Prydau Ysgol am ddim i holl blant Ysgolion Cynradd – Cwestiynau Cyffredin

Beth yw Prydau Ysgol am ddim i holl blant Ysgolion Cynradd?

Mae’r cynllun Prydau Ysgol am ddim i holl blant Ysgolion Cynradd yn rhan o’r Cytundeb Cydweithio rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru, a fydd yn sicrhau bod prydau ysgol ar gael am ddim i bob disgybl ysgol gynradd dros y tair blynedd nesaf, ni waeth beth fo incwm y cartref.

Pryd fydd y prydau hyn ar gael i ddisgyblion?

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gyflwyno’r cynllun yn raddol i bob disgybl ysgol gynradd erbyn 2024, gan gychwyn â:

  • Disgyblion Dosbarth Derbyn a Blwyddyn 1 - Medi 2022
  • Blwyddyn 2 a Disgyblion Meithrin Amser Llawn - 7 Tachwedd 2022.

Mae gen i blentyn hŷn, pryd y mae disgwyl i chi gyflwyno’r cynllun i flynyddoedd 3 a hŷn?

Bwriad Llywodraeth Cymru yw cynnig prydau ysgol am ddim i holl ddisgyblion oed cynradd erbyn 2024. Mae llawer o waith i’w wneud i gyfarparu a darparu adnoddau i geginau ysgol fel eu bod yn gallu ymdopi â'r cynnydd disgwyliedig yn y galw. Yma ym Mwrdeistref Sirol Caerffili, bydd yr holl ysgolion yn symud ar yr un cyflymder ac yn cyflwyno’r cynllun i grwpiau blwyddyn cymwys ar yr un pryd.

A fydd angen i mi lenwi ffurflen gais i hawlio prydau ysgol am ddim i fy mhlentyn?

Mae’r holl ddisgyblion yn y grwpiau blynyddol perthnasol yn gymwys i hawlio prydau ysgol am ddim yn awtomatig. Ni fydd rhaid i rieni a gofalwyr lenwi ffurflen gais, ond bydd yr ysgolion yn gofyn iddyn nhw o wythnos i wythnos pa ddiwrnodau yr hoffen nhw fanteisio ar y cynllun.

Rydw i ar incwm isel ac mae fy mhlentyn yn cael prydau ysgol am ddim ar hyn o bryd, sut fydd cyflwyno’r cynllun newydd yn effeithio arnaf i?

Ni fydd cyflwyno’r cynllun newydd yn effeithio ar deuluoedd ar incwm isel neu’r rheiny sy’n cael budd-daliadau penodol. Bydd teuluoedd sy’n manteisio ar y cynllun presennol yn parhau i fod yn gymwys i gael budd-daliadau eraill drwy’r Grant Datblygu Disgyblion, megis arian am wisg ysgol. Mae proses ymgeisio ar gyfer y cynllun presennol ac mae’n bwysig bod teuluoedd yn parhau i ddilyn y broses ymgeisio honno pan fydd y cynllun newydd yn cael ei gyflwyno fel nad ydyn nhw’n colli’r cyfle i gael budd-daliadau eraill.

Am ragor o wybodaeth am y meini prawf cymhwysedd a phroses ymgeisio’r cynllun presennol. 

A fydd ceginau ysgolion yn gallu ymdopi â chynnydd disgwyliedig yn y galw?

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn gweithio’n agos ag ysgolion a chyflenwyr arlwyo i sicrhau bod ceginau ysgolion wedi’u cyfarparu ag adnoddau addas.

Drwy gyflwyno’r cynllun newydd yn raddol, gan ddechrau â’r dosbarth derbyn a Blwyddyn 1 ym mis Medi 2022 a Blwyddyn 2 a disgyblion Meithrin llawn amser ar 7 Tachwedd 2022, gallwn ni sicrhau ein bod ni’n barod i ymateb i’r cynnydd disgwyliedig yn y galw.

Byddai’n well gennyf i pe bai fy mhlentyn yn parhau i fynd â bocs bwyd i’r ysgol – a fydd hyn yn bosibl?

Bydd, gall eich plentyn chi barhau i fynd â bocs bwyd i’r ysgol os ydych chi’n dewis gwneud hynny. Gallwch chi hefyd fanteisio ar y cynllun newydd ar rai dyddiau a mynd â bocs bwyd ar ddyddiau eraill.  

Rydw i eisiau i fy mhlentyn gael cinio ysgol, ond rydw i eisiau parhau i dalu amdano – a fydd hyn yn bosibl?

Yn unol ag ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ddarparu prydau ysgol am ddim i holl ddisgyblion oed cynradd erbyn 2024, ni fydd system ar waith i ddisgyblion yn y grwpiau blwyddyn perthnasol dalu am brydau ysgol o fis Medi 2022.

Mae gan fy mhlentyn anghenion deietegol penodol/alergedd. A fydd darpariaeth ar gyfer hyn?

Bydd. Mae darpariaeth ar gyfer deietau arbennig ac alergeddau dynodedig yn yr holl ysgolion eisoes, a bydd hyn yn parhau. Trafodwch unrhyw anghenion penodol sydd gan eich plentyn chi yn uniongyrchol â’ch ysgol chi.

Mae fy mhlentyn yn ffyslyd gyda bwyd. Pa opsiynau sydd gennych chi ar ei gyfer?

Ar hyn o bryd, mae cyflenwyr arlwyo yn cynnig bwydlen gwbl gytbwys o ran maeth, sy’n cynnwys ystod o opsiynau o ddydd i ddydd. Trafodwch unrhyw bryderon gyda’ch ysgol chi.

Mae’n well gan fy mhlentyn frechdanau, a fydd opsiwn i gael bocs bwyd o dan y cynllun newydd?

Gellir darparu brechdanau ar gyfer teithiau ysgol neu ddigwyddiadau tymhorol trwy gydol y flwyddyn.

Bydd rhagor o wybodaeth am brydau ysgol am ddim i holl blant ysgolion cynradd ar gael yma maes o law.