News Centre

Lluosi – Yn Lansio Heddiw!

Postiwyd ar : 18 Medi 2023

Lluosi – Yn Lansio Heddiw!
Mae Lluosi yn rhaglen newydd, sydd wedi’i chynllunio gan Lywodraeth y DU, i helpu trawsnewid bywydau oedolion ledled y DU drwy wella eu sgiliau rhifedd ymarferol ac mae wedi lansio yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili!
 
Cafodd y rhaglen Lluosi ddigwyddiad lansio llwyddiannus iawn yn Ysgol Idris Davies, mewn partneriaeth ag Ysgolion Bro, gyda nifer o sefydliadau gan gynnwys Gyrfa Cymru, Teuluoedd yn Gyntaf, Gofalu am Gaerffili a Cymunedau yn Gyntaf yn bresennol.
 
Yn ogystal â stondinau amrywiol, roedd modd i ymwelwyr gymryd rhan mewn gweithgareddau llawn hwyl, gweld arddangosfeydd addysgol a mwynhau'r adloniant oedd yn cael ei ddangos.
 
Dywedodd y Cynghorydd Carol Andrews, Aelod Cabinet dros Addysg a Chymunedau, a fynychodd y digwyddiad, "Roedd yn wych gweld cymaint o bobl yn cymryd rhan yn lansiad Lluosi yn Ysgol Idris Davies. Rwy'n angerddol iawn am addysg i oedolion a bydd y rhaglen hon yn gaffaeliad enfawr i'r gwasanaeth Dysgu Oedolion yn y Gymuned. Rydw i mor falch bod y digwyddiad wedi bod yn gymaint o lwyddiant ac yn edrych ymlaen at weld beth fydd dyfodol y rhaglen Lluosi yng Nghaerffili!"
 
Felly, os yw'r syniad o wneud mathemateg gartref neu yn y gwaith yn gwneud i chi deimlo'n bryderus, gall Lluosi helpu!
 
Bydd Lluosi yno i'ch helpu chi i uwchsgilio mewn rhifedd, p'un a ydych chi am helpu'ch plant gyda'u gwaith cartref, rheoli eich cyllid neu gyrchu cyfleoedd gwaith newydd.
 
Os ydych chi'n gobeithio rhoi hwb i'ch hyder gyda rhifedd, cliciwch yma i gael gwybod sut mae Lluosi yn gallu helpu. 


Ymholiadau'r Cyfryngau