Cyn ymweld â'n llyfrgelloedd,
darllenwch y canllawiau wedi'u diweddaru drwy glicio ar y ddolen.
Ailgychwyn y cyfnod benthyca 3-wythnos
Yn ystod y ddwy flynedd diwethaf, nid yw ein cwsmeriaid ni wedi cael dirwyon am eitemau hwyr. Mae ein system rheoli llyfrgell wedi adnewyddu'r eitemau hyn yn awtomatig ar eich rhan. Mae ein llyfrgelloedd ni bellach ar agor fel arfer, felly, bydd y gwasanaeth adnewyddu awtomatig hwn ar ran cwsmeriaid yn dod i ben ar 31 Mawrth 2022. Os oes unrhyw ddirwyon wedi cronni yn ystod y cyfyngiadau symud, byddan nhw'n cael eu dileu; ond, mae'n bosibl y bydd dirwyon a oedd wedi cronni cyn mis Mawrth 2020 yn aros ar eich cyfrif. Os byddwch chi'n benthyca eitemau ar ôl 1 Ebrill 2022, ac yn eu dychwelyd nhw'n hwyr, bydd y llyfrau hyn yn cronni dirwyon yn union fel roedd yn digwydd cyn y cyfyngiadau symud cyntaf ym mis Mawrth 2020. Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau, siaradwch ag aelod o dîm y llyfrgell.
Mae ein llyfrgelloedd yn cefnogi ac yn cynnig ystod eang o adnoddau gwybodaeth, yn ogystal â mynediad at lungopïo a chyfleusterau TG.