Drwy ddefnyddio’r safle we hwn, rydych yn cytuno i’n defnydd ni o gwcis.
Cliciwch am fwy o fanylion
.
Skip to content
Hygyrchedd
Cysylltwch â ni
Y ganolfan newyddion
Tanysgrifio
English
Search for:
Tasgau poblogaidd
Preswylydd
Busnes
Pethau i'w gwneud
Y Cyngor
Cymerwch ran
Menu
Tasgau poblogaidd
Canolfannau Hamdden
Casgliad bin wedi'i golli
Prydau ysgolion cynradd
Cymorth i Wcráin
Swyddi a hyfforddiant
Gwneud cais, adrodd, gofyn, talu
Cefnogaeth a chyngor am Gostau Byw
Cefnogi Pobl – cymorth yn ymwneud â thai
Ysgolion, dyddiadau tymor a chau ysgolion
Trafnidiaeth gyhoeddus – gwybodaeth a chyngor
Councillors and committees
Credyd Cynhwysol (yn lle Budd-daliadau Tai)
Diwrnodau casglu gwastraff
Preswylydd
Busnes
Pethau i'w gwneud
Y Cyngor
Cymerwch ran
Newyddion
Newyddion
Medi 2023
Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili Mynd i'r Afael ag Ynysigrwydd Cymdeithasol gydag Eitemau wedi'u H
News Centre
Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili Mynd i'r Afael ag Ynysigrwydd Cymdeithasol gydag Eitemau wedi'u Hailgylchu
Postiwyd ar : 07 Medi 2023
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili a Wastesavers wedi ymuno â'r elusen iechyd meddwl Growing Space i redeg rhaglen ailgylchu sy'n darparu sgiliau newydd, cymorth cyflogaeth, a chyfleoedd gwirfoddoli i drigolion ledled Bwrdeistref Sirol Caerffili.
Gan ddefnyddio gofod dynodedig yn Siop Ailddefnyddio Penallta, mae Growing Space bellach yn cynnal rhaglen addysgol sy’n cynnwys cymwysterau achrededig a rhai sydd heb eu hachredu ar gyfer cyfranogwyr.
Fel rhan o'r rhaglen, mae'r rhai sy'n cymryd rhan yn dysgu sgiliau gwerthfawr sydd eu hangen i uwchgylchu eitemau cartref a fyddai fel arall yn cael eu hanfon i leoliadau tirlenwi. Y llynedd yn unig, arbedodd Wastesavers ddegau o filoedd o eitemau cartref (gwerth mwy na 620 tunnell) rhag cael eu taflu i sgipiau. Mae’r eitemau hyn yn cael eu hadfer ac yna eu defnyddio i stocio siopau Wastesavers Retail.
Mae'r bartneriaeth hon yn mynd i'r afael ag ynysigrwydd cymdeithasol drwy ddarparu cyfleoedd i dyfu drwy gyflogaeth, gwirfoddoli, sgiliau newydd a thrwy ymdeimlad o hunan-werth. Wrth drafod y bartneriaeth, dywedodd y Cyfarwyddwr Gweithrediadau Gavin Mote:
“Mae Growing Space a Wastesavers wedi'u halinio'n dda o ran mynd i'r afael ag ynysigrwydd cymdeithasol trigolion ar draws Bwrdeistref Sirol Caerffili.
“Mae’r cyfranogwyr a gafodd eu cyfeirio at ein rhaglen yn dysgu sgiliau newydd, ond ar ben hynny, maen nhw hefyd yn cael ystod eang o gyfleoedd gan gynnwys cymorth cyflogaeth a gwirfoddoli. Drwy hyn, fe fyddan nhw’n cael hwb enfawr i’w hunan-werth gan uwchgylchu eitemau oedd yn ddiwerth, a rhoi bywyd newydd iddyn nhw, a hyn i gyd mewn amgylchedd diogel a chefnogol.
“Mae'r bartneriaeth hon hefyd yn gyfle gwych i addysgu pobl ymhellach am bwysigrwydd lleihau, ailddefnyddio ac ailgylchu.”
Dywedodd y Cynghorydd Chris Morgan, Aelod Cabinet dros Wastraff, Hamdden a Mannau Gwyrdd: “Fe wnaethon ni agor Siop Ailddefnyddio Penallta ym mis Hydref 2022, mewn partneriaeth â Wastesavers, fel ein camau nesaf ar ein taith tuag at fod yn awdurdod carbon niwtral, ond hefyd oherwydd manteision cymdeithasol ac economaidd ailddefnyddio i’r gymuned.
“Rydyn ni’n falch iawn o’n partneriaeth ddiweddaraf gyda Growing Spaces. Bydd yn sicrhau bod y gofod hwn yn parhau i fod o fudd i’n trigolion ni.”
Ychwanegodd Rheolwr Elusen Wastesavers, Alun Harries, “Mae’r bartneriaeth hon yn enghraifft wych o waith cydweithredol gyda sefydliadau o’r un anian i helpu cyflawni strategaeth Llywodraeth Cymru, 'Mwy nag ailgylchu', ac mae’n allweddol i ddarparu buddion amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd i’n holl gymunedau ni.”
Darganfod mwy am Siop Ailddefnyddio Penallta.
Rhannwch y dudalen hon :
Rhannwch ar Facebook
Rhannwch ar Twitter
Newyddion Diweddar
Apêl banc bwyd Nadoligaidd y Cyngor yn dal ar agor am roddion
Dros 9,000 o ymwelwyr yng Nghanol Tref Caerffili ar gyfer Ffair Bwyd a Chrefft y Gaeaf Caerffili a Gorymdaith Lusernau Afon y Goleuni
Hwb cymunedol, Libanus Lifestyle, yn cael cymorth gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili i ddarparu gwasanaethau iechyd a lles yng Nghoed Duon a’r ardaloedd cyfagos
Wedi'i Chanslo - Ffair Bwyd a Chrefft y Gaeaf a Gorymdaith Lusernau Cerddoriaeth a Goleuni, Bargod
Tîm Cartrefi Gwag Caerffili yn ennill yng Ngwobrau Tai Cymru
Ymholiadau'r Cyfryngau
Cyfeiriad E-bost
Ffôn
Cyfeiriad
Gwasanaethau A i Y
A
B
C
Ch
D
Dd
E
F
Ff
G
Ng
H
I
L
Ll
M
N
O
P
Ph
R
Rh
S
T
Th
U
W
Y