Ymylon ffyrdd a thorri glaswellt
Fel yr awdurdod priffyrdd, rydyn ni'n gyfrifol am ordyfiant yn dod o ymyl y briffordd, gan gynnwys coed, gwrychoedd, torri gwair a chwyn.
Gall gordyfiant llystyfiant greu perygl diogelwch i ddefnyddwyr priffyrdd drwy:
- rwystro’r gallu i weld wrth gyffyrdd
- orfodi defnyddwyr y briffordd, yn enwedig marchogion ceffylau, beicwyr a cherddwyr, i'r ffordd
- effeithio ar ddraenio dŵr wyneb, gan achosi llifogydd lleol.
Cynhelir torri glaswellt ar ein hymylon ddwywaith y flwyddyn, yn ystod mis Mai a mis Awst.
Os ydych chi'n ymwybodol o ymyl y ffordd sy'n achosi problem diogelwch, rhowch wybod i ni gan ddefnyddio'r ffurflen ar-lein isod.
Os ydych chi wedi cyflwyno cais yn ddiweddar, a hoffech chi ei drafod ymhellach, e-bostiwch
RhPC@caerffili.gov.uk neu ffonio
01443 866511 gan ddyfynnu cyfeirnod eich ffurflen.
Os ydych chi'n ymwybodol o ymyl y ffordd sy'n achosi problem diogelwch, rhowch wybod i ni gan ddefnyddio'r ffurflen ar-lein isod.
Twf i'r briffordd o eiddo preifat
O dan y Ddeddf Priffyrdd (1980 ac fel y'i diwygiwyd) rydych chi'n gyfrifol am gynnal coed, gwrychoedd a llwyni o fewn eich eiddo eich hun sy'n ffinio ar y briffordd gyhoeddus. Ewch i'n hadran llystyfiant sy'n hongian uwchben y briffordd am fanylion.