News Centre

Mae'r Cyngor yn cymryd camau cadarnhaol i wneud Caerffili yn lanach ac yn wyrddach

Postiwyd ar : 07 Ebr 2021

Mae'r Cyngor yn cymryd camau cadarnhaol i wneud Caerffili yn lanach ac yn wyrddach
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn parhau i gymryd camau cadarnhaol wrth gyflawni ei ymrwymiad i helpu mynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd ac allyriadau carbon is.
 
Yn ddiweddar, gosodwyd mannau gwefru cerbydau trydan cyhoeddus mewn 11 maes parcio sy'n eiddo i'r Cyngor yn y Fwrdeistref Sirol fel rhan o brosiect ledled Gwent sydd wedi gosod chwe deg dau o unedau gwefru cerbydau trydan cyflym 22kw newydd mewn tri deg pedwar o safleoedd ar draws Gwent.
 
Cyflawnwyd y prosiect mewn partneriaeth rhwng pum awdurdod lleol Gwent. Darparwyd grant o £465,000 ar gyfer y prosiect gan Swyddfa Cerbydau Allyriadau Isel (OLEV) Llywodraeth y DU, gyda chyllid cyfatebol yn cael ei ddarparu gan bob awdurdod lleol. 
 
Mae Cyngor Caerffili hefyd wedi cael cerbydau trydan newydd sbon fel rhan o drawsnewid yr awdurdod i gerbydau allyriadau isel iawn.
 
Y Tîm Arlwyo yw'r gwasanaeth cyntaf i gael cerbydau trydan.  Mae gan y faniau ffyrnau trydan er mwyn dosbarthu prydau bwyd i'r henoed a'r rhai sy'n agored i niwed fel rhan o wasanaeth Meals Direct. Mae 6 fan arall ar gyfer y Gwasanaeth Glanhau Adeiladau i fod i gyrraedd yn ddiweddarach y mis hwn.
                  
Gwnaethpwyd y symud i gerbydau trydan yn bosibl yn dilyn penderfyniad y Cabinet i gefnogi gosod mannau gwefru cerbydau trydan yn Nhir-y-berth, Tŷ Tredomen a Thŷ Penallta gan ganiatáu gwefru hyd at 100 o gerbydau.
 
Yn ogystal, mae cynlluniau ar y gweill i osod y seilwaith sydd ei angen yn y Fwrdeistref Sirol i gefnogi cyflwyno tacsis trydan. Mae hyn yn cynnwys
prynu 44 o gerbydau tacsi trydan 100% hygyrch ar gyfer cadeiriau olwyn i weithredu cynllun ‘rhoi cynnig arni cyn prynu’ dros y 3 blynedd nesaf.  Bydd y cynllun hwn yn cwmpasu'r rhanbarth cyfan, gyda Chyngor Caerffili yn cael 5 tacsi.
 
Meddai'r Cynghorydd Sean Morgan, Dirprwy Arweinydd y Cyngor, “Yn ôl yn 2019, daethon ni yr ail o holl awdurdodau lleol Gwent i ddatgan argyfwng hinsawdd ac ymrwymo i ddod yn garbon niwtral erbyn 2030.
 
Mae'n wych gweld ein cerbydau trydan cyntaf yn cael eu dosbarthu.  Mae hwn yn gam arwyddocaol iawn i ni ar ôl gosod y mannau gwefru. Rydyn ni'n arwain trwy esiampl ac rydyn ni wedi ymrwymo i barhau i wneud Bwrdeistref Sirol Caerffili yn lle glanach a gwyrddach ar gyfer pawb."


Ymholiadau'r Cyfryngau