News Centre

Dweud eich dweud ynglŷn â rheoli llifogydd

Postiwyd ar : 04 Gor 2023

Dweud eich dweud ynglŷn â rheoli llifogydd

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili eisiau eich barn chi ar ein Strategaeth Ddrafft ar gyfer Rheoli Perygl Llifogydd.

Cafodd ein Strategaeth Leol ar gyfer Rheoli Perygl Llifogydd ei chyhoeddi gyntaf yn 2013. Rydyn ni nawr yn bwriadu diweddaru ein strategaeth yn unol â'r newidiadau i'r strategaeth genedlaethol, y ddeddfwriaeth a'r canllawiau newydd, a'r gwersi sydd wedi’u dysgu dros y 10 mlynedd diwethaf.

Bydd yr adborth hwn yn ein helpu i ddrafftio ein Strategaeth Rheoli Perygl Llifogydd Lleol diwygiedig a byddwn yn ymgynghori ymhellach ar y drafft diwygiedig yn hydref 2023.

Mae’r strategaeth yn delio â’r perygl o lifogydd lleol yn unig, a ddiffinnir yn y ddeddf fel y perygl llifogydd canlynol:

  • Dŵr arwyneb sy’n llifo
  • Dŵr daear
  • Dyfrffosydd cyffredin (cyfrifoldeb Cyfoeth Naturiol Cymru yw llifogydd yn y prif afonydd).

Mae’r Strategaeth Leol ar gyfer Rheoli Perygl Llifogydd yn esbonio’n glir sut yr eir ati i ddelio â’r perygl o lifogydd ym Mwrdeistref Sirol Caerffili ac mae’n cynnwys y canlynol: -

  • Gwybodaeth am y perygl o lifogydd lleol yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, gan dynnu sylw at yr ardaloedd sydd eisoes wedi cael problemau a'r lefelau cyfredol o ran perygl llifogydd.
  • Esboniad o ran pa sefydliad sy’n gyfrifol am ba feysydd mewn perthynas ag atal a rheoli llifogydd.
  • Gwybodaeth am y mesurau a gyflawnir i leihau’r perygl o lifogydd.
  • Esboniad o ran sut caiff y gwaith ei flaenoriaethuMesurau y gall cymunedau eu cyflawni i wella eu gwydnwch rhag llifogydd, gan nad yw’n bosibl atal yr holl lifogydd.

Cwblhewch arolwg Strategaeth Rheoli Perygl Llifogydd Drafft.

Mae copi o'r arolwg a gwybodaeth ategol hefyd ar gael yn eich llyfrgell agosaf.

Y dyddiad cau ar gyfer yr arolwg hwn yw 28 Gorffennaf 2023.



Ymholiadau'r Cyfryngau