Rheoli coed
Rydyn ni’n gyfrifol am reoli coed sydd wedi’u plannu ar y briffordd gyhoeddus yn ogystal â choed mewn parciau a mannau agored ledled y fwrdeistref sirol. Rydym hefyd yn rhoi cyngor statudol i’r Isadran Gynllunio ar yr holl faterion sy'n ymwneud â choed a datblygu.