Bin gwastraff cyffredinol

Rydyn ni'n casglu gwastraff cyffredinol bob pythefnos.

Mae eich bin gwyrdd (neu fin du mewn rhai achosion) ar gyfer yr holl sbwriel o ddydd i ddydd sydd ddim yn gallu cael ei ailgylchu na'i gompostio.

Rhaid cadw'r holl wastraff yn eich bin chi gyda'r caead wedi'i gau'n dynn (ni fydd unrhyw wastraff wrth ochr eich bin yn cael ei gasglu).

Os nad ydych chi'n siŵr o'ch diwrnod casglu, gwiriwch eich diwrnod bin

Os nad oes gennych chi fin olwynion, gallwch chi wneud cais ar-lein, neu ffonio 01443 866533

Os nad oes gennych chi fin, byddwn ni'n casglu uchafswm o 4 bag du bob pythefnos.

Rydyn ni'n argymell bod trigolion yn rhoi eu gwastraff nhw allan mor hwyr â phosibl y noson gynt, neu yn y bore cyn casglu. Rhaid dod â biniau yn ôl i'ch eiddo chi cyn gynted â phosibl ar ôl i'r gwastraff gael ei gasglu.

Eitemau rydyn ni'n eu casglu

  • Cewynnau tafladwy
  • Gwydr wedi torri
  • Bagiau siopa
  • Teganau wedi torri
  • Polystyren
  • Ffilm plastig
  • Gwastraff anifeiliaid anwes
  • Lludw oer

Eitemau na fyddwn ni'n eu casglu

 
Cysylltwch â ni