FFURFLENNI AR-LEIN / ONLINE FORMS

FFURFLENNI AR-LEIN: Nid yw rhai o'n ffurflenni ar-lein ar gael ar hyn o bryd wrth i ni wneud gwaith cynnal a chadw hanfodol. Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra y gallai hyn ei achosi.

ONLINE FORMS: Some of our online forms are currently unavailable whilst we carry out essential maintenance. We apologise for any inconvenience this may cause.

Graffiti a phosteri anghyfreithlon

Mae graffiti yn weithgarwch gwrthgymdeithasol sy’n creu delwedd negyddol o ardal ac sy’n cyfrannu at ofn pobl o droseddau.

Rydym yn gyfrifol am lanhau graffiti oddi ar adeiladau ac eiddo y mae’r cyngor yn berchen arnynt. Nid ydym yn gyfrifol am lanhau graffiti oddi ar adeiladau ac eiddo preifat. 

Mewn partneriaeth â’r Gwasanaeth Prawf, mae CBSC Saffach yn dîm sy’n gyfrifol am ddatblygu mentrau newydd i leihau troseddau, anrhefn ac ymddygiad gwrthgymdeithasol yn yr ardal, sy’n cynnwys glanhau graffiti.

Rhoi gwybod i ni am graffiti a phosteri anghyfreithlon

Os byddwch yn darganfod graffiti, rhowch wybod i ni amdano.

Rhoi gwybod i ni am graffiti a phosteri anghyfreithlon >

Sylwch, ni fydd y ffurflen hon yn gweithio o fewn Internet Explorer. Defnyddiwch borwr mwy modern fel Edge, Chrome neu Safari

Bydd y ddolen hon yn cymryd chi i Cyswllt Caerffili. Cofrestrwch nawr neu mewngofnodwch i adrodd, ymgeisio neu i dalu am wasanaethau. Os nad ydych am greu cyfrif, cliciwch ar ‘Parhau heb gofrestru’. Edrychwch yn eich ffolder e-bost sothach/sbam am neges actifadu cyfrif a negeseuon hysbysu oddi wrthym!

Fel arall, gallwch gysylltu â’r adran Strategaeth a Gweithrediadau Gwastraff.

Gellir erlyn unrhyw un sy’n cael eu dal yn achosi graffiti o dan Ddeddf Difrod Troseddol 1971. Os yw’r difrod yn llai na £5,000 y ddirwy uchaf yw £5,000. Gellir rhoi gorchymyn gwasanaeth cymunedol i droseddwyr ifanc.