Dyddiad : 06 Gorffennaf 2024 9:00am
Lleoliad : Bargoed town centre, CF81 8QT
Gŵyl Gerddoriaeth yr Haf, Bargod 2024
Dydd Sadwrn 6 Gorffennaf 2024, 9am - 7.30pm
Ymunwch â digwyddiad Facebook swyddogol Gŵyl Gerddoriaeth yr Haf, Bargod.
Canol tref Bargod fydd lleoliad cerddoriaeth gorau Bwrdeistref Sirol Caerffili ym mis Gorffennaf eleni gyda Gŵyl Gerddoriaeth yr Haf gyntaf un Bargod!
Bydd y digwyddiad newydd sbon hwn yn cynnwys prif lwyfan cerddoriaeth ar Lowry Plaza a phedair ardal cerddoriaeth stryd ledled canol y dref, gan gysylltu â The Square Royale, Murray’s a Bourton’s Live Music Café Bar i ddod â chanol y dref i gyd yn fyw!
Bydd cwrtiau yfed ledled y dref ochr yn ochr â’r lleoliadau allweddol hyn, yn ogystal â detholiad o fariau ar Lowry Plaza. (Sylwch: Mae caniatâd i yfed alcohol yn y cwrtiau yfed dynodedig yn unig. Nid oes modd yfed alcohol yn unrhyw le arall ar y safle.)
Yn ogystal, bydd reidiau ffair a llawer o stondinau bwyd a diod ar y safle i helpu i greu’r diwrnod perffaith er mwyn ymlacio, dawnsio a chael ychydig o hwyl hafaidd!
Hefyd, cofiwch edrych ar yr hyn sydd gan fusnesau a lleoliadau gwych canol tref Bargod i'w gynnig i ddathlu’r diwrnod, yn ogystal â Ffair a Marchnad Grefftau Bargod, sy'n cael ei chynnal gan Crafty Legs Events!
Manylion y rhaglen gerddoriaeth ac adloniant i ddilyn – cadwch lygad am hynny!
Ariennir y digwyddiad hwn gan Gyngor Tref Bargoed a’i drefnu gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili.
Am fwy o wybodaeth, ewch i www.visitcaerphilly.com.
Enquiries:
E-bost: digwyddiadau:caerffili.gov.uk
Ffôn: 01443 866390