Archebwch fin ailgylchu - Cwestiynau cyffredin

Rydw i eisiau newid maint fy min sbwriel

Os ydych chi eisiau cael bin mwy neu fin llai, gwnewch gais am gyfnewid trwy lenwi'r ffurflen ar-lein uchod.

Os ydych chi eisiau cyfnewid eich bin 140 litr am fin 240 litr, dim ond os yw maint eich teulu yn golygu bod angen bin mwy arnoch chi ac ein bod ni'n fodlon eich bod chi'n ailgylchu cymaint â phosibl y byddwn ni'n cyfnewid eich bin sbwriel. Dydyn ni ddim yn codi tâl am y gwasanaeth hwn.

Mae fy min wedi cael ei ddifrodi neu wedi'i gymryd gan y criw casglu

Os bydd eich bin yn mynd i gefn y lori neu'n cael ei ddifrodi wrth gael ei wacáu, bydd y criw casglu yn rhoi gwybod i'r goruchwyliwr, a byddwn ni'n rhoi bin newydd i chi am ddim.

Mae fy min wedi mynd ar goll neu wedi'i fandaleiddio/ddwyn. Oes dal rhaid i mi dalu?

Eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau bod eich bin yn cael ei gadw'n ddiogel ac oddi ar y briffordd rhwng diwrnodau casglu. Bydden ni'n eich cynghori chi i edrych o gwmpas eich eiddo neu wirio nad yw eich cymydog wedi cymryd eich bin chi ar gam cyn gwneud cais am fin newydd. Os fyddwch chi ddim yn gallu dod o hyd i'ch bin, bydd angen i chi brynu un newydd.

Sut mae atal fy min rhag cael ei ddwyn?

Marciwch eich biniau yn glir gyda rhif neu enw eich eiddo. Rhowch eich bin yn y man casglu yn hwyr ar y noson cyn y diwrnod casglu neu cyn 6am ar y diwrnod casglu. Symudwch eich bin oddi ar y briffordd, ac yn ôl i'ch eiddo, cyn gynted ag sy'n bosibl ar ôl i'r gwastraff gael ei gasglu.

Pam nad yw Treth y Cyngor yn talu'r gost?

Mae ychydig o Dreth y Cyngor yn mynd tuag at gasglu a gwaredu gwastraff, ond nid yw'n cynnwys cost y biniau.

Oes angen i mi dalu am fin ar gyfer eiddo newydd?

Bydd angen i chi brynu bin newydd os yw'n adeilad hunanadeiladu. Os ydych chi wedi prynu tŷ newydd gan ddatblygwr, bydd angen i chi holi'r datblygwr am hyn oherwydd gall fod y bin wedi cael ei gynnwys yn y gwerthiant. Os na, bydd angen i chi dalu.