Casgliad gwastraff cewynnau

Rydyn ni'n cynnig gwasanaeth casglu cewynnau bob pythefnos i deuluoedd sydd â phlant mewn cewynnau drwy'r amser.

I wneud cais ar gyfer y gwasanaeth hwn, rhaid bod:

  • Dau neu fwy o blant cyn oed ysgol, mewn cewynnau drwy'r amser gennych chi, a’ch bod chi’n
  • Defnyddio'r ystod lawn o wasanaethau ailgylchu rydyn ni'n eu darparu

Fel rhan o'r broses ymgeisio, bydd angen i aelod o'r tîm gwastraff ymweld â'ch eiddo.  Bwriad yr ymweliad yma yw asesu os ydych chi'n defnyddio'r gwasanaethau ailgylchu sydd ar gael i chi.

Byddwn ni'n gwrthod eich cais oherwydd:

  • Ailgylchu halogedig
  • Ddim yn cymryd rhan yn y gwasanaeth gwastraff bwyd
  • Ddim yn cymryd rhan yn y gwasanaeth ailgylchu
  • Gwastraff bwyd yn eich bin sbwriel a/neu ailgylchu

Os bydd eich cais yn cael ei gymeradwyo, byddwch chi'n derbyn bin olwynion fwy yn lle eich bin olwynion presennol. 

Gwneud cais am gasglu cewynnau
 
Sylwch, ni fydd y ffurflen hon yn gweithio o fewn Internet Explorer. Defnyddiwch borwr mwy modern fel Edge, Chrome neu Safari

Talerau ac Amodau

  • Dim ond ceisiadau sy'n bodloni'r meini prawf cymhwysedd y byddwn ni'n eu prosesu. Bydd y rhai sydd ddim yn bodloni’r meini prawf yn cael eu diystyru.
  • Rhesymau efallai y caiff eich cais ei wrthod:
    • Nid yw'n bodloni'r meini prawf cymhwysedd
    • Ddim yn cymryd rhan yn y gwasanaethau ailgylchu a gwastraff bwyd
    • Ailgylchu halogedig
    • Bwyd a/neu ddeunyddiau ailgylchadwy yn eich bin gwastraff cyffredinol
  • Wedi'i adolygu yn unol â'n polisi adolygu cewynnau (yn flynyddol)
  • Rhaid rhoi biniau wrth ymyl y ffordd er mwyn eu cyfnewid. Bydd e-bost yn cael ei anfon yn cadarnhau'r dyddiad dosbarthu/cyfnewid
  • Byddwn ni'n cyfnewid eich bin ag un mwy
  • Mae'n bosibl y bydd ymweliad â'r safle yn cael ei gynnal i wirio'r cais a chynnal gwiriad ansawdd ar eich biniau ailgylchu, gwastraff bwyd a gwastraff cyffredinol.

Ar ôl cyflwyno eich cais, ni fydd modd ei newid.

Cysylltwch â ni

Tudalennau Cysylltiedig

Gwaredu gwastraff hylendid