News Centre

Siop Ailddefnyddio Penallta yn ymuno â phrosiect lleol i gynnig gwisgoedd ysgol am ddim

Postiwyd ar : 29 Awst 2023

Siop Ailddefnyddio Penallta yn ymuno â phrosiect lleol i gynnig gwisgoedd ysgol am ddim
Mae Siop Ailddefnyddio Penallta wedi ymuno â prosiect lleol, Cyfnewidfa Gwisg Ysgol Caerffili, i gynnig gwisgoedd ysgol ail-law i drigolion y Fwrdeistref Sirol am ddim.

Agorodd Siop Ailddefnyddio Penallta yn swyddogol ym mis Hydref 2022 fel cyfleuster wedi'i anelu at achub eitemau addas i’r diben o Ganolfannau Ailgylchu i Gartrefi a’u rhoi nhw yn nwylo’r bobl sydd eu hangen, am bris gwych.

Cafodd y Siop Ailddefnyddio ei lansio mewn partneriaeth â’r elusen o dde Cymru, Wastesavers, ac mae'r holl elw yn cael ei rannu'n gyfartal rhwng yr elusen Wastesavers ac Elusen Maer y Cyngor.

Ers ei hagor, mae'r siop wedi ehangu ei gwasanaethau i gynnwys mentrau cymunedol ychwanegol, gan gynnwys eu partneriaeth diweddaraf â Chyfnewidfa Gwisg Ysgol Caerffili.

Mae Cyfnewidfa Gwisg Ysgol Caerffili yn brosiect lleol wedi'i anelu at leihau gwastraff ac arbed arian i deuluoedd gan ailgylchu gwisgoedd ysgol, dillad prom a dillad chwaraeon.

Mae gan Gyfnewidfa Gwisg Ysgol Caerffili rheiliau gwisg ysgol mewn lleoliadau ledled y Fwrdeistref Sirol, gan gynnig gwisg ysgol ar gyfer amrywiaeth eang o ysgolion. Mae'r bartneriaeth hon yn sicrhau bod gan Siop Ailddefnyddio Penallta a Chyfnewidfa Gwisg Ysgol Caerffili wisgoedd ar gael ar gyfer yr ysgolion yn eu lleoliadau priodol.

Mae gwisgoedd ysgol ar gael yn rhad ac am ddim ar sail 'y cyntaf i'r felin', yn amodol ar argaeledd.
Meddai’r Cynghorydd Chris Morgan, Aelod Cabinet dros Wastraff, Hamdden a Mannau Gwyrdd, "Fe wnaethon ni agor Siop Ailddefnyddio Penallta ym mis Hydref 2022, mewn partneriaeth â Wastesavers, fel y cam nesaf yn ein taith i ddod yn awdurdod carbon niwtral, ond hefyd oherwydd y manteision cymdeithasol ac economaidd sydd gan ailddefnyddio ar gymuned.

"Rydyn ni'n gwybod bod dechrau'r flwyddyn ysgol newydd a'r costau cysylltiedig yn gallu bod yn frawychus ar gyfer nifer o rieni, ac felly rydyn ni'n gobeithio bydd y bartneriaeth hon yn helpu cymaint o rieni a thrigolion â phosibl." 

Meddai Nicola Rossiter, Rheolwr Gweithrediadau Wastesavers, "Mae'n hyfryd gallu helpu teuluoedd lleol fel hyn. Mae fy mhlentyn bach yn dechrau'r ysgol eleni felly rydw i'n gwybod o brofiad uniongyrchol faint o eitemau sydd eu hangen a pha mor gyflym mae plant yn tyfu! Y peth gwych am Siop Ailddefnyddio Penallta yw ei bod wir yn ein galluogi ni ymateb i'r hyn sydd ei angen ar y gymuned a dargyfeirio eitemau o'r safle tirlenwi ar yr un pryd."

Ychwanegodd Lisa Watkins, Rheolwr Gyfarwyddwr Cyfnewidfa Gwisg Ysgol Caerffili, "Rydyn ni mor falch i fod yn gweithio mewn partneriaeth â Siop Ailddefnyddio Penallta i ddarparu gwisg ysgol yn ehangach ledled y Fwrdeistref Sirol. Mae'r argyfwng costau byw cyfredol yn cael effaith ar deuluoedd lleol, ac rydyn ni'n gobeithio ein bod ni'n gallu lleihau'r baich ariannol  o ran dod o hyd i wisg ysgol."

Am ragor o wybodaeth, i siopa neu i roi eitemau ewch i: https://www.caerffili.gov.uk/services/household-waste-and-recycling/recycle-and-reduce-waste/penallta-reuse-shop?lang=cy-gb neu ddilyn Siop Ailddefnyddio Penallta a Chyfnewidfa Gwisg Ysgol Caerffili ar Facebook.


Ymholiadau'r Cyfryngau