Canolfan Newyddion

Bwletin Newyddion
Mae mam a dwy ferch o Fochriw a fu’n bridio cŵn heb drwydded gan fagu o leiaf 27 torllwyth dros gyfnod o 2 flynedd wedi’u dedfrydu am fridio cŵn heb drwydded o dan Ddeddf Lles Anifeiliaid 2006
Mae Canolfan Farchogol Smugglers, sydd wedi'i lleoli ar Pen-deri Farm Lane ym Manmoel ger Coed Duon, yn cynnig lifrai i'r gymuned leol, yn ogystal â gwersi marchogaeth, llogi faniau ceffylau, llogi cyfleusterau a lle i gynnal digwyddiadau.
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili ar fin tynnu'r £120,000 ar gyfer gwasanaeth bws Rail Linc 901 rhwng Coed Duon a Gorsaf Drenau Ystrad Mynach yn ôl oherwydd gostyngiad yn y niferoedd a chyfyngiadau cyllidebol.
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn cynnig pecynnau Plannu Llain er budd Peillwyr AM DDIM i drigolion, busnesau ac ysgolion i'w helpu nhw i gysylltu â byd natur trwy dyfu blodau gwyllt yn eu gerddi neu eiddo.
Mae banc bwyd Cwm Rhymni bellach ar ben ffordd, yn sgil rhodd gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili.
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili eisiau eich barn chi ar ein Strategaeth Ddrafft ar gyfer Rheoli Perygl Llifogydd.