Eithriadau 30mya

Bydd y terfyn cyflymder 20mya cenedlaethol newydd ar gyfer ffyrdd cyfyngedig yn dod i rym ar 17 Medi 2023 ac mae holl awdurdodau lleol Cymru wedi ymrwymo i newid eu terfynau cyflymder.

Mae Llywodraeth Cymru wedi datblygu ‘meini prawf eithrio’ y gellir eu cymhwyso i gadw terfynau cyflymder 30mya ar ffyrdd lle nad yw'r terfyn cyflymder 20mya is yn cael ei ystyried yn briodol.

Mae hyn ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru yn y cyfeiriad gwe a ganlyn: Pennu eithriadau i'r terfyn cyflymder diofyn o 20mya ar ffyrdd cyfyngedig Mae ‘proses ar gyfer pennu eithriadau’ wedi'i datblygu gan Lywodraeth Cymru i ddarparu dull cyson o ymdrin â'r eithriadau 30mya sydd eu hangen fel rhan o'r broses gyflwyno genedlaethol ledled Cymru.

Yn ystod y misoedd diwethaf mae Cyngor Caerffili wedi bod yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru i ddatblygu ‘map eithriadau’ ar gyfer y Fwrdeistref Sirol. Mae eithriadau wedi'u cymeradwyo gan y Cabinet yn achos y ffyrdd hynny sy'n destun terfyn cyflymder 30mya ar hyn o bryd lle nad yw'r terfyn cyflymder is o 20mya yn cael ei ystyried yn briodol.

Dyma'r eithriadau cymeradwy:

  • Ffordd gyswllt Ffordd yr Angel, rhwng Commercial Street, Aberbargod, a goleuadau traffig Morrisons (gan gynnwys y gylchfan a'r ffyrdd dynesu ar A469).
  • Ffordd gyswllt Ffordd yr Angel, rhwng cylchfan Aberbargod a chylchfan Britannia (gan gynnwys y ddwy gylchfan).
  • A4049 Pengam Road, rhwng cylchfan Britannia a man i'r de o Britannia Terrace.
  • A4048, Llwyncelyn.
  • A4048, Argoed.
  • A468 Heol Casnewydd, Tretomos, rhwng man i'r dwyrain o'r gyffordd â Ridgeway a man i'r gorllewin o'r orsaf danwydd.
  • A468 Heol Casnewydd, Tretomos, rhwng man tua 60m i'r gorllewin o'r gyffordd â Clos Pantglas a'r arwyddion 30mya presennol ym mhen gorllewinol y pentref.
  • B4254 Highfields Way, rhwng ochr ddwyreiniol y gyffordd â Parc Plas ac ochr orllewinol y gyffordd â Montclaire Avenue.
  • B4251 Y Stryd Fawr, rhwng cylchfan Pont y Siartwyr a man i'r gogledd o ffordd fynediad Eglwys y Santes Farged.
  • B4254 Southern Cross Valley Link, rhwng goleuadau traffig Libanus a chylchfan Penmaen Road (gan gynnwys y ffordd ddynesu ar B4251 Penmaen Road).
  • Bryn Road, rhwng man tua 25m i'r gogledd o gylchfan Highfields Way a'r gyffordd â Twyn Gardens.
  • A4049, rhwng man i'r de o'r gyffordd â Gellihaf Road a man i'r de o oleuadau traffig Fair View.
  • B4254, rhwng man tua 100m i'r dwyrain o giât ochr yr ysgol a man tua 25m i'r de o gylchfan Highfields Way.
  • B4591 Risca Road, rhwng A467 a'r gyffordd â'r Stryd Fawr.
  • B4251 Kendon Road, rhwng man i'r dwyrain o faes chwarae Tŷ Brachty Terrace a'r gyffordd â Woodview Terrace.
  • B4251 Kendon Road, rhwng man i'r dwyrain o'r gyffordd â Main Street ac A467.
  • A467, rhwng y gyffordd â Crumlin Road a man i'r de o'r orsaf danwydd.
  • A472 Hafod-yr-ynys Road, rhwng y gyffordd ag A467 a man i'r dwyrain o'r eiddo sydd newydd gael eu dymchwel.
  • A472 Hafod-yr-ynys Road, rhwng man i'r gorllewin o gyffordd Swffryd a man i'r dwyrain o'r hen orsaf danwydd.
  • Ffordd y comin, rhwng y grid gwartheg ym mhen gogleddol pentref Pen-twyn a'r grid gwartheg i'r de o Fochriw.
  • Coed-y-brain Road, o gylchfan Coed-y-brain am bellter o tua 250 metr i gyfeiriad y gogledd.
  • A468 Heol Casnewydd a Wesley Hill, Machen, rhwng man tua 150m i'r gorllewin o'r gyffordd â Ffwrwm Road a'r arwyddion 30mya presennol ym mhen gorllewinol y pentref.
  • A472, rhwng cylchfan Ystrad Mynach a man i'r dwyrain o Gellideg Heights.
  • A4049, rhwng cylchfan Bryn Road a man i'r dwyrain o'r datblygiad tai newydd.
  • Carn-y-Tyla Terrace, Abertyswg, rhwng man i'r de-ddwyrain o'r ffordd fynediad i Ysgol Idris Davies a man i'r gorllewin o'r ffordd fynediad i'r cyfnod cynradd.
  • A469 Merchant Street, rhwng y ffordd fynediad i Ystâd Ddiwydiannol Capital Valley a Heol Evan Wynne.
  • Fochriw Road, rhwng Brynhyfryd, Pontlotyn, a Heol-y-Bryn, Fochriw.
  • A472 Heol Mafon, rhwng man i'r gorllewin o dafarn y Railway Inn a chylchfan Nelson.
  • A4049, rhwng y gyffordd ag A469 a'r gyffordd â Collier's Row.
  • A4049 White Rose Way, rhwng y gyffordd â Parc Dewi Sant a phen deheuol y pentref.
  • Hendredenny Drive, rhwng St Cenydd Road a man i'r dwyrain o Chester Court.
  • B4591, Pont-y-meistr, rhwng cylchfan Mill Street a chylchfan A467 (gan gynnwys cylchfan A467).
  • A469 New Road, Pengam, rhwng goleuadau traffig Ffordd yr Angel a man i'r gogledd o gyffordd Aldi, Tir-y-berth.
  • A469 New Road, Tir-y-berth, rhwng man i'r de o William Street a phen deheuol y pentref.
  • B4254, rhwng Glyn-gaer Road a Castle Hill, Gelligaer.
  • B4254 Church Road a Gelligaer Road, Gelligaer, rhwng y gyffordd ag Aneurin Bevan Avenue a man i'r gorllewin o'r gyffordd â Penywrlod.
  • B4254 Gelligaer Road, rhwng cyffordd Llancaiach Fawr a'r ffin sirol.
  • Merthyr Road, rhwng Llechryd a thafarn y Prince of Wales.
  • B4257 Y Stryd Fawr, Rhymni, rhwng Llechryd a man tua 100m i'r gogledd o Ganolfan Gymunedol Ael-y-Bryn.
  • Ffordd ddosbarthu Parc Lansbury, rhwng man tua 100m i'r de-ddwyrain o gylchfan Pont Bedwas a man i'r gogledd o'r gyffordd â Pen-y-Cae.
  • Rudry Road, rhwng y gyffordd â ffordd ddosbarthu Parc Lansbury a man i'r dwyrain o'r gyffordd â Rudry Close.
  • Van Road, rhwng y gylchfan wrth y gyffordd â ffordd ddosbarthu Parc Lansbury a'r gyffordd â Cefn Carnau Lane.
  • B4251, Ynys-ddu, rhwng pen gogleddol y pentref a phen gogleddol Cwmfelin-fach.
  • B4251, Wattsville, rhwng cylchfan y Lleuad Lawn a'r fynedfa i Ystâd Ddiwydiannol Gogledd y Wythïen Ddu.
  • Ffordd gyswllt Penallta, rhwng cylchfan Tredomen a man i'r gogledd o'r ffordd fynediad i Dŷ Penallta.
  • Pen gogleddol ffordd gyswllt Penallta, a rhwng Penallta Road a Pen-y-bryn Terrace.

Mae Llywodraeth Cymru wedi datblygu map rhyngweithiol sy'n dod â data eithriadau ar gyfer y 23 Awdurdod Priffyrdd at ei gilydd, gan gynnwys yr eithriadau ar gyfer Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, ac sy'n darparu syniad o'r cynlluniau cymeradwy. Noder bod y map rhyngweithiol hwn at ddibenion enghreifftiol yn unig.