News Centre

​Terfyn cyflymder 20mya yn cychwyn dydd Sul 17 Medi

Postiwyd ar : 15 Medi 2023

​Terfyn cyflymder 20mya yn cychwyn dydd Sul 17 Medi

O’r 17 Medi 2023, bydd y terfyn cyflymder diofyn mewn ardaloedd adeiledig yng Nghymru yn gostwng o 30mya i 20mya. Mae hyn yn cynnwys ffyrdd lle mae goleuadau stryd wedi’u gosod 200 llath neu lai oddi wrth ei gilydd.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno’r newidiadau deddfwriaethol i wneud ffyrdd yn fwy diogel, lleihau gwrthdrawiadau ar y ffyrdd, annog rhagor o bobl i gerdded a beicio ac i ddiogelu’r amgylchedd ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi bod yn paratoi pethau ar ein ffyrdd i wneud yn siŵr bod popeth yn glir pan fyddwch chi'n gyrru yn y fwrdeistref sirol.

Mae marciau 30mya ar y ffyrdd wedi'u tynnu neu eu paentio drosodd yn y cyfnod cyn y dyddiad lansio yr wythnos hon ac mae arwyddion ffyrdd terfyn cyflymder hefyd wedi'u tynnu. Mae hyn yn cynnwys arwyddion parthau 20mya y tu allan i ysgolion oherwydd bydd y ffyrdd hyn yn destun y terfyn diofyn o 20mya o’r 17 Medi gyda’r holl gostau’n cael eu talu gan Lywodraeth Cymru.

Mae arwyddion 20mya newydd wedi'u gosod a byddan nhw’n cael eu datgelu pan ddaw'r terfyn cyflymder diofyn o 20mya i rym.

Er y bydd y rhan fwyaf o ffyrdd 30mya diofyn yn gostwng yn awtomatig i 20mya, mae'r cyngor wedi nodi nifer o lwybrau a fydd yn aros ar gyflymder o 30mya. Gallwch chi weld y rhestr o’r eithriadau 30mya ar ein gwefan.

Bydd yr Heddlu a GanBwyll yn parhau i orfodi 20mya, fel unrhyw derfyn cyflymder arall, i wneud ein ffyrdd yn fwy diogel i bob defnyddiwr. Byddan nhw hefyd yn helpu i ymgysylltu â modurwyr a'u haddysgu i sicrhau bod y terfynau cyflymder newydd yn cael eu parchu, a bod newid ymddygiad gyrwyr yn cael ei gefnogi.

I gael rhagor o wybodaeth am y terfyn cyflymder newydd, ewch i'r wybodaeth 20mya ar ein gwefan.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi gwybodaeth i helpu cymunedau i wybod beth i'w ddisgwyl yn lleol o'r dyddiad cychwyn, sef dydd Sul, Medi 17. Mae rhai dolenni defnyddiol i gynnwys Llywodraeth Cymru isod:



Ymholiadau'r Cyfryngau