Cronfa Cyfamod
Mae Llywodraeth y DU (Y Weinyddiaeth Amddiffyn) wedi sefydlu Cronfa Cyfamod er mwyn dosbarthu £10 miliwn y flwyddyn yn barhaus o 2015/2016 ymlaen, er mwyn ariannu prosiectau sy’n cefnogi amcanion y Cyfamod Lluoedd Arfog ac yn benodol i ariannu prosiectau sy’n cefnogi Cymuned y Lluoedd Arfog yn lleol, yn rhanbarthol ac ar draws y Deyrnas Unedig. Mae’r blaenoriaethau ar gyfer y cyllid hwn yn cael eu datblygu mewn ymgynghoriad â Grŵp Cyfeirio Cyfamod y Weinyddiaeth Amddiffyn.
Mae’r Gronfa Cyfamod bellach wedi ei chyfarwyddo i sefydlu etifeddiaeth barhaol ar gyfer gwaith ac egwyddorion y Cyfamod Lluoedd Arfog. Felly mae’n bwysig bod y cyllid yn cael ei ganolbwyntio a’i gyfeirio’n deg. Nodwyd pedair thema gyffredinol gan y Grŵp Cyfeirio y mae’n rhaid i’r Gronfa Cyfamod eu hystyried yn awr, ac yn y dyfodol, wrth wneud penderfyniadau.
Y rhain yw:
- Gwasanaethau gofal iechyd nad ydynt yn wasanaethau craidd i gyn-filwyr;
- Dileu’r rhwystrau i fywyd teuluol;
- Cymorth ychwanegol ar ôl gwasanaeth i’r rhai sydd angen help;
- Mesurau i integreiddio cymunedau’r Lluoedd Arfog a sifiliaid a chaniatáu i gymunedau’r Lluoedd Arfog gyfranogi fel dinasyddion.
Bydd y Gronfa Cyfamod yn ymgynghori â’r Grŵp Cyfeirio ar flaenoriaethau a fydd yn cefnogi un neu fwy o’r themâu yn flynyddol.
Bydd yr oruchwyliaeth strategol a gwneud penderfyniadau o ran derbyn y cyllid yn cael ei wneud gan Banel y Gronfa Cyfamod sy’n cynnwys aelodau a benodwyd yn briodol.
Bydd gweithrediad a rheolaeth dydd i ddydd y Gronfa Cyfamod yng ngofal tîm grantiau gweithredol.
Bydd y Gronfa Cyfamod yn rhoi grantiau (cyfalaf a/neu refeniw) i sefydliadau mewn ymateb i geisiadau, a bydd y grantiau yn cael eu dyrannu yn unol â meini prawf clir, gosodedig a thryloyw yn dilyn proses o wneud penderfyniadau a gytunir ymlaen llaw gyda Phanel y Gronfa Cyfamod.
Amserlen ar gyfer Ariannu Cronfa Cyfamod
Mae'r blaenoriaethau ariannu ar gyfer Ebrill 2018 i Fawrth 2019 fel a ganlyn: -
- Cyfamod y Lluoedd Arfog: grantiau lleol a datblygiad digidol
- Cymunedau Cadoediad a Lluoedd Arfog: cefnogi cymunedau lleol i ystyried Cyfamod y Lluoedd Arfog a'i berthnasedd heddiw yng nghyd-destun coffau'r Rhyfel Byd Cyntaf
Cyhoeddir blaenoriaethau pellach yn y misoedd nesaf.
Mae dau lwybr ariannu:
- grantiau bach, ar gyfer ceisiadau hyd at uchafswm o £20,000 a
- grantiau mawr, ar gyfer ceisiadau rhwng £20,001 a £500,000.
Bydd y Bwrdd Gweinyddiaeth Ddatganoledig Rhanbarthol, a reolir gan Bencadlys Brigâd 160 y Troedfilwyr yn Aberhonddu, yn derbyn ceisiadau lleol o Gymru ar gyfer ymgynghoriad a thrafodaeth ymysg fforymau Lluoedd Arfog rhanbarthol a lleol er wyn pennu addasrwydd ac angen.
Fforwm Lluoedd Arfog Caerffili
Mae gan Fforwm Lluoedd Arfog Caerffili gynrychiolaeth gan lawer o sefydliadau sy’n ystyried amrywiaeth o fesurau i gefnogi ein cymuned lluoedd arfog leol (gan gynnwys Cyn-filwyr y Lluoedd, Personél sy’n Gwasanaethu a milwyr wrth gefn, a’u teuluoedd) o fewn ein cymunedau lleol ar draws y fwrdeistref sirol.
Mae aelodau’r Sector Gwirfoddol sy’n rhan o Fforwm Lluoedd Arfog Caerffili yn cynnwys:- y Lleng Brydeinig, SSAFA, Change Step, Alabaré, Cyngor ar Bopeth, Cymdeithas Tai First Choice, Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Gwent (GAVO), Sefydliad St Loye, Hire a Hero, RAFA, y Gwasanaeth Lles Meddygol Amddiffyn (DMWS), Ffederasiwn Teuluoedd y Fyddin.
Mae aelodau eraill o Fforwm Lluoedd Arfog Caerffili yn cynnwys: - Ysbyty Maes 203 (Cymru), Catrawd 104 y Magnelwyr Brenhinol, Sgwadron Gynorthwyol Brenhinol 614 A F, Veterans UK (a elwid gynt yn SPVA), RFCA, GIG Cyn-filwyr Cymru, y Gwasanaeth Prawf, y Cwmni Adsefydlu Cymunedol, yr Adran Gwaith a Phensiynau, Fforwm Busnes Caerffili, Ffederasiwn y Busnesau Bach, Heddlu Gwent, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, a Chyngor Bwrdeistref Sirol Chaerffili, sydd i gyd yn gweithio gyda’i gilydd i gefnogi a chynghori ein cymuned y Lluoedd Arfog.
Gan fod Fforwm Lluoedd Arfog Caerffili yn cynnig arbenigedd lleol o’r fath, mae’n bosib y byddai o fudd i unrhyw grŵp neu sefydliad ym Mwrdeistref Sirol Caerffili sy’n dymuno cyflwyno cais am gyllid i’r Gronfa Cyfamod, drafod y cais gyda’r Fforwm Lluoedd Arfog Caerffili lleol. Gallai hyn gryfhau’r cais, gan y bydd yn mynd yn ei flaen i’r Bwrdd Gweinyddiaeth Ddatganoledig Rhanbarthol.
Cysylltwch â:-
Lisa Rawlings
Swyddog Cyswllt Rhanbarthol Cyfamod y Lluoedd Arfog
Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili
Uned Polisi
Tŷ Penallta
Parc Tredomen
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7PG
Ffôn: 01443 864447 / 07717 467341
Email: armedforces@caerphilly.gov.uk
Bydd y penderfyniad terfynol ar addasrwydd ceisiadau yn cael ei wneud gan Fwrdd Cyfamod y Weinyddiaeth Amddiffyn yn dilyn cyngor ac adborth gan y Byrddau Gweinyddiaeth Ddatganoledig Rhanbarthol.
Canllawiau a Ffurflenni
Mae prif dudalen y Weinyddiaeth Amddiffyn ar gyfer Ariannu’r Cyfamod ar gael yn https://www.gov.uk/government/collections/covenant-fund
Arolygon ar-lein yw’r ffurflenni cais. Wrth i chi gwblhau eich cais dylech gyfeirio at y canllawiau grantiau bach neu fawr perthnasol er mwyn sicrhau eich bod yn cael y siawns gorau o lwyddo. Os hoffech weld rhestr o’r cwestiynau a ofynnir ar bob un o’r ffurflenni, gallwch ddod o hyd iddynt ar y dudalen canllawiau.
Canllaw grantiau bach y Gronfa Cyfamod (PDF)
Canllaw grantiau mawr y Gronfa Cyfamod (PDF)
Os oes gennych unrhyw ymholiadau sydd heb eu cynnwys yn y canllawiau neu’r ‘cwestiynau cyffredin’, yna peidiwch oedi rhag cysylltu â’r Weinyddiaeth Amddiffyn trwy anfon e-bost at COVENANT-GrantTeamMailbox@mod.uk.