Cewynnau go iawn

Byddwch chi'n newid cewyn eich babi tua 2,000 o weithiau y flwyddyn, rhwng genedigaeth a'r poti (tua 2 flynedd a hanner). Mae hynny tua 5,000 o gewynnau tafladwy. Cyfwerth â 156 o fagiau du, yn pwyso tua'r un faint â char teulu!

Gallai defnyddio cewynnau go iawn arbed £500 i chi ar gyfer eich plentyn cyntaf. Gallech chi arbed hyd yn oed mwy ar gyfer unrhyw blant yn y dyfodol gan eu bod nhw'n gallu cael eu hailddefnyddio.

Mae canfyddiad bod cewynnau go iawn yn ‘waith caled’, ond does dim angen iddyn nhw fod. Mae llawer yn cau gyda chaewyr ffabrig neu bopwyr.

Gallwch chi olchi cewynnau go iawn ar dymheredd o 60°C mewn peiriant golchi arferol yn y cartref.

Oeddech chi'n gwybod?

  • Mae cewynnau go iawn yn costio ychydig gannoedd o bunnoedd. Ond mae cewynnau tafladwy yn costio dros fil o bunnoedd, drwy gydol oes cewyn babanod.
  • Gan eu defnyddio nhw ar gyfer plant yn y dyfodol, nid oes unrhyw gost ychwanegol wrth ddefnyddio cewynnau go iawn.
  • Gallan nhw gael eu sychu ar y lein pan fo'n bosibl neu yn y peiriant sychu gyda gweddill eich dillad.
  • Nid ydyn nhw'n achosi brech cewyn, na defnyddio cemegau sy’n gallu gorsychu croen babi.
  • Yn dda ar gyfer ystum y babi – gan gadw cluniau ar wahân ar y pellter cywir.
  • Dylai babanod mewn cewynnau go iawn hyfforddi i ddefnyddio'r poti yn gynt o lawer. Mae hyn oherwydd cysylltu bod yn wlyb â gwagio eu pledren.

Ble gallaf i brynu cewynnau go iawn?

Cwmnïau archebu drwy'r post yng Nghymru

Cwmnïau archebu drwy'r post

Cysylltwch â ni