Dringo creigiau
Mae gennym ddau wal ddringo i'w llogi, un yn addas ar gyfer croesi ac un ar gyfer dringo fertigol.
Wal groesi
Mae'r wal groesi yn ffordd wych i blant ddysgu sgiliau symud sylfaenol ac uwch. Gall disgyblion sy'n ei defnyddio weithio gyda'i gilydd i helpu ei gilydd. Mae'n datblygu cyfathrebu da, gwaith tîm a sgiliau datrys problemau.
Gall disgyblion babanod ac iau ddefnyddio'r wal gyda ychydig iawn o oruchwyliaeth heb offer arbenigol.
Bydd y wal yn cael ei chodi ar y safle ar gyfer sefydliadau sy'n llogi'r wal. Maent hefyd yn derbyn briff diogelwch ar y safle gan hyfforddwyr Gwasanaeth Addysg Awyr Agored Caerffili.
Wal ddringo symudol
Mae'r wal ei hun yn 9 metr o uchder, yn hunan-gynhwysol ar ôl-gerbyd ac mae'n cymryd llai na 20 munud i'w chodi. Gellid cael ei defnyddio gan hyd at 6 o ddringwyr ar y tro ac mae'n cynnwys dau bargodion dewisol yn ogystal ag adran slab bob gallu.
Mae'r wal ddringo symudol yn ffordd ardderchog o gyflwyno sgiliau dringo creigiau a gwaith rhaff. Mae ganddi afaelion mawr a llwybrau wedi'u codio gyda lliw. Gellid gwneud y llwybrau'n haws neu'n fwy anodd drwy gyfyngu ar ddewis y dringwr o afaelion. Gall y wal hefyd gael ei ddefnyddio fel pwynt abseilio ar gyfer dringwyr.
Mae defnyddwyr yr wal yn elwa mewn nifer o ffyrdd. Gall adeiladu hunan-barch a hyder.
Gall yr wal gael ei chodi ar unrhyw ardal wastad o dir ar gyfer sefydliadau sy'n llogi'r wal. Mae dau hyfforddwr Gwasanaeth Addysg Awyr Agored Caerffili yn darparu hyfforddiant ac mae'r holl offer diogelwch yn cael eu darparu.
Costau llogi
- £225 ar gyfer ysgolion a sefydliadau Caerffili
- £325 ar gyfer archebion allanol/preifat
Os oes diddordeb gyda chi mewn llogi naill ai'r wal groesi neu'r wal ddringo, ffoniwch 01495 221058.