Gwastraff bwyd
Ailgylchu Gwastraff Bwyd - Gweddillion am Arian (PDF)
Caiff gwastraff bwyd ei gasglu bob wythnos. Ewch i'n hadran dyddiau casglu biniau i ddarganfod eich diwrnod casglu.
Dylai bod gan bob aelwyd dau gynhwysydd ar gyfer gwastraff bwyd:
- Cadi bychan i gadw yn eich cegin
- Cadi mwy o faint i storio y tu allan
Leiniwch eich cadi cegin gyda leinin compostadwy neu bapur newydd. Unwaith yn llawn, dylai hyn wedyn cael ei wagio i mewn i'r cadi mwy sydd tu allan. Gall y cadi mwy o faint hefyd yn cael ei leinio gyda leinin compostadwy i'w helpu aros yn lân. Mae'n bwysig nad ydych yn defnyddio bagiau plastig yn eich cadi bwyd, gan nad yw'r rhain yn cael eu compostio.
Gwastraff bwyd wedi'i halogi
Dylech ond rhoi gwastraff bwyd compostadwy yn eich cadi bwyd. Ewch i’r adran beth sy'n mynd yn fy miniau am fanylion. Os yw’ch cadi bwyd yn cynnwys gwastraff anaddas caiff ei wrthod a bydd sticer yn cael ei osod ar y cadi. Bydd angen i chi wedyn cael gwared ar wastraff bwyd anaddas ac ail-gyflwyno’r cadi'r wythnos ganlynol i'w casglu. Os nad yw hyn yn bosibl, gall y gwastraff bwyd cael ei roi yn eich bin sbwriel i'w gasglu gyda gwastraff arferol.
Biniau compost
Nid ydym bellach yn cynnig gwasanaeth noddedig. Yn hytrach, gallwch brynu biniau gwrtaith o ganolfannau garddio, siopau ‘DIY’ a manwerthwyr ar-lein.
Cwestiynau cyffredin am Gweddillion am Arian
Pam ydych chi'n gwneud hyn?
Y nod yw annog mwy o gartrefi i ailgylchu eu gwastraff bwyd, ein galluogi i ddod yn fwy ynni effeithlon ac yn y pen draw helpu'r ymgyrch fyd-eang i wneud y mwyaf o gyfleoedd ynni adnewyddadwy.
Mae gwastraff bwyd yn ffynhonnell gyson o danwydd y mae angen inni wneud y gorau ohoni, nid yn unig i gyrraedd targedau ailgylchu ond i ddatgarboneiddio a phweru’r genedl ar adeg pan fo adnoddau ynni adnewyddadwy bellach wedi dod yn fwy gwerthfawr byth.
Pwy fydd yn monitro cyfranogiad?
Bydd swyddogion o dîm ailgylchu’r Awdurdod yn monitro ac yn gwirio’n annibynnol yn rheolaidd eiddo lle mae cadis yn cael ei roi allan fel rhan o’r gwasanaeth gwastraff bwyd ymyl y ffordd wythnosol.
Pwy sy'n ariannu'r cynllun gwobrau?
Fel gyda'n holl gynlluniau cymhelliant, mae gwobrau'n cael eu hariannu'n allanol gan y sector busnes.
Sut bydd enillydd yn cael ei ddewis?
Bydd eiddo a ddewisir ar hap yn cael eu monitro i ddarganfod a ydynt yn cymryd rhan yn y gwasanaeth ailgylchu gwastraff bwyd. Bydd eiddo’n cael eu dewis ar hap gan ddefnyddio cronfa ddata casglu gwastraff ac ailgylchu'r Awdurdod o eiddo preswyl.
Beth alla i ei roi yn y cadi gwastraff bwyd?
Bwyd bron i gyd! Gan gynnwys ffrwythau, llysiau, hen fara, plisgyn wyau, bagiau te, tiroedd coffi, crafu platiau, bwyd anifeiliaid anwes, cynnyrch llaeth, pasta, grawnfwydydd ac esgyrn.
Beth na all fynd i’r bin bwyd?
Hylifau, olewau, pecynnu.
A oes angen i mi ddefnyddio bag bio ar gyfer y gwastraff bwyd?
Na, gallwch roi eich gwastraff bwyd mewn unrhyw fath o fag siopa gan y bydd y bagiau'n cael eu didoli yn y cyfleuster trin.
Beth sy'n digwydd i'm gwastraff bwyd ar ôl iddo gael ei gasglu?
Mae'r holl wastraff bwyd yn cael ei gludo i gyfleuster trin ac yn mynd trwy broses Treuliad Anaerobig. Mae’r methan a gynhyrchir yn ystod y broses hon yn cael ei ddefnyddio fel tanwydd i gynhyrchu trydan, sydd yn ei dro yn cael ei fwydo i’r Grid Cenedlaethol.
Gall gwastraff bwyd fel tanwydd gyfrannu'n sylweddol at gynhyrchu ynni bob wythnos o'r flwyddyn. Yn ogystal, mae sgil-gynhyrchion gwerthfawr eraill o’r driniaeth gwastraff bwyd, gan gynnwys gweddillion ffibrog sy’n cael ei ddefnyddio fel pridd a chyflyrydd a chyfrwng twf ar gynlluniau garddwriaethol a thirlunio lleol.
Mae yna hefyd sgil-gynnyrch hylifol y gellir ei ddefnyddio fel bio-wrtaith ar gyfer y diwydiant amaethyddol.
Sut mae cael cadi gwastraff bwyd?
Mae cadis bwyd yn rhad ac am ddim a gellir gwneud cais amdanynt trwy ddefnyddio'r ddolen ganlynol - Cais am Fin Newydd. Fel arall, ffoniwch ein canolfan gyswllt ar 01443 866533.