Gŵyl Bwyd a Diod, Caerffili 2024

Dyddiad : 27 Ebrill 2024 9:00am

Lleoliad : Canol Tref Caerffili, CF83 1JL

Gŵyl Bwyd a Diod, Caerffili 2024
Gŵyl Bwyd a Diod, Caerffili 2024

Dydd Sadwrn 27 Ebrill, 9am - 5pm

Mae Gŵyl Bwyd a Diod, Caerffili, wedi bod yn ddigwyddiad blynyddol yng nghanol tref Caerffili ers nifer o flynyddoedd ac mae’n cael ei chynnal rhwng 9am a 5pm ddydd Sadwrn 27 Ebrill!

Gall ymwelwyr grwydro drwy'r stondinau niferus o ben Cardiff Road i Faes Parcio’r Twyn, gan fwynhau golygfa ysblennydd Castell Caerffili godidog o’r 13eg ganrif sydd wedi'i leoli wrth galon y digwyddiad!

Mae canol y dref yn cael ei drawsnewid yn farchnad sy'n llawn dop o ddanteithion coginiol; mae’n baradwys i’r rhai sy’n dwlu ar fwyd gyda nifer fawr o stondinau bwyd a diod i demtio blasbwyntiau ymwelwyr gydag aroglau blasus a chynnyrch sy'n tynnu dŵr o'r dannedd.

Mae rhaglen o arddangosiadau coginio wedi'i chynllunio drwy gydol y dydd ac mae'r digwyddiad yn ymuno â'r marchnadoedd misol sefydledig sy'n cael eu cynnal yng nghanol y dref. Mae Marchnad y Crefftwyr yng Nghanolfan Gymunedol y Twyn, Marchnad Fwyd a Chrefft, Canolfan Siopa Cwrt y Castell, a ffair grefftau ger y senotaff gan Crafty Legs yn dod â hyd yn oed mwy o amrywiaeth!

Bydd diddanwyr stryd yn crwydro’r ŵyl drwy’r dydd i ddiddanu pawb a bydd detholiad bach o reidiau ffair i blant i ddiddanu’r rhai bach!

Mae gan ganol y dref ddewis hyfryd o siopau annibynnol gyda syniadau ar gyfer anrhegion trawiadol, ac mae hefyd nifer o siopau'r stryd fawr. Mae Caerffili yn cynnig amrywiaeth eang o leoliadau bwyta allan ledled canol y dref, gan gynnwys caffis, bariau a bwytai, felly, #DewisLleol a chefnogi canol eich tref leol chi.

Bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal yn Cardiff Road, Twyn Road, Castle Street (tua'r gogledd yn unig) a maes parcio'r Twyn, lle bydd y ffyrdd ar gau rhwng 9pm nos Wener 26 Ebrill a 9pm nos Sadwrn 27 Ebrill.

Edrychwch ar dudalen y digwyddiad ar Facebook, yma.

I holi am ofod masnachu a'r digwyddiad yn gyffredinol, anfonwch e-bost i digwyddiadau@caerffili.gov.uk.

Am ragor o wybodaeth am yr ŵyl, gan gynnwys y rhaglen arddangosiadau coginio, y rhaglen adloniant, stondinau a fydd yn bresennol a'r ffyrdd a fydd ar gau, ewch i www.caerphillyfoodfestival.co.uk/cy/ neu www.visitcaerphilly.com/cy/events/.

Sylwch: gall yr holl wybodaeth newid.

Mae'r prosiect hwn wedi'i ariannu'n rhannol gan Lywodraeth y DU trwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.

Mae Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU yn biler canolog i agenda Ffyniant Bro llywodraeth y DU ac yn ddarparu £2.6 biliwn o gyllid ar gyfer buddsoddiad lleol erbyn mis Mawrth 2025. Nod y Gronfa yw gwella balchder lle a chynyddu cyfleoedd bywyd ledled y DU gan fuddsoddi mewn cymunedau a lleoedd, cynorthwyo busnesau lleol, pobl a sgiliau. Am ragor o wybodaeth, ewch i Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU. #UKSPF

LU-logo-welsh-translation.png