Archebwch fin ailgylchu

Gall preswylwyr ym Mwrdeistref Sirol Caerffili wneud cais am gynwysyddion newydd am ffi fach.

Os ydych chi wedi symud i eiddo yn y Fwrdeistref Sirol, dylai'r cynwysyddion canlynol, fel arfer, fod yn bresennol:

  • Bin sbwriel 240 litr
  • Bin ailgylchu 240 litr
  • Cadi gwastraff bwyd mewnol
  • Cadi gwastraff bwyd allanol

Os yw unrhyw un neu ragor o'r rhain ar goll, gallwch chi wneud cais am rai newydd isod.

Rydyn ni'n codi tâl am finiau – ar gyfer costau gweinyddu a dosbarthu. Fodd bynnag, rydyn ni'n rhoi cadis gwastraff bwyd am ddim.

Bydd angen talu wrth wneud cais. Gallwch chi dalu â cherdyn credyd neu gerdyn debyd ar-lein neu dros y ffôn.

Dydyn ni ddim yn casglu cardbord gwlyb, felly, gwnewch yn siŵr bod cardbord yn cael ei gadw'n sych. Rhaid torri darnau mawr o gardbord – fel blychau setiau teledu – yn ddarnau hawdd eu trin, a'u rhoi nhw yn eich bin olwynion neu mewn bagiau clir, a rhoi'r bin neu'r bagiau wrth ymyl y ffordd.

Byddwn ni'n casglu uchafswm o 4 bag o wastraff gwyrdd o'r ardd bob wythnos.

Gwnewch yn siŵr bod pob bin olwynion/cynhwysydd yn cael eu rhoi wrth ymyl y ffordd mor hwyr â phosibl ar y noson cyn y diwrnod casglu, neu cyn 6am ar y diwrnod casglu.

Am ragor o wybodaeth, darllenwch yr adran cwestiynau cyffredin.

Archebwch fin olwynion, blwch neu sach gwastraff yr ardd newydd

Archebu Nawr

Archebwch gadi bwyd allanol ac/neu mewnol

Gwneud cais am gynhwysydd

Costau ar gyfer biniau rhwng 1 Ebrill 2024 a 31 Mawrth 2025:

Bin ailgylchu brown

Yr un cyntaf ar gyfer yr eiddo

£29.24

Bin ailgylchu brown

Un newydd

£29.24

Bin gwastraff gwyrdd

Yr un cyntaf ar gyfer yr eiddo

£29.24

Bin gwastraff gwyrdd

Un newydd

£29.24

Cadis bwyd 

Yr un cyntaf a phob un newydd

AM DDIM

Sachau gwastraff gardd

Yr un cyntaf a phob un newydd

£3.51

Bocs ailgylchu

Yr un cyntaf a phob un newydd

£7.01

Byddwn ni'n ceisio dosbarthu eich bin ar y dyddiad nesaf sydd ar gael ar gyfer eich ardal, a byddwn ni'n cadarnhau'r dyddiad trwy e-bost o fewn dau ddiwrnod gwaith.

Gwybodaeth ychwanegol

  • Os ydyn ni wedi mynd â'ch bin oherwydd halogiad, nid ydych chi'n gymwys i brynu un newydd.
  • Rhaid i chi allu storio eich biniau oddi ar y briffordd rhwng y diwrnodau casglu.
  • Os byddwch chi'n dewis peidio â phrynu bin sbwriel, byddwch chi'n cael defnyddio bagiau du. Fodd bynnag, byddwn ni'n casglu uchafswm o 3 bag bob pythefnos – sydd cyfwerth â'r hyn a fydd yn mynd i mewn i fin olwynion sy'n mesur 240 litr.
  • Os byddwch chi'n dewis peidio â phrynu bin neu flwch ailgylchu, byddwch chi'n cael defnyddio bagiau clir.
  • Os na fyddwn ni'n gallu dosbarthu eich biniau am unrhyw reswm (oherwydd tywydd garw, methiant cerbyd ac ati), byddwn ni'n ceisio cysylltu â chi. Byddwn ni'n gwneud pob ymdrech i'w dosbarthu nhw ar y diwrnod gwaith nesaf.
  • Bydd angen talu wrth gyflwyno cais, a byddwn ni'n anfon dyddiad dosbarthu atoch chi o fewn dau ddiwrnod gwaith.

Ar ôl cyflwyno eich cais, ni fydd modd ei newid.

Rhowch bob bin olwynion/bag wrth ymyl y ffordd mor hwyr â phosibl ar y noson cyn y diwrnod casglu, neu cyn 5.30am ar y diwrnod casglu.

Dim ond os byddwch chi'n canslo eich cais fwy na dau ddiwrnod gwaith cyn y dyddiad dosbarthu y bydd modd prosesu ad-daliad.