Gordyfiant

Llystyfiant preifat sy’n hongian uwchben y briffordd

Dan Deddf Priffyrdd 1980 (ac fel y’i diwygiwyd), rydych yn gyfrifol am gynnal a chadw choed, perthi a llwyni ar eich eiddo sydd ar y ffin â’r briffordd gyhoeddus. Rhaid i chi sicrhau nad yw’r llystyfiant sydd ar eich eiddo yn:

  • hongian uwchben y palmant/ffordd gan beri rhwystr i gerddwyr neu gerbydau
  • achosi risg iechyd a diogelwch afresymol i gerddwyr neu gerbydau
  • rhwystro arwyddion traffig neu arwyddion ffyrdd
  • rhwystro llinellau gweld gyrwyr

Rydym yn argymell eich bod ond yn defnyddio contractwyr cymwys ac yswiriedig i wneud unrhyw waith angenrheidiol i reoli eich llystyfiant. Mae rhestr o gontractwyr cymeradwy ar gael ar wefan yr Arboricultural Association.

Os gwelir bod llystyfiant sy’n hongian uwchben y briffordd o eiddo preifat neu fasnachol yn achosi rhwystr, gallwn gyflwyno hysbysiad gorfodi ar y tirfeddiannwr. Mae’r hysbysiadau hyn yn rhoi 14 diwrnod i berchennog y tir wneud unrhyw waith angenrheidiol. Ar ôl y cyfnod hwnnw gallwn wneud y gwaith ein hunain a gofyn i’r tirfeddiannwr ad-dalu’r holl gostau.

Llystyfiant yn hongian uwchben eich eiddo

Nid oes unrhyw rwymedigaeth gyfreithiol arnoch i docio neu leihau deiliach o lystyfiant ar eich eiddo os yw’n hongian uwchben eiddo cyfagos. Fodd bynnag, os yw'r llystyfiant dan sylw yn achosi difrod i eiddo cyfagos gellir ei ystyried yn niwsans cyfreithiol.

Yn achos niwsans cyfreithiol, byddai perchennog y llystyfiant yn gorfod atal y niwsans. Mae’r un egwyddor yn berthnasol i unrhyw goeden sy’n eiddo i’r cyngor neu a reolir ganddo.

Os yw perchennog tir yn amharod neu’n methu â lleihau neu gael gwared â deunydd sy’n hongian, yna gall y tirfeddiannwr yr effeithir arno arfer ei hawliau dan y ‘gyfraith gyffredin’. Mae hyn yn rhoi’r grym i berchennog y tir dorri’r deunydd yn ôl at y ffin.

Fodd bynnag, os bwriedir gwneud hyn rhaid ystyried y canlynol:

  • Byddai’n rhaid i gostau unrhyw gamau a gymerir gael eu talu gan y perchennog tir yr effeithir arno sy'n dymuno gwneud y gwaith; ni ellir adennill y costau oddi wrth berchennog y goeden.
  • Rhaid cwblhau’r gwaith ar dir yr eiddo yr effeithir arno. Gallai mynediad at yr eiddo neu’r goeden o leoliad arall gael ei ystyried yn dresmasu.
  • Os yw’r goeden yn marw neu’n cwympo o ganlyniad i’r gwaith yna gall y person(au) sy’n gwneud y gwaith fod yn atebol dan y gyfraith am y difrod i’r goeden a/neu unrhyw eiddo cyfagos.
  • Os caiff coeden/llwyn ei thocio tu hwnt i’r llinell derfyn, mae'n bosibl y caiff achos ei ddwyn yn eich erbyn am achosi difrod troseddol.
  • Mae unrhyw ddeunydd a gaiff ei dynnu yn eiddo i berchennog y llystyfiant, ac yn dechnegol dylid ei “gynnig yn ôl” i’r perchennog (nid yw hyn yn golygu y dylech ei daflu dros y ffens!!). Fodd bynnag, nid oes rhaid i’r perchennog ei dderbyn – sy’n golygu mai chi fydd yn gyfrifol am gael gwared arno’n ddiogel a chyfreithiol. Os caiff unrhyw ddeunydd ei dynnu oddi ar goed a reolir gan y cyngor yn y modd hwn, mae’n rhaid i chi gael gwared arno eich hun mewn modd cyfrifol gan dalu'r costau eich hun.
  • Os yw’r goeden mewn Ardal Gadwraeth neu’n destun Gorchymyn Diogelu Coed, rhaid gwneud cais i Isadran Gynllunio'r cyngor i gael caniatâd i wneud unrhyw waith.
  • Os bydd y goeden yn marw neu os bydd angen gwneud gwaith pellach arni o ganlyniad i’r gwaith yna gall perchennog y tir wneud cais am iawndal am y difrod i’r goeden a/neu ddwyn achos am ddifrod troseddol.

Os ydych yn ansicr ynglŷn â sut i fwrw ymlaen ag unrhyw un o'r materion a nodwyd uchod, fe'ch cynghorwn yn gryf i ofyn am gyngor proffesiynol cyn gwneud unrhyw waith.

Mae’r The Arboricultural Association yn cael ei gydnabod yn eang yn y DU fel y prif gorff sy’n ymwneud â gofalu am goed a'r rhan fwyaf o'r materion sy'n effeithio arnynt a'r bobl sy'n byw wrth eu hymyl. Mae rhestr o gontractwyr cymeradwy ar gael ar eu gwefan.