Drwy ddefnyddio’r safle we hwn, rydych yn cytuno i’n defnydd ni o gwcis.
Cliciwch am fwy o fanylion
.
Skip to content
Hygyrchedd
Cysylltwch â ni
Y ganolfan newyddion
Tanysgrifio
English
Search for:
Tasgau poblogaidd
Preswylydd
Busnes
Pethau i'w gwneud
Y Cyngor
Cymerwch ran
Menu
Tasgau poblogaidd
Swyddi a hyfforddiant
Prydau ysgolion cynradd
Canolfannau Hamdden
Canlyniadau'r Etholiad Cyffredinol 2024
Treth y Cyngor
Casgliad bin wedi'i golli
Gwneud cais, adrodd, gofyn, talu
Ysgolion, dyddiadau tymor a chau ysgolion
Trafnidiaeth gyhoeddus – gwybodaeth a chyngor
Credyd Cynhwysol (yn lle Budd-daliadau Tai)
Chwilio, olrhain a gwneud sylwadau ar geisiadau cynllunio
Diwrnodau casglu gwastraff
Preswylydd
Busnes
Pethau i'w gwneud
Y Cyngor
Cymerwch ran
Newyddion
Newyddion
Mai 2024
Llwyddiant ysgubol yn ras 10 Cilomedr Caerffili 2024
News Centre
Llwyddiant ysgubol yn ras 10 Cilomedr Caerffili 2024
Postiwyd ar : 14 Mai 2024
Roedd yr haul yn tywynnu wrth i redwyr heidio i Gaerffili ar gyfer rasys blynyddol 10 cilomedr a 2 gilomedr Caerffili Bryn Meadows ddydd Sul 12 Mai.
Fe wnaeth y cwrs, yng nghysgod castell trawiadol Caerffili, arwain dros 2,000 o redwyr drwy ganol y dref, ac o'i chwmpas, gan fynd heibio tirnodau eiconig fel cerflun Tommy Cooper a'r cerflun caws enfawr.
Roedd y ras 10 cilomedr boblogaidd, sy'n denu rhedwyr o bob rhan o Gymru a thu hwnt, yn cynnwys Pencampwriaethau Rhedeg Ffordd 10 Cilomedr Athletau Cymru ac yn rhan o Gyfres Rasys Ffordd Cymru. Torrodd Dewi Griffiths record y cwrs, sef record roedd eisoes yn berchen arni, gan groesi’r llinell derfyn 10 cilomedr mewn 29 munud a 12 eiliad. Lauren Cooper oedd y fenyw gyntaf i groesi'r llinell derfyn mewn 36 munud ac 20 eiliad.
Roedd y ras hwyl 2 gilomedr, sy'n denu mwy o bobl bob blwyddyn, yn llwyddiant ysgubol gydag ysgolion lleol, grwpiau cymunedol a chlybiau chwaraeon yn cymryd rhan ynddi.
Meddai Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Sean Morgan, a redodd ras 10 cilomedr Caerffili, “Fel arfer, roedd yn ddigwyddiad gwych, a gafodd ei drefnu gan y timau Datblygu Chwaraeon a Digwyddiadau. Roedd yr awyrgylch o gwmpas canol y dref ac ar hyd y cwrs yn anhygoel ac roedd yn wych gweld cynifer o fusnesau lleol a phobl leol yn cymryd rhan ac yn cefnogi'r rhedwyr”.
Dywedodd y Cynghorydd Chris Morgan, Aelod Cabinet dros Hamdden, “Roedd yn wych gweld cynifer o bobl o bob cwr o'r rhanbarth yn dod at ei gilydd i gymryd rhan yn rasys 10 cilomedr a 2 gilomedr Caerffili Bryn Meadows. Mae'r digwyddiad yn cefnogi ein gweledigaeth o gael mwy o bobl, yn fwy egnïol, yn fwy aml. Rydyn ni'n gobeithio gweld pawb eto y flwyddyn nesaf!”
Gallwch chi gofrestru nawr ar gyfer digwyddiad y flwyddyn nesaf a fydd yn digwydd ddydd Sul 11 Mai 2025. Bydd y cynnig cyw cynnar yn ddilys tan 9 Mehefin 2024 sy'n golygu y bydd rhedwyr 10 cilomedr yn talu ffi mynediad o ddim ond £21. I gofrestru, ewch i:
www.caerphilly10k.co.uk
.
Hoffen ni ddiolch i'n prif noddwr Bryn Meadows, Llamau a'n noddwr ceir Griffin Mill am eu cefnogaeth barhaus i'r digwyddiad.
Mae canlyniadau llawn y ras ar gael yma:
https://bit.ly/44HGiPI
Mae lluniau swyddogol ar gael yma:
https://bit.ly/4bjqmFA
Rhannwch y dudalen hon :
Rhannwch ar Facebook
Rhannwch ar Twitter
Newyddion Diweddar
Cabinet yn cymeradwyo cynlluniau Llunio Lleoedd
Tynnu pont droed Gorsaf Caerffili
Newidiadau i gludiant rhwng y cartref a'r ysgol yn destun adolygiad
Parti Traeth Coed Duon yn denu miloedd i ganol y dref
Digwyddiad Cwadrathlon i Blant Clwb Athletau Cwm Rhymni yn Hwb Athletau Cyngor Caerffili
Ymholiadau'r Cyfryngau
Cyfeiriad E-bost
Ffôn
Cyfeiriad
Gwasanaethau A i Y
A
B
C
Ch
D
Dd
E
F
Ff
G
Ng
H
I
L
Ll
M
N
O
P
Ph
R
Rh
S
T
Th
U
W
Y