News Centre

​Bridwyr Cŵn Didrwydded o Fargod yn cael eu Herlyn a'u Gwahardd rhag Cadw Anifeiliaid

Postiwyd ar : 12 Gor 2023

​Bridwyr Cŵn Didrwydded o Fargod yn cael eu Herlyn a'u Gwahardd rhag Cadw Anifeiliaid
Cŵn cyn ac ar ôl achub

Mae mam a dwy ferch o Fochriw a fu’n bridio cŵn heb drwydded gan fagu o leiaf 27 torllwyth dros gyfnod o 2 flynedd wedi’u dedfrydu am fridio cŵn heb drwydded o dan Ddeddf Lles Anifeiliaid 2006.  

Plediodd Julie Pearce (57 oed), Rosalie Pearce (33 oed) a Kaylie Adams (24 oed) o Glyn Terrace, Fochriw, Bargod yn euog ar 24 Ebrill a chawson nhw eu dedfrydu yn Llys y Goron Caerdydd ar 10 Gorffennaf 2023 ar gyfer bridio cŵn heb drwydded a methu â nodi mewn hysbysebion bod cŵn bach yn cael eu hysbysebu gan fridiwr cŵn yn groes i Reoliadau Diogelu Defnyddwyr rhag Masnachu Annheg 2008.

Cafodd y merched, Rosalie a Kaylee Adams, hefyd eu dedfrydu am fethu ag amddiffyn 54 o gŵn rhag boen, dioddefaint, anaf ac afiechyd ac am ddarparu amgylchedd addas iddyn nhw sy’n groes i Ddeddf Lles Anifeiliaid 2006.

Cafodd y menywod eu gwahardd rhag berchen, gadw a chludo unrhyw anifail am 10 mlynedd.

Cafodd Julie Pearce ddedfryd ohiriedig o 52 wythnos; derbyniodd Rosalie Pearce a Kayleigh Adams dedfrydau gohiriedig o 66 wythnos. 

Cafodd Kaylie Adams hefyd orchymyn i gyflawni 100 awr o waith di-dâl ac 8 diwrnod o weithgarwch adsefydlu; Rosalie Pearce 100 awr o waith di-dâl a Julie Pearce 15 diwrnod o weithgarwch adsefydlu.
Daw’r ddedfryd yn dilyn ymchwiliad gan dîm Safonau Masnach Cyngor Caerffili ar ôl i wybodaeth am fridio cŵn gael ei hadrodd i adran Drwyddedu’r awdurdod.

Cynhaliodd swyddogion, gyda chymorth Milfeddyg ac Arolygwyr yr RSPCA, chwiliad o'r eiddo a chanfod 54 o gŵn, mewn “amodau ofnadwy” wedi'u halogi ag ysgarthion ac wrin. Yr amodau yn yr eiddo oedd y gwaethaf y mae Safonau Masnach Caerffili wedi dod ar eu traws erioed.

Mae lluniau a gafodd eu tynnu tu mewn i'r eiddo yn dangos bod yr anifeiliaid wedi'u cadw mewn 'amgylchedd budr' yng nghartref y teulu.   Cafodd yr anifeiliaid eu symud a'u rhoi yng ngofal Hope Rescue, a hoffen ni ddiolch iddyn nhw am ofalu am y cŵn. 

Clywodd y llys fod y menywod wedi bod yn bridio a gwerthu cŵn bach o'u cartref ers 2019. Roedd tystiolaeth yn dangos bod 27 torllwyth o gŵn bach wedi’u geni rhwng mis Mawrth 2020 a mis Mawrth 2022 a hyd at 28 o eist bridio yn cael eu cadw ar y safle.

Roedd y cŵn a'r cŵn bach yn cael eu hysbysebu ar lwyfannau gwerthu ar-lein. Cafodd yr elw a wnaethon nhw ei gyfrifo i fod o leiaf £150,000.  Bydd camau pellach yn cael eu cymryd yn erbyn y partïon o dan Ddeddf Enillion Troseddau 2002.

Dywedodd Sara Rosser, Rheolwr Gweithrediadau Canolfan Hope Rescue 'Roedden ni'n falch o allu cefnogi gwaith caled Safonau Masnach Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili gyda'r achos hwn. Brawychus oedd gweld cymaint o gŵn yn byw mewn amodau mor ofnadwy.

Roedd angen i'r mwyafrif gael eu ffwr wedi'i dorri'n gyfan gwbl gan ein staff yn y ganolfan oherwydd bod eu cotiau wedi'u gorchuddio cymaint mewn ysgarthion ac wrin ac roedd llawer wedi'u gorchuddio â chwain. Roedd rhai o'r cŵn hefyd yn feichiog neu'n bwydo cŵn bach ifanc ac angen gofal ychwanegol. Ar ôl byw bywydau mor gysgodol, roedd angen cymorth ychwanegol ar lawer o’r cŵn hefyd i ddysgu am bethau  cŵn arferol fel cerdded ar dennyn, teithio mewn car a hyfforddiant i beidio â baeddu yn y cartref. Rydyn ni'n falch o ddweud bod pob un o'r cŵn bellach wedi mynd ymlaen i ddod o hyd i gartrefi gwych lle maen nhw wedi dod yn aelodau annwyl o'r teulu ac yn gallu byw'r bywydau y maen nhw'n eu haeddu.'

Dywedodd y Cynghorydd Philippa Leonard, Aelod Cabinet dros Ddiogelu’r Cyhoedd “Yn anffodus, mae bridwyr didrwydded yn aml yn blaenoriaethu elw dros les anifeiliaid.  Mae bridio cŵn heb drwydded yn fater difrifol a'r gobaith yw y bydd canlyniad yr achos hwn yn ataliad cryf i'r rhai sy'n gweithredu yn y modd hwn.  Mae lles anifeiliaid yn flaenoriaeth yng Nghaerffili ac ni fyddwn ni'n oedi cyn ceisio a gweithredu yn erbyn unrhyw un sy'n torri'r gyfraith. Bydd ymchwiliadau Deddf Enillion Troseddau a gorchmynion sifil ar gyfer adennill costau rhoi cartref a gofal i unrhyw gŵn a gafodd eu hatafaelu hefyd yn cael eu dilyn yn ogystal â gorchmynion erlyn a gwahardd.

“Os oes unrhyw un yn bryderus neu'n amheus o fridio cŵn yn anghyfreithlon, cysylltwch â'n timau Safonau Masnach neu Drwyddedu.  Bydd eich gwybodaeth yn ein helpu ni i fynd i'r afael â bridio cŵn bach yn anghyfreithlon yng Nghaerffili a bydd yn helpu i atal anifeiliaid rhag cael eu hecsbloetio gan fridwyr diegwyddor.

SafonauMasnach@caerffili.gov.uk | Trwyddedu@caerffili.gov.uk



Ymholiadau'r Cyfryngau