Bin brown neu focs ailgylchu

Stay Connected

Gallwch nawr  gofrestru am rybuddion e-bost i gael gwybod am newidiadau i'ch casgliad bin a'ch newyddion ailgylchu. Rydym hefyd yn cynnig tanysgrifiadau i wasanaethau a newyddion arall y cyngor.

Mae eich bin brown (neu mewn rhai achosion bocs ailgylchu) ar gyfer deunydd y gellir ei ailgylchu a chaiff ei wagio bob wythnos.

Dod o hyd i’ch diwrnod casglu gwastraff

Gall y bin hwn gael ei ddefnyddio i ailgylchu:

Beth allaf ailgylchu?

Papur

Gallwch ailgylchu:

  • Papurau newydd
  • Cylchgronau
  • Catalogau
  • Rhifau ffôn
  • Papur gwastraff
  • Amlenni

Ni allwn ailgylchu:

  • Papur wal

Plastig

Gallwch ailgylchu:

  • Poteli glanhawyr
  • Poteli diodydd meddal
  • Tybiau menyn
  • Potiau iogwrt
  • Poteli llaeth

Ni allwn ailgylchu:

  • Poteli DIY a chemegau
  • Cynwysyddion paent
  • Dalenni plastig
  • Polisteirin
  • Teganau a phlastig caled arall
  • Bagiau siopa
  • Cryno-ddisgiau a DVDs
  • Hongwyr cotiau

Caniau

Gallwch ailgylchu:

  • Erosolau (preferably empty deodorant cans only)
  • Caniau cwrw
  • Caniau diodydd meddal
  • Tuniau bwyd
  • Tuniau bwyd ci

Ni allwn ailgylchu:

  • Ffwyl alwminiwm
  • Metel Sgrap
  • Cyllyll a ffyrc ac ati
  • Sosbenni a phadelli

Cardfwrdd

Gallwch ailgylchu:

  • Bocsys Grawnfwyd
  • Bocsys wyau
  • Deunydd Pacio Cardbord
  • Bocsys prydau parod
  • Bocsys pizza
  • Bocsys powdr golchi

Ni allwn ailgylchu:

  • Cardfwrdd sydd â bwyd drosto
  • Cardfwrdd gwlyb

Gwydr

Gallwch ailgylchu:

  • Poteli cwrw
  • Jariau
  • Poteli gwin
  • Poteli moddion
  • Poteli saws

Ni allwn ailgylchu:

  • Gwydr wedi’i dorri
  • Crochenwaith
  • Peirecs
  • Sbectolau
  • Gwydr ffenestri

Mae Llywodraeth Cymru wedi gosod targedau uchelgeisiol i gynghorau o ran ailgylchu/compostio 70% o'r holl wastraff a gynhyrchir erbyn 2025 – a dim ond gyda'ch help chi y gallwn gyflawni'r ffigur hwn. Darganfyddwch pa eitemau y gellir eu rhoi yn eich bin ailgylchu brown.

​Angen bin newydd?

Os yw'ch bin olwynion ar goll, wedi'i ddwyn neu wedi'i ddifrodi, neu os ydych wedi symud i mewn i eiddo ac nid oes biniau yno, gallwch eu prynu ar-lein. Gofyn am fin olwynion, blwch neu sach gwastraff yr ardd newydd .

Biniau wedi eu halogi

Rydym yn monitro cynnwys eich biniau ailgylchu er mwyn gwneud yn siŵr bod deunyddiau yn cael eu gosod yn y cynhwysyddion cywir. Os daw i’r amlwg bod eich bin wedi ei halogi gyda deunyddiau na ellir ei ailgylchu, bydd sticer yn cael ei rhoi ar eich bin ac ni fydd yn cael ei wacau nes eich bod wedi symud yr halogyddion hyn. Ewch i'r adran biniau ailgylchu wedi eu halogi am fanylion pellach.

Dillad a thecstilau

Ni ddylech roi dillad yn eich bin ailgylchu. Mae banciau dillad yn ein canolfannau ailgylchu gwastraff y cartref. Gallech hefyd fynd â’ch dillad i siop elusen leol.

I ble mae’r gwastraff yn mynd?

Unwaith y caiff ailgylchu ei gasglu o’ch cartref, caiff ei gludo i gyfleuster adfer, lle caiff y deunydd eu didoli a’u gwneud yn gynhyrchion newydd.

Monitro cyfranogiad ar ailgylchu

O bryd i'w gilydd bydd yr adran rheoli gwastraff yn monitro cyfranogiad ar ailgylchu, gwastraff gweddilliol a gwastraff bwyd/gardd. Rydym wedi cwblhau ymarferiad monitro cyfranogiad gwastraff bwyd yn ddiweddar, ond yn y gorffennol wedi monitro ailgylchu i benderfynu pa eiddo sydd yn/neu ddim yn cymryd rhan. Gall gwastraff gweddilliol gael ei fonitro er mwyn sicrhau nad yw gwastraff  ychwanegol neu  amhriodol yn cael ei roi allan i'w gasglu. Mae'r ymgyrchoedd hyn yn sicrhau y gallwn dargedu ein haddysg, cyngor ac arweiniad i drigolion a allai fod angen cymorth pellach, gyda lefelau priodol o orfodi os oes angen.

Cysylltwch â ni