News Centre

Tynnu arian ar gyfer gwasanaeth bws â chymhorthdal yn ôl

Postiwyd ar : 10 Gor 2023

Tynnu arian ar gyfer gwasanaeth bws â chymhorthdal yn ôl
Rail Linc

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili ar fin tynnu'r £120,000 ar gyfer gwasanaeth bws Rail Linc 901 rhwng Coed Duon a Gorsaf Drenau Ystrad Mynach yn ôl oherwydd gostyngiad yn y niferoedd a chyfyngiadau cyllidebol.

Cafodd y penderfyniad ei wneud yn ystod cyfarfod y Cyngor llawn i dynnu’r cyllid sy’n gymhorthdal i'r gwasanaeth hwn yn ôl yn wyneb y lefel sylweddol o arbedion cyllidebol sydd eu hangen ar gyfer Cyllideb y Cyngor yn 2023/24.  

Mae’r gwasanaeth wedi’i effeithio’n andwyol gan bandemig Covid 19 gyda gostyngiad yn nifer y teithwyr ac mae’r niferoedd wedi aros yn isel yn y blynyddoedd diwethaf. Yn 2022/23, fe ddarparodd y Cyngor gymhorthdal o £13.43 fesul teithiwr sy'n defnyddio gwasanaeth Rail Linc 901, ac mae’r gost hon wedi parhau i godi yn wyneb pwysau economaidd eraill.

Mae llwybr bws gwasanaeth amgen yn gweithredu rhwng Ystrad Mynach a Choed Duon sy'n cynnwys arosfannau ychwanegol ar y llwybr. Bydd tynnu'r cymhorthdal hwn i Adventure Travel yn ôl yn arwain at arbedion o £120,000 y flwyddyn.

Bydd y gwasanaeth yn dod i ben ar ôl dydd Sadwrn 22 Gorffennaf 2023.

 



Ymholiadau'r Cyfryngau