Mynd i'r afael ag ailgylchu halogedig

Mae biniau ailgylchu yn cael eu gwirio am halogion fel:

Proses Halogi

Nod y broses hon yw rhoi gwybodaeth, cyngor ac arweiniad i drigolion, gan sicrhau bod ganddyn nhw'r holl offer a gwybodaeth i allu ailgylchu.

Mae ein criwiau ailgylchu ni'n mynd ati i wirio biniau ailgylchu yn weledol yn ystod eu rowndiau. Gwiriad i sicrhau nad yw biniau ailgylchu yn cynnwys unrhyw eitemau nad oes modd eu hailgylchu yw hwn. Os yw bin ailgylchu'n cynnwys unrhyw eitem(au) nad oes modd ei ailgylchu, rydyn ni’n ystyried ei fod wedi'i halogi. 

Mae un bin wedi'i halogi yn rhoi'r llwyth cyfan mewn perygl o gael ei wrthod. Mae hyn yn cael effaith ar ein cyfradd ailgylchu a'r amgylchedd.

Cam 1

Os byddwn ni'n ystyried bod eich bin chi wedi'i halogi, ni fyddwn ni'n gwagio'r bin. Bydd aelod o'r criw yn gosod sticer ar y bin yn amlygu beth sydd wedi achosi'r halogi. Dylech chi dynnu'r eitem sydd wedi'i hamlygu allan o'r bin cyn eich dyddiad casglu nesaf.

Cam 2

Os yw'r bin wedi'i halogi am ail wythnos, ni fyddwn ni'n gwagio'r bin. Bydd y criw yn gosod sticer arall ar y bin i amlygu beth sydd wedi achosi'r halogi. Byddwn ni hefyd yn anfon llythyr a thaflen wybodaeth atoch chi gyda rhagor o fanylion am ailgylchu gartref.

Cam 3

Os yw'r bin wedi'i halogi am drydedd wythnos, ni fyddwn ni'n gwagio'ch bin. Bydd aelod o'n tîm gwastraff ni'n ceisio ymweld â'ch eiddo chi. Pwrpas yr ymweliad hwn fydd rhoi gwybodaeth, cyngor ac arweiniad i chi.

Os nad ydyn ni'n gallu siarad â chi yn ystod yr ymweliad hwn, byddwn ni'n gadael ail lythyr yn eich eiddo chi. Bydd y llythyr yn dweud wrthych chi, os na fyddwch chi'n tynnu'r eitemau sy'n halogi allan o'r bin, byddwn ni'n rhoi Hysbysiad Statudol o dan Adran 46 o Ddeddf Diogelu’r Amgylchedd 1990.

Cam 4

Os yw'r bin wedi'i halogi am bedwaredd wythnos, ni fyddwn ni'n gwagio'ch bin.

Byddwn ni'n anfon Hysbysiad Statudol o dan Adran 46 o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990 atoch chi drwy ddosbarthiad wedi'i gofnodi.

Bydd yr Hysbysiad Statudol yn ei gwneud yn ofynnol i chi gydymffurfio â gofynion gwastraff ac ailgylchu. Mae methu â chydymffurfio â hysbysiad o'r fath yn drosedd, a gallai hynny arwain atoch chi'n cael hysbysiad cosb benodedig a/neu eich erlyn.

Byddwn ni'n ailymweld â'ch eiddo chi yn ystod y 21 diwrnod yn dilyn yr Hysbysiad Statudol. Diben yr ymweliad hwn yw sicrhau eich bod chi'n ailgylchu'n gywir ac yn cydymffurfio â thelerau'r Hysbysiad Statudol.

Talu Hysbysiad Cosb Benodedig

Cwestiynau cyffredin

Pam cyflwyno'r broses hon?

Dros y blynyddoedd diwethaf, mae'r Cyngor wedi gweithio i godi ymwybyddiaeth o'r hyn sy'n mynd i mewn i’ch biniau ailgylchu. Rydyn ni wedi cynnal cyfres o ymgyrchoedd ‘stepen drws’. Y nod oedd atgoffa trigolion o ble i roi eu deunyddiau ailgylchadwy.

Er bod y mwyafrif o drigolion yn ailgylchu, ac rydyn ni'n ddiolchgar iawn am hyn, yn anffodus, nid yw'r lleiafrif yn gwneud hynny o hyd.

Y broses o 'lynu sticeri' ar finiau yw'r cam nesaf wrth godi ymwybyddiaeth o'r hyn sy'n gallu cael ei ailgylchu neu beidio.

Nid yw erioed wedi bod yn broblem o'r blaen? Pam, yn sydyn, nad yw fy min yn cael ei gasglu pan roedd bob amser wedi cael ei gasglu yn y gorffennol?

Mae halogi yn parhau i fod yn broblem fawr. Halogi yw lle mae eitemau anghywir yn cael eu rhoi mewn biniau ailgylchu. Mae un bin wedi'i halogi yn rhoi'r llwyth cyfan mewn perygl o gael ei wrthod. Mae hyn yn cael effaith ar ein cyfradd ailgylchu a'r amgylchedd.

Mae lefelau halogi uchel yn costio arian i'r Cyngor (ac wrth gwrs y trethdalwr).

Er mwyn mynd i'r afael â'r broblem hon, mae’n rhaid i'r Cyngor gymryd y cam ychwanegol hwn i atgoffa trigolion beth i'w ailgylchu.

Pa eitemau allwn ni eu hailgylchu?

I gael rhagor o wybodaeth am yr hyn rydyn ni'n ei gasglu, darllenwch ein Canllaw Alffa i Omega o ran Gwastraff.

Pa eitemau na allwn ni eu hailgylchu?

I gael rhagor o wybodaeth am yr hyn na fyddwn ni'n ei gasglu, ewch i'r dudalen beth sy'n mynd yn fy min ailgylchu.

Mae rhai eitemau y mae Caerffili yn dweud na allan nhw eu hailgylchu'n cael eu derbyn mewn ardaloedd eraill - pam?

Rydyn ni bob amser wedi ceisio cadw ailgylchu mor syml â phosibl i drigolion. Rydyn ni wedi ceisio cyflawni hyn drwy system gasglu gymysg. Y system hon yw lle mae pob eitem ailgylchadwy yn mynd i mewn i’r un bin ailgylchu.

Gall ardaloedd eraill yng Nghymru dderbyn eitemau fel papur lapio a pholystyren. Yn bennaf mae hynny oherwydd bod ganddyn nhw ddulliau ailgylchu gwahanol, yn aml yn fwy cymhleth nag ein dull ni.

Rydyn ni'n gwybod bod trigolion yn gwerthfawrogi ein system syml a bydden nhw'n amharod i ni newid ein dull casglu. Ond, mae angen i'n trigolion gymryd rhan.

Ni chafodd fy min ei wagio yr wythnos hon ac roedd sticer arno – beth ddylwn i ei wneud?

Byddwch chi'n cael llythyr gan y Cyngor cyn eich diwrnod casglu arferol nesaf. Bydd hwn yn amlinellu'r eitem/eitemau nad ydyn nhw'n gallu cael eu hailgylchu a oedd yn eich bin ailgylchu.

Os yw'r eitem/eitemau'n cael eu tynnu allan, byddwn ni'n casglu'ch bin ar eich diwrnod casglu arferol nesaf. Os yw'ch bin ailgylchu yn orlawn, bydd y Cyngor hefyd yn casglu ailgylchu ychwanegol. Rhowch unrhyw ailgylchu ychwanegol mewn bagiau clir wrth ymyl eich bin.

Ni chafodd fy min ei wagio yr wythnos hon ac mae bellach yn llawn? Os ydw i'n tynnu'r eitem anghywir allan, a wnewch chi ddychwelyd i'w wagio?

Ni fydd y criwiau'n dychwelyd i wagio biniau ailgylchu tan eich diwrnod casglu nesaf. Rhowch unrhyw ailgylchu ychwanegol mewn bagiau clir wrth ymyl eich bin.

Mae'n rhaid bod rhywun a oedd yn cerdded heibio wedi gosod eitemau anghywir yn fy min ailgylchu - er enghraifft, gwastraff cŵn. Does gen i ddim ci, beth ddylwn i ei wneud?

Mae hyn yn achos anodd ond, yn y pen draw, cyfrifoldeb deiliad y tŷ yw ailgylchu wedi'i osod wrth ymyl y ffordd.

Rydyn ni'n argymell bod trigolion yn roi eu hailgylchu allan mor hwyr â phosibl y noson gynt, neu yn y bore cyn casglu. Rhaid dod â biniau yn ôl i'ch eiddo chi cyn gynted â phosibl ar ôl i'r gwastraff gael ei gasglu.

A allaf roi fy neunydd ailgylchu mewn bagiau?

Os oes gennych chi fin ailgylchu, yna dylai pob eitem ailgylchu glân fod ynddo'n rhydd. Er enghraifft, nid mewn bagiau du, bagiau siopa, leinin neu fagiau clir.

Os nad oes gennych chi fin, byddwn ni'n casglu deunydd ailgylchu mewn bagiau clir. Mae bagiau clir ar gael ym mhob archfarchnad leol a siopau disgownt stryd fawr.

Ni fyddwn ni'n derbyn deunyddiau ailgylchu mewn bagiau du, bagiau siopa na leinin.

A yw'r broses hon o 'lynu sticeri' yn newid parhaol?

Bydd y broses hon ar waith cyhyd ag y bo angen.

Efallai y bydd achosion lle mae trigolion yn credu eu bod nhw'n gwneud y peth iawn. Gall y broses hon fod yn addysgiadol ac yn llawn gwybodaeth, gan helpu trigolion i ailgylchu’n well yn y dyfodol.

Beth os nad oes bin ailgylchu gennyf i?

Nid oes biniau ailgylchu gan lawer o eiddo ledled y Fwrdeistref Sirol. Ar y cyfan, tai teras yw'r rhain. Yn lle hynny, mae ganddyn nhw focsys ailgylchu neu'n gosod bagiau clir allan i'w hailgylchu.

Rhaid i bob deunydd ailgylchu wrth ymyl y ffordd fod yn rhydd o halogion.

Sut allaf i archebu bin?

Archebwch fin ailgylchu ar-lein neu ffonio 01443 866533.

Faint fydd yr Hysbysiadau Cosb Benodedig?

Bydd yr Hysbysiad Cosb Benodedig yn £70, wedi'i ostwng i £35 os ydych chi'n talu o fewn 14 diwrnod.

Beth fydd yn digwydd i'r arian o’r Hysbysiadau Cosb Benodedig?

Bydd unrhyw arian wedi'i gasglu drwy Hysbysiadau Cosb Benodedig yn cael ei ail-fuddsoddi yn y rhwydwaith gwastraff ac ailgylchu.

Oes proses apelio ar gyfer yr Hysbysiad Cosb Benodedig?

Oes – Os ydych chi'n dymuno apelio yn erbyn Hysbysiad Cosb Benodedig, bydd gweithdrefn apelio ffurfiol i'w ddilyn. Bydd manylion am hyn ar gael ar yr Hysbysiad Cosb Benodedig ei hun.

Beth os ydw i dal yn ansicr?

I gael rhagor o wybodaeth, e-bostiwch Ailgylchu@caerffili.gov.uk neu ffonio 01443 866533.

Mae gennym ni hefyd lawer o wybodaeth ddefnyddiol ar-lein a allai fod o gymorth.

Cysylltwch â ni

Rhowch eich adborth o ran y wefan hon.