News Centre

Banc bwyd Cwm Rhymni ar ben ffordd

Postiwyd ar : 06 Gor 2023

Banc bwyd Cwm Rhymni ar ben ffordd
Mae banc bwyd Cwm Rhymni bellach ar ben ffordd, yn sgil rhodd gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili.

Darparodd y Cyngor grant drwy ei Gronfa Ymrymuso'r Gymuned i alluogi'r banc bwyd i brynu fan newydd a thalu'r costau rhedeg am 12 mis.

Mae'r rhodd hon wedi gwneud gwahaniaeth enfawr drwy helpu'r banc bwyd – sy'n gweithredu yn Aberbargod, Rhymni a Thredegar Newydd – i ddosbarthu bwyd a chasglu nwyddau mawr eu hangen.

Meddai'r Cynghorydd Carol Andrews, Aelod Cabinet y Cyngor â chyfrifoldeb am Gymunedau, “Mae banciau bwyd lleol yn darparu cymorth amhrisiadwy i rai o'n trigolion mwyaf agored i niwed ar adegau o argyfwng.

“Yn anffodus, mae banciau bwyd wedi gweld cynnydd sylweddol yn y galw am eu gwasanaethau o ganlyniad i'r argyfwng costau byw presennol ac rydyn ni'n falch o gynnig ein cymorth i'w helpu nhw i barhau i gynorthwyo'r rhai mewn angen yn ein cymunedau.”

Ychwanegodd Cadeirydd Banc Bwyd Cwm Rhymni, y Parchedig Ganon Mark Owen, “Diolch i Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, mae'r fan wedi gwneud gwahaniaeth enfawr.

“Mae'n ein helpu ni i gyrraedd ardaloedd sydd â mynediad gwael at drafnidiaeth gyhoeddus ac mae'n gallu cludo tua un dunnell o fwyd, a fyddai wedi cymryd pedair taith yn y car yn flaenorol.”

Am ragor o wybodaeth am y cymorth sydd ar gael gan fanciau bwyd yn y Fwrdeistref Sirol, cysylltwch â thîm Gofalu am Gaerffili y Cyngor ar 01443 811490 neu e-bostio GofaluAmGaerffili@caerffili.gov.uk


Ymholiadau'r Cyfryngau