Rhoi gwybod am broblem yn ymwneud â choed

Bydd y person y dylech gysylltu ag ef yn dibynnu ar natur y broblem. Byddem yn eich cynghori i ddarllen yr adran ar reoli coed cyn cysylltu â ni.

Coed ar briffyrdd, strydoedd, palmentydd, mynwentydd a pharciau

Ni sy’n gyfrifol am reoli’r coed hyn. Defnyddiwch y manylion cyswllt canlynol yn dibynnu ar natur y broblem:

  • Ymchwilir i geisiadau yn ôl blaenoriaeth o ran tocio/cael gwared â choed ar y briffordd (neu’n uniongyrchol wrth ei hymyl) os ydynt yn cydymffurfio â'r meini prawf o ran niwsans cyfreithiol ac iechyd a diogelwch, neu i glirio llwybr drwy'r briffordd neu arwyddion - a chaiff unrhyw waith angenrheidiol ei wneud yn seiliedig ar hynny. Ewch i'n hadran ymyl ffordd a thorri gwair am fanylion.

  • O ran coed mewn parciau, tiroedd hamdden, mynwentydd neu fannau agored eraill cysylltwch â Gofal Cwsmer.

     

Galwadau brys

Bydd ein tîm galwadau brys yn ymweld â safleoedd y tu allan i oriau swyddfa i sicrhau nad yw coed yn achosi unrhyw berygl i’r cyhoedd. Fel arfer caiff unrhyw ddeunydd ei adael ar y safle os yw’n ddiogel i wneud hynny a’i glirio y bore canlynol, neu ar y cyfle cyntaf yn dilyn storm fawr.

Noder: Ni fyddwn yn gwneud unrhyw waith arall ar goed fel rhan o’r gwasanaeth hwn.

Pan fo coeden sy’n eiddo preifat wedi cwympo neu mewn perygl difrifol o rwystro’r cyhoedd rhag defnyddio’r briffordd gyhoeddus yn ddiogel, mae gan yr adran goed yr hawl i ddelio â’r broblem ac adennill y costau oddi ar berchennog/rheolwr y goeden.

Materion cynllunio

O ran ymholiadau’n ymwneud â Gorchmynion Diogelu Coed neu Ardaloedd Cadwraeth cysylltwch â’r adran gynllunio.

Problemau’n ymwneud â choed ar diroedd ysgol

Cysylltwch â'r ysgol dan sylw yn uniongyrchol.

Coed ar diroedd tai cyngor

Dylai tenantiaid sy’n cael problemau â choed yn eu gerddi eu hunain neu ar diroedd cyfagos gysylltu â’u swyddfa dai leol yn y lle cyntaf.