Drwy ddefnyddio’r safle we hwn, rydych yn cytuno i’n defnydd ni o gwcis.
Cliciwch am fwy o fanylion
.
Skip to content
Hygyrchedd
Cysylltwch â ni
Y ganolfan newyddion
Tanysgrifio
English
Search for:
Tasgau poblogaidd
Preswylydd
Busnes
Pethau i'w gwneud
Y Cyngor
Cymerwch ran
Menu
Tasgau poblogaidd
Swyddi a hyfforddiant
Canolfannau Hamdden
Prydau ysgolion cynradd
Treth y Cyngor
Casgliad bin wedi'i golli
Gwneud cais, adrodd, gofyn, talu
Ysgolion, dyddiadau tymor a chau ysgolion
Trafnidiaeth gyhoeddus – gwybodaeth a chyngor
Councillors and committees
Credyd Cynhwysol (yn lle Budd-daliadau Tai)
Chwilio, olrhain a gwneud sylwadau ar geisiadau cynllunio
Diwrnodau casglu gwastraff
Preswylydd
Busnes
Pethau i'w gwneud
Y Cyngor
Cymerwch ran
Newyddion
Newyddion
Mai 2023
Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn galw ar gyflenwyr ynni i roi terfyn ar osod mesuryddion rhagda
News Centre
Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn galw ar gyflenwyr ynni i roi terfyn ar osod mesuryddion rhagdalu trwy rym
Postiwyd ar : 24 Mai 2023
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi cytuno i wneud Hysbysiad o Gynnig gyda'r nod o fynd i'r afael â thlodi tanwydd.
Mae'r hysbysiad yn galw ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i basio deddfwriaeth i atal cwmnïau ynni rhag mynd i mewn i dai pobl a gosod mesuryddion rhagdalu, oni bai bod deiliaid y tŷ dan sylw yn gofyn iddyn nhw i wneud hynny. Yn ogystal â hyn, mae'n gofyn i bobl gael yr hawl i gael mesuryddion rhagdalu wedi’u tynnu o’u cartrefi nhw.
Roedd y Cynghorydd Carol Andrews, Aelod Cabinet y Cyngor gyda chyfrifoldeb am Gymunedau, wedi codi'r hysbysiad o gynnig yn ystod cyfarfod y Cyngor llawn ar 23 Mai. Dywedodd y Cynghorydd Andrews, "Mae prisiau ynni wedi codi yn ystod yr argyfwng costau byw presennol, ac mae cyflenwyr wedi cynyddu'r defnydd o warantau llys i orfodi eu ffordd i mewn i dai er mwyn gosod y mesuryddion.
"Mae mesuryddion rhagdalu yn codi tâl am ynni ar gyfradd uwch na chontractau lle mae'r cwsmer yn talu'n fisol neu drwy ddebyd uniongyrchol, ac mae pobl sydd mewn dyled yn aml yn cael eu gadael heb ddewis ond "hunan-ddatgysylltu". I nifer o bobl, nid yw disbyddu credyd yn ddigwyddiad untro, gan adael trigolion heb y gallu i goginio neu wresogi eu cartrefi nhw."
Mewn ymateb i bwysau gan y cyhoedd a’r cyfryngau, mae Ofgem, rheoleiddiwr ynni Prydain Fawr, wedi rhoi gwaharddiad dros dro ar waith ar fesuryddion rhagdalu. Roedd hynny tan 31 Mawrth 2023 i ddechrau, ond mae bellach wedi'i ymestyn nes bod cwmnïau ynni'n llofnodi Cod Ymarfer Ofgem, sy'n ei gwneud yn ofynnol i gyflenwyr gael gwiriadau a balansau effeithiol ar waith wrth drosglwyddo pobl i fesuryddion clyfar. Yn ôl rheolau Ofgem, rhaid i gwmnïau hefyd gynnig cynlluniau talu fforddiadwy a chynnig credyd brys i bobl sy'n defnyddio mesurydd rhagdalu ac yn methu ag ychwanegu rhagor o arian ato.
Rhannwch y dudalen hon :
Rhannwch ar Facebook
Rhannwch ar Twitter
Newyddion Diweddar
Gŵyl Bwyd a Diod Caerffili poblogaidd yn denu miloedd o ymwelwyr i'r dref
Cyhoeddi cau ffyrdd ar gyfer digwyddiad 10 Cilomedr Caerffili Bryn Meadows
Grant CBS Caerffili yn helpu busnes Caerffili i ehangu
Dros 120 o wirfoddolwyr wedi plannu coed yng Nghoetiroedd Wyllie a Pharc Cwm Darran
Rhybudd i drigolion Bargod am alwyr diwahoddiad yn cynnig ail-chwistrellu patios
Ymholiadau'r Cyfryngau
Cyfeiriad E-bost
Ffôn
Cyfeiriad
Gwasanaethau A i Y
A
B
C
Ch
D
Dd
E
F
Ff
G
Ng
H
I
L
Ll
M
N
O
P
Ph
R
Rh
S
T
Th
U
W
Y