Prydau Ysgolion Cynradd

Rydyn ni wedi ymrwymo i fuddsoddi amser, ymdrech ac adnoddau sylweddol i ddatblygu a hyrwyddo bwydlenni maethlon i blant ysgol. Ein prif nod ni yw sicrhau bod pob plentyn yn cael y cyfle i fwynhau pryd o fwyd cytbwys ac iachus bob dydd, ynghyd â'r cyfle i archwilio profiadau bwyta newydd a chyffrous.

Bwydlen prydau ysgolion cynradd – Tymor yr Hydref 2024

Mae'r amserlen isod yn dangos rhifau'r wythnosau ar gyfer y fwydlen cinio ysgol am bob wythnos o’r flwyddyn ysgol 2024/2025. 

 

Wythnos yn cychwyn (2024)

Bwydlen

2 Medi

Wythnos 1

9 Medi

Wythnos 2

16 Medi

Wythnos 3

23 Medi

Wythnos 1

30 Medi

Wythnos 2

7 Hydref

Wythnos 3

14 Hydref

Wythnos 1

21 Hydref

Wythnos 2

Faint mae'n costio?

O fis Medi 2023, bydd pob disgybl yn yr ysgol gynradd yn gymwys i gael pryd o fwyd am ddim. Sylwch nad yw hyn yn cynnwys disgyblion meithrin rhan-amser sy'n gallu cael pryd o fwyd am gost.

kid with a meal

Prydau Ysgol am ddim i holl blant Ysgolion Cynradd (UPFSM) 

Diolch i gyllid Llywodraeth Cymru, mae cynghorau ledled Cymru yn ehangu'r fenter prydau ysgol am ddim.

Nod Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yw y bydd pob disgybl ysgol gynradd yn gallu cael prydau ysgol am ddim erbyn mis Medi 2023, cyn targed Llywodraeth Cymru o fis Medi 2024.  

Rydyn ni'n disgwyl cwblhau proses gweithredu'r fenter fesul cam erbyn diwedd mis Awst 2023 (gall newid gan ddibynnu ar unrhyw amgylchiadau annisgwyl a allai ddigwydd).

Mae disgyblion ysgol yn y Dosbarth Meithrin amser llawn hyd at flwyddyn 2 eisoes yn mwynhau prydau ysgol am ddim i holl blant ysgolion cynradd. Bydd cam olaf y broses yn golygu y bydd plant ym Mlwyddyn 3 hyd at Flwyddyn 6 yn eu cael nhw ym mis Medi. 

Prydau Ysgol am ddim i holl blant Ysgolion Cynradd – Cwestiynau Cyffredin

kid with a meal

Sut mae gwneud cais?

Os ydych chi'n cael budd-daliadau sy'n destun prawf modd, gallwch chi lenwi'r ffurflen sy'n golygu y byddwch chi hefyd yn dod yn gymwys ar gyfer y grant gwisg ysgol.

Os nad ydych chi'n cael budd-daliadau sy'n destun prawf modd, nid oes angen gwneud cais am brydau ysgol. Bydd angen i'ch plentyn roi gwybod i'r athro ei fod yn bwriadu cael cinio ysgol yn ystod y sesiwn gofrestru. Ar hyn o bryd, bydd plant yn y Dosbarth Meithrin amser llawn hyd at Flwyddyn 2 yn cael prydau am ddim, nid yw hyn yn destun prawf modd ac mae ar gael i bawb.

Ym mis Medi, bydd y fenter prydau am ddim hefyd yn cynnwys plant ym Mlwyddyn 3 hyd at Flywddyn 6, ac mae'r uchod yn wir yn yr achos hwn hefyd – gofynnwch yn yr ysgol i gael y prydau.

Diweddariadau e-bost o ran prydau ysgol

Cofrestru i gael y newyddion a'r wybodaeth ddiweddaraf am brydau ysgol –dewiswch ‘Prydau ysgol a chlybiau brecwast’ ar waelod y dudalen wrth ddiweddaru eich dewisiadau chi.

Cydymffurfio â'r Rheoliadau Bwyta'n Iach mewn Ysgolion

Mae'r Dystysgrif Cydymffurfio yn awgrymu bod y bwyd a'r diodydd sydd ar gael yn ysgolion cynradd Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn cyd-fynd â Rheoliadau Bwyta'n Iach mewn Ysgolion (Gofynion a Safonau Maeth) (Cymru) 2013.

Am ragor o wybodaeth am brydau ysgolion cynradd, cysylltwch â ni.

Cysylltwch â ni