FFURFLENNI AR-LEIN / ONLINE FORMS

FFURFLENNI AR-LEIN: Nid yw rhai o'n ffurflenni ar-lein ar gael ar hyn o bryd wrth i ni wneud gwaith cynnal a chadw hanfodol. Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra y gallai hyn ei achosi.

ONLINE FORMS: Some of our online forms are currently unavailable whilst we carry out essential maintenance. We apologise for any inconvenience this may cause.

Lluosi

Mae Lluosi yn rhaglen newydd wedi'i chynllunio gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig i helpu gweddnewid bywydau oedolion ledled y Deyrnas Unedig, trwy wella eu sgiliau rhifedd gweithredol.

Rhifedd yw'r gallu i ddefnyddio mathemateg yn ystod bywyd pob dydd, gartref ac yn y gwaith. Gallai gwella eich sgiliau rhifedd eich helpu chi i gyflawni nifer o nodau, gan gynnwys deall ryseitiau, helpu'r plant gyda'u gwaith cartref, rheoli eich arian a chael mynediad at gyfleoedd gwaith newydd.

Os ydych chi am feithrin eich hyder i ddefnyddio rhifedd yn eich bywyd pob dydd neu yn y gwaith, byddwn ni yma i'ch helpu chi.

Ar gyfer pwy ydyw?

Gallwch chi fanteisio ar y rhaglen Lluosi os ydych chi'n byw yn y Fwrdeistref Sirol, yn 19 oed a throsodd ac os nad oes gennych chi TGAU mewn mathemateg ar radd C, neu gymhwyster cyfatebol.

Os nad ydych chi'n siŵr a allwn ni eich helpu chi cymerwch y Lluosi - Medrau Am Oes cwis i gael syniad o'ch sgiliau mathemateg pob dydd neu cysylltwch â ni yn uniongyrchol am ragor o wybodaeth a help a gofyn am Dîm Multiply.

Cadw'n gyfoes

Cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyr i gael diweddariadau rheolaidd am y rhaglen Lluosi a'n cyrsiau eraill o ran dysgu oedolion yn y gymuned.

Cysylltu â ni

E-bost: GofaluAmGaerffili@caerffili.gov.uk
Ffôn: 01443 811490

Gronfa Ffyniant Gyffredin y Du

Mae'r prosiect hwn yn cael ei gyllido gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.

Mae Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU yn un o golofnau canolog agenda Ffyniant Bro Llywodraeth y DU a bydd yn darparu £2.6 biliwn o gyllid i'w fuddsoddi'n lleol erbyn mis Mawrth 2025. Nod y Gronfa yw ennyn mwy o falchder mewn lle a chynyddu cyfleoedd bywyd ledled y DU drwy fuddsoddi mewn cymunedau a lleoedd, a chefnogi busnesau lleol, a phobl a sgiliau.