Lluosi
Mae Lluosi yn rhaglen newydd wedi'i chynllunio gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig i helpu gweddnewid bywydau oedolion ledled y Deyrnas Unedig, trwy wella eu sgiliau rhifedd gweithredol.
Rhifedd yw'r gallu i ddefnyddio mathemateg yn ystod bywyd pob dydd, gartref ac yn y gwaith. Gallai gwella eich sgiliau rhifedd eich helpu chi i gyflawni nifer o nodau, gan gynnwys deall ryseitiau, helpu'r plant gyda'u gwaith cartref, rheoli eich arian a chael mynediad at gyfleoedd gwaith newydd.
Os ydych chi am feithrin eich hyder i ddefnyddio rhifedd yn eich bywyd pob dydd neu yn y gwaith, byddwn ni yma i'ch helpu chi.
Ar gyfer pwy ydyw?
Gallwch chi fanteisio ar y rhaglen Lluosi os ydych chi'n byw yn y Fwrdeistref Sirol, yn 19 oed a throsodd ac os nad oes gennych chi TGAU mewn mathemateg ar radd C, neu gymhwyster cyfatebol.
Os nad ydych chi'n siŵr a allwn ni eich helpu chi cymerwch y Lluosi - Medrau Am Oes cwis i gael syniad o'ch sgiliau mathemateg pob dydd neu cysylltwch â ni yn uniongyrchol am ragor o wybodaeth a help a gofyn am Dîm Multiply.
Cadw'n gyfoes
Cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyr i gael diweddariadau rheolaidd am y rhaglen Lluosi a'n cyrsiau eraill o ran dysgu oedolion yn y gymuned.
Cysylltu â ni
E-bost: GofaluAmGaerffili@caerffili.gov.uk
Ffôn: 01443 811490