News Centre

Mynediad at e-bapur newydd am ddim i aelodau Llyfrgelloedd Caerffili

Postiwyd ar : 29 Medi 2023

Mynediad at e-bapur newydd am ddim i aelodau Llyfrgelloedd Caerffili
Mae Llyfrgelloedd Caerffili yn lansio gwasanaeth newydd sbon ar gyfer ei aelodau.
 
O 1 Hydref, bydd aelodau llyfrgelloedd ym Mwrdeistref Sirol Caerffili yn gallu cael mynediad at e-bapurau newydd am ddim.
 
Gall trigolion ddod o hyd i ystod eang o deitlau ar yr ap BorrowBox, lle gallan nhw hefyd gael mynediad at e-lyfrau ac e-lyfrau clywedol. Mae bron i 40 o deitlau bapur newydd i ddewis ohonyn nhw, gan gynnwys y Daily Mirror, Daily Mail, The Guardian, Daily Express, The Independent, South Wales Echo, Rhymney Valley Express, Western Mail a Wales on Sunday.
 
Dywedodd y Cynghorydd Carol Andrews, Aelod Cabinet dros Addysg a Chymunedau Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, "Gall trigolion gael mynediad at amrywiaeth eang o wasanaethau o lyfrgelloedd y Fwrdeistref Sirol. Mae e-bapurau newydd yn ychwanegiad gwych i arlwy digidol Llyfrgelloedd Caerffili, a, fel defnyddiwr brwd o BorrowBox fy hun, rydw i'n annog aelodau'r llyfrgell i fanteisio ar y gwasanaeth hwn sy'n rhad ac am ddim."
 
I gael rhagor o wybodaeth am BorrowBox a gwasanaethau llyfrgell eraill sydd ar gael, ewch, ffonio 01443 864068 neu ymweld â'ch llyfrgell leol.


Ymholiadau'r Cyfryngau