Siop Ailddefnyddio Penallta
Y cyfleuster blaenllaw hwn yw'r cyntaf o'i fath yng Nghaerffili. Mae’n gyfle gwych i ddargyfeirio eitemau o’r ffrwd wastraff.
Gall eitemau gael eu rhoi yn eich canolfan ailgylchu leol. Neu gallwch chi fynd â nhw i'r siop yn uniongyrchol.
Mae eitemau wedi'u rhoi'n cael eu hailddefnyddio a'u hailwerthu i gynorthwyo'n cymunedau ni.
Mae'r cyfleuster wedi’i agor mewn partneriaeth â’r elusen yn Ne Cymru, Wastesavers.
Mae'r holl elw yn cael ei rannu'n gyfartal rhwng elusen Wastesavers ac Elusen Maer Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili.
Mae gwaith elusennol Wastesavers yn perthyn i dri phrif gategori:
- Rhaglenni cynhwysiant digidol
- Darparu eitemau cartref ail-law i bobl mewn angen
- Helpu pobl ifanc sy'n cael trafferth mewn addysg brif ffrwd
Dysgu rhagor am waith elusen Wastesavers.
Ble i ddod o hyd i Siop Ailddefnyddio Penallta
Ystad Ddiwydiannol Penallta
South Road
Hengoed
CF82 7ST
Mae Siop Ailddefnyddio Penallta wrth ymyl Canolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref Penallta.
Oriau agor
Dydd Llun i ddydd Sul - 9.00am i 4.00pm.
Mae'r siop yn stopio derbyn rhoddion am 3.30pm bob dydd.
Eitemau rydyn ni'n eu derbyn
- Byrddau bwyta a chadeiriau
- Cypyrddau dillad, cistiau dillad a byrddau wrth ochr y gwely
- Soffas a chadeiriau breichiau
- Cypyrddau llyfrau
- Setiau teledu (gyda theclyn rheoli o bell)
- Oergelloedd a rhewgelloedd
- Eitemau trydanol bach
- Cyfrifiaduron
- Peiriannau golchi a pheiriannau sychu dillad
- Fframiau gwely (ymddiheuriadau, dim matresi)
- Teganau
- Dillad
- A llawer mwy!
Rhaid i'r holl eitemau fod mewn cyflwr da a rhaid i unrhyw eitemau clustogog gynnwys labeli tân.
Yn anffodus, ni allwn ni gynnig casgliadau ar hyn o bryd.
Eitemau nad ydyn ni'n eu derbyn
- Matresi
- Seddi ceir plant
- Pramiau a chadeiriau gwthio
- Helmedau beicio
- Dodrefn clustogog heb labeli tân