bydd y safle'n helpu unioni'r broblem hon, gyda thri chwch gwenyn ychwanegol wedi'u cynllunio. Mae'r gofod hefyd yn creu man tawel, braf i encilio ac ar gyfer lles meddyliol, gyda staff Capital wir yn cefnogi'r prosiect newydd hwn, gan gyflenwi planhigion, nodweddion, ac ymrwymiad gweithredol i'w weld yn llwyddo.


Ymholiadau'r Cyfryngau