Amlenni
|
Gallwch eu hailddefnyddio drwy lynu darn o bapur dros y cyfeiriad gwreiddiol. Gallwch hefyd eu rhoi yn y bin ailgylchu
|
Allweddi
|
Gallwch ailgylchu'r rhain fel metel sgrap mewn Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref.
|
Asbestos
|
Gall preswylwyr tai (ond nid contractwyr busnes) cymryd asbestos i Ganolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartrefi yn Y Lleuad Lawn, Penallta, Trehir ac Aberbargod. Uchafswm o 6 bag neu ddalen. Dylid ymgynghori â chontractwyr arbenigol.
|
Bagiau siopa
|
Ailddefnyddiwch fagiau siopa ar gyfer tripiau siopa. Mae gan rai archfarchnadoedd gynlluniau ailgylchu bagiau plastig
|
Batris
|
Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref
|
Beiciau
|
Gwerthwch ymlaen, rhowch i elusen neu ewch â nhw i Ganolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref.
|
Bocsys wyau
|
Gellir gosod bocsys wyau cardfwrdd yn y bin ailgylchu
|
Bwrdd plastr
|
Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref o ran preswylwyr preifat - dim busnesau/contractwyr.
|
Bwyd
|
Rhowch yn y cadi gwastraff bwyd i gael ei gasglu.
|
Bylbiau goleuadau
|
Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref
|
Cadachau glanhau babanod
|
Bin Gwastraff Cyffredinol
|
Caniau
|
Dylid rhoi caniau/tuniau alwminiwm a dur glân yn y bin ailgylchu
|
Cardfwrdd
|
Dylid gosod cardfwrdd tenau glân (megis bocsys cardfwrdd bach a bocys grawnfwyd) yn y bin ailgylchu.
|
Cardiau cyfarch (penblwydd ac ati)
|
Bin ailgylchu
|
Carpedi
|
Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref neu gael ei gasglu fel eitem gwastraff swmpus.
|
Casetiau fideo
|
Bin Gwastraff Cyffredinol
|
CDau
|
Rhowch i elusen
|
Cetris inc
|
Mae rhai ysgolion yn ailgylchu cetris inc - fel arall, mae rhai gweithgynhyrchwyr yn derbyn cetris yn ôl ar gyfer ailgylchu.
|
Cewynnau
|
Bin Gwastraff Cyffredinol
|
Coed
|
Gellir casglu darnau coed hyd at bum troedfedd gan ddefnyddio gwasanaeth casglu gwastraff swmpus (sylwer – codir tâl am y gwasanaeth hwn) neu gallwch eu cymryd i’r Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref i’w compostio.
|
Coed Nadolig
|
Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref neu torrwch i lawr i ddarnau hawdd eu trin a'u rhoi allan ar gyfer casgliad gwastraff yr ardd.
|
Cyfrifiaduron
|
Gwerthwch/rhowch i elusen neu cymerwch nhw i Ganolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref.
|
Cyfarpar chwaraeon
|
Gallwch eu gwerthu neu eu rhoi i elusennau/grwpiau ieuenctid cymunedol lleol.
|
Cylchgronau
|
Bin ailgylchu
|
Dail
|
Gallwch eu compostio neu eu rhoi yn y bag gwastraff gardd gwyrdd ar gyfer y casgliad wythnosol.
|
Deunyddiau Adeiladu
|
Bydd Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref yn derbyn meintiau bach o ddeunyddiau adeiladu o’r cartref (llai na phum bag) yn rhad ac am ddim – mewn car.
|
Dillad
|
Rhowch i siopau elusen neu fanciau casglu elusen. Gallwch wneud dillad sydd mewn cyflwr gwael yn ddwsteri neu gwaredwch arnynt mewn Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref.
|
Dodrefn
|
Bydd 'The Furniture Revival' yn eu derbyn os gallant gael eu hailddefnyddio. Os ydynt mewn cyflwr gwael, trefnwch iddynt gael eu casglu fel gwastraff swmpus os yw’r eitemau yn rhy fawr i fynd i’r Ganolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref.
|
Dodrefn ystafell ymolchi
|
Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref
|
Eitemau trydanol
|
Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref
|
Erosolau
|
Gallwch roi caniau diaroglyddion erosol gwag yn y bin ailgylchu. Dylwch roi caniau paent chwistrell gwag yn y bin gwastraff cyffredinol.
|
Esgidiau
|
Rhowch i siopau elusen neu fanciau dillad
|
Ffwyl
|
Gallwch roi hambyrddau bwyd ffwyl glân, casys pei ffwyl glân a ffwyl cegin glân yn y bin ailgylchu. Dylid gosod ffwyl budr yn y bin gwastraff cyffredinol.
|
Ffyrnau
|
Derbynnir ffyrnau trydan mewn cyflwr da gan 'The Furniture Revival'. Os na ellir eu hailddefnyddio, trefnwch iddynt gael eu casglu fel eitem gwastraff swmpus neu ewch â nhw i Ganolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref
|
Gemwaith
|
Rhowch i siopau elusen neu gwerthwch.
|
Gwasarn anifeiliaid anwes (llwch llif)
|
Gallwch osod maint bach o hyn yn y bin gwastraff cyffredinol.
|
Gwastraff peryglus
|
Dylid ymdrin â hyn yn ofalus. Os ni ellir cymryd hyn i Ganolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref, bydd angen i chi drefnu gwaredu hyn drwy gwmni preifat, trwyddedig, dibynadwy.
|
Gwastraff yr ardd/gwastraff gwyrdd
|
Gosodwch doriadau glaswellt a llwyni bychain yn y bag gwastraff gardd ar gyfer y casgliad wythnosol ymyl y ffordd.
|
Gwelyau/Llieiniau Gwely
|
Bydd 'The Furniture Revival' yn derbyn sylfeini gwelyau. Os yw mewn cyflwr gwael, gellir eu cymryd i Ganolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref neu gael ei gasglu fel eitem gwastraff swmpus.
|
Gwydr (poteli a jariau)
|
Bin ailgylchu
|
Gwydr (ffenestri/dalenni gwydr)
|
Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref
|
Hancesi papur
|
Bin Gwastraff Cyffredinol
|
Hongwyr cotiau
|
Mae rhai siopau elusen yn derbyn hongwyr cotiau. Fel arall, gallwch eu rhoi yn y bin gwastraff cyffredinol.
|
Lapiad Anrhegion (papur)
|
Gallwch eu rhoi yn y bin ailgylchu. Dylid gosod lapiad math ffwyl sgleiniog yn y bin gwastraff cyffredinol.
|
Lapiad Swigod
|
Bin Gwastraff Cyffredinol
|
Llestri
|
Gallwch eu rhoi i elusen. Dylai llestri sydd wedi torri cael eu lapio a'u rhoi yn y bin gwastraff cyffredinol.
|
Llyfrau
|
Rhowch i elusen
|
Meddyginiaethau/tabledi
|
Dychwelwch i’ch fferyllydd neu feddygfa.
|
Metelau
|
Gwaredwch â metelau sgrap yn y cynhwysydd metel yn y Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref.
|
Oergelloedd/Rhewgelloedd
|
Mae 'The Furniture Revival' yn eu casglu am gost isel.
|
Offer y gegin
|
Gall offer trydanol y gegin sydd yn gallu cael eu hailddefnyddio, eu derbyn gan 'The Furniture Revival'.
|
Olew
|
Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref
|
Pacedi creision
|
Bin Gwastraff Cyffredinol
|
Paent
|
Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref
|
Papur
|
Bin ailgylchu
|
Papurau newydd
|
Bin ailgylchu
|
Posau jig-so
|
Rhowch i siopau elusen, tai preswyl neu ysgolion.
|
Post sothach
|
Cysylltwch â’r gwasanaeth dewis post er mwyn atal post sothach. Os ydych dal yn derbyn y fath post, gallwch eu rhoi yn y bin ailgylchu.
|
Plastigau (meddal)
|
Gallwch roi eitemau meddal, plastig, glân fel poteli diodydd a thybiau margarîn yn y bin ailgylchu.
|
Plisg wyau
|
Gallwch eu compostio yn eich bin compost cartref neu eu rhoi yn y cadi gwastraff bwyd.
|
Polystyren
|
Gallwch osod maint bach yn y bin gwastraff cyffredinol. Gall trigolion cymryd symiau mwy i’r Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref.
|
Potiau iogwrt
|
Bin ailgylchu
|
Sbectol
|
Mae rhai optegwyr yn derbyn hen sbectol yn ôl
|
Silindrau nwy
|
Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref
|
Stampiau
|
Mae nifer o elusennau yn derbyn stampiau sydd wedi eu defnyddio.
|
Tetrapak
|
Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref
|
Tecstilau
|
Rhowch i siopau elusen neu fanciau tecstilau
|
Teiars
|
Dylai gosodwyr teiars ddarparu gwasanaeth derbyn yn ôl pan newid yr hen am y newydd. Gall trigolion cymryd hyd at bedair teiar i Ganolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref Penallta, Y Lleuad Lawn, Trehir ac Aberbargod.
|
Teganau
|
Good quality toys can be donated to charity shops or community groups. Gallwch roi teganau sydd mewn cyflwr da i siop elusen neu grwpiau cymunedol.
|
Tiwbiau goleuadau fflwroleuol
|
Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref
|
Tuniau
|
Golchwch duniau i sicrhau eu bod yn lân ac yna rhowch yn y bin ailgylchu.
|