News Centre

Caniatáu Gorchymyn Cau ar eiddo problemus

Postiwyd ar : 09 Mai 2024

Caniatáu Gorchymyn Cau ar eiddo problemus
Mae eiddo sydd dan berchnogaeth Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi cael Gorchymyn Cau, yn dilyn digwyddiadau parhaus o niwsans ac ymddygiad gwrthgymdeithasol.
 
Cafodd y cais am y Gorchymyn ei gyflwyno'n llwyddiannus gan Dîm Ymddygiad Gwrthgymdeithasol Cartrefi Caerffili y Cyngor. Roedd yr eiddo wedi bod yn ganolbwynt ar gyfer niwsans ac ymddygiad gwrthgymdeithasol am gyfnod sylweddol, gyda nifer o drigolion yn cysylltu â'r tîm am gymorth i fynd i'r afael â'r problemau.  
 
Daeth cwynion i law ynghylch sŵn annerbyniol am gyfnodau estynedig ac yn ystod oriau gwrthgymdeithasol, ac ymladd yn yr eiddo gyda dadleuon cysylltiedig yn gorlifo i fannau cyhoeddus cyffredin y tu allan.  
 
Mae'r Gorchymyn Cau yn golygu bod y preswylydd presennol yn cael aros, ond dim ond un aelod penodol o'r teulu all ymweld â'r eiddo am gyfnod cychwynnol o 3 mis. Mae'r rhai sy'n mynychu'r eiddo gan dorri'r Gorchymyn yn agored i gael eu harestio, gyda’r posibilrwydd o ddirwy, cyfnod o 51 wythnos yn y carchar, neu’r ddau.
 
Dywedodd y Cynghorydd Shayne Cook, Aelod Cabinet y Cyngor dros Dai, "Roedd y digwyddiadau yn yr eiddo hwn yn cael effaith sylweddol ar y trigolion eraill a'u teuluoedd, gan gynnwys aflonyddu ar gwsg a theimlo’nn ofnus. Yn ogystal â chynnig sicrwydd i gartrefi cyfagos, rydyn ni hefyd yn gobeithio y bydd hyn yn rhybudd i bobl eraill na fydd ymddygiadau fel y rhai cafodd eu harddangos yn yr eiddo hwn yn cael eu goddef.”

Os ydych chi'n wynebu digwyddiadau parhaus neu ddifrifol o ymddygiad gwrthgymdeithasol neu niwsans gan gymdogion, cysylltwch â Thîm Ymddygiad Gwrthgymdeithasol Cartrefi Caerffili ar 01443 811440 neu anfon e-bost i CartrefiCaerffiliYGG@caerffili.gov.uk
 


Ymholiadau'r Cyfryngau