News Centre

Ffair Fai Bargod yn llwyddiant anhygoel wrth dorri record

Postiwyd ar : 23 Mai 2023

Ffair Fai Bargod yn llwyddiant anhygoel wrth dorri record
Roedd Ffair Fai Bargod Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, a gafodd ei chynnal ar ddydd Sadwrn 13 Mai, wedi denu’r nifer mwyaf erioed o ymwelwyr i'r dref, gan wneud y digwyddiad yn llwyddiant anhygoel.
 
Cafodd 16,410 o ymwelwyr eu croesawu i'r ffair ym Margod, gyda niferoedd yn cyrraedd uchafbwynt am hanner dydd. Daeth pobl o gyn belled â Chwm Rhondda, Casnewydd, Dinbych-y-pysgod a Sir Gaerfyrddin! Dyma oedd y diwrnod prysuraf i'r dref ers amser hir, gyda 15,266 o ymwelwyr ychwanegol o gymharu â'r dydd Sadwrn blaenorol. Hwn oedd y nifer mwyaf o ymwelwyr ym Margod ers i ddyfeisiau cyfrif ymwelwyr gael eu gosod yn 2018.
 
Roedd y diwrnod yn llawn hwyl gyda reidiau ffair; stondinau bwyd, diod a chrefft; adloniant stryd; copïau o geir enwog; a hyd yn oed anifeiliaid. Roedd yna awyrgylch cadarnhaol ac roedd y nifer o ymwelwyr wedi bod o fudd mawr i fusnesau lleol a'r gymuned.
 
Dyma’r hyn a ddywedodd busnesau lleol am y digwyddiad:

Meddai Alex Hancox o Hancox's Pies, "Deg allan o ddeg, fel arfer! Roedden ni wedi gwerthu ein holl stoc awr a hanner cyn diwedd y digwyddiad!"
 
Meddai Anthony Strinati o Continental Café, "Roedd y ffair wedi'i threfnu'n dda iawn; dydw i ddim yn gwybod o ble daeth y Cyngor o hyd i'r bobl hynny i gyd! Roedd pobl nad oedd erioed wedi ymweld â Bargod yn dweud eu bod nhw'n meddwl ei fod yn lle aruthrol, ac roedden ni mor ffodus gyda'r tywydd. Ar y cyfan, diwrnod gwych ym Margod. Diolch, Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili."
 
Dywedodd Sam Collins o B. Thomas Pet & Garden Supplies, "Roedd yn wych ac yn hyfryd i weld cynifer o bobl a dydw i erioed wedi gweld canol dref Bargod mor brysur. Diolch i Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili a Chyngor Tref Bargod am roi cymhorthdal i brisiau reidiau gan eu gwneud nhw'n fwy fforddiadwy. Cafodd pawb amser da."
 
Ychwanegodd y Cynghorydd Jamie Pritchard, Aelod Cabinet dros Ffyniant, Adfywio a Newid yn yr Hinsawdd, "Am ddiwrnod gwych. Y diwrnod prysuraf ym Margod ers sawl blwyddyn. Hoffwn i ddiolch i'r cyhoedd, busnesau, ein tîm digwyddiadau a Chyngor Tref Bargod am eu cymorth. Roedd yn ddiwrnod gwirioneddol wych!"
 
Cafodd Ffair Fai Bargod ei threfnu gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili a'i hariannu ar y cyd gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili a Chyngor Tref Bargod.


Ymholiadau'r Cyfryngau