News Centre

Canolfan Farchogol Smugglers i gynnig gwersi marchogaeth i ddechreuwyr ar ôl cael cyllid gan Lywodraeth y DU a Chyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili

Postiwyd ar : 11 Gor 2023

Canolfan Farchogol Smugglers i gynnig gwersi marchogaeth i ddechreuwyr ar ôl cael cyllid gan Lywodraeth y DU a Chyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili
Mae Canolfan Farchogol Smugglers, sydd wedi'i lleoli ar Pen-deri Farm Lane ym Manmoel ger Coed Duon, yn cynnig lifrai i'r gymuned leol, yn ogystal â gwersi marchogaeth, llogi faniau ceffylau, llogi cyfleusterau a lle i gynnal digwyddiadau. Dechreuodd Melissa Burles y busnes yn 2017 gyda dim ond 3 merlen. Mae ganddi hi bellach dros 40 ohonyn nhw, gyda chyfleusterau gwych ar gyfer eu gofal a’u lles.

Cafodd Canolfan Farchogol Smugglers £9,000 gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU. Cafodd y grant hwn ei neilltuo tuag at Ganolfan Farchogaeth Smugglers trwy ymyrraeth Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili o gyllid y Gronfa Ffyniant Gyffredin, gyda'r cwmni'n rhoi arian cyfatebol hefyd. Roedd y grant i gynorthwyo prynu ceffyl mecanyddol, er mwyn iddyn nhw gynnig gwersi marchogaeth i ddechreuwyr pur, a hefyd i alluogi marchogion eraill i berffeithio eu symudiadau dressage a symudiadau arena sylfaenol drwy ymarfer cydbwysedd. Y Ganolfan yw'r unig le yng Nghymru gyfan i gynnig y cyfleuster hwn.

Mae'r prosiect newydd wedi diogelu 2 swydd gan ychwanegu at rolau amrywiol y gweithwyr hyn. Mae hefyd yn darparu ffynhonnell arall o incwm iddyn nhw ac yn denu cwsmeriaid o ymhellach i ffwrdd.

Esboniodd Melissa fod “y grant a gawson ni gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi ein galluogi ni i gynnig ystod ehangach o wasanaethau marchogol trwy ddarparu sesiynau dressage penodol, marchogaeth yn gyffredinol a marchogaeth i'r anabl trwy ein ceffyl mecanyddol.  Mae hyn wedi bod yn ased amhrisiadwy i'n canolfan ni, gan ei fod yn darparu sesiynau di-risg sy'n canolbwyntio ar ddiogelwch yn arbennig ar gyfer marchogwyr nerfus neu blant ac oedolion ag anableddau dysgu.   Rydyn ni hefyd yn cynnig y gwasanaeth hwn fel sesiynau grŵp ar gyfer ein clybiau marchogaeth a chlybiau merlod lleol a, chyn bo hir, byddwn ni'n cyflwyno sesiynau ffitrwydd trwy ‘Legless’ y ceffyl mecanyddol.”

“Mae’r ychwanegiad newydd hwn wedi sicrhau swyddi drwy ychwanegu ffynhonnell incwm arall. Heb y grant gan Gyngor Caerffili, ni fydden ni wedi gallu ariannu’r fenter newydd hon gan fod risg y buddsoddiad yn ormod. Roedd y broses ymgeisio yn gyflym ac yn effeithlon, roedd y tîm yn barod iawn i helpu gyda fy holl ymholiadau a chafodd y penderfyniad ei wneud yn gyflym iawn.”

Fe ymwelodd y Cynghorydd Jamie Pritchard, Aelod Cabinet dros Ffyniant, Adfywio a Newid yn yr Hinsawdd, i weld yr offer newydd, ac i roi cynnig ar y profiad newydd hwn. Dywedodd, “Mae’n wych gweld busnes fel hwn yn ehangu drwy gymorth Cyngor Caerffili ac yn cynnig cyfleusterau gwych i’r ardal leol, ac mae’n braf gweld mai’r Fwrdeistref Sirol yw’r gyntaf i gael cyfleuster o’r fath yng Nghymru. Bydd yr offer newydd hwn yn ddefnyddiol iawn i gyflwyno newydd-ddyfodiaid ac i roi gwell profiad i farchogwyr mwy sefydledig.”


Ymholiadau'r Cyfryngau