Drwy ddefnyddio’r safle we hwn, rydych yn cytuno i’n defnydd ni o gwcis. Cliciwch am fwy o fanylion.
Caerphilly Logo
Cofrestrwch i dderbyn e-byst hysbysu
  • Skip to content
  • Hygyrchedd
  • Cysylltwch â ni
  • Y ganolfan newyddion
  • Fy nhudalennau
  • English
  • Tasgau poblogaidd
  • Preswylydd
  • Busnes
  • Pethau i'w gwneud
  • Y Cyngor
  • Cymerwch ran
  • Tasgau poblogaidd
    • Swyddi gwag
    • Covid-19 - Latest information regarding school provision
    • Gwybodaeth Brechlyn COVID-19
    • Cefnogi Pobl – cymorth yn ymwneud â thai
    • Gwneud cais, adrodd, gofyn, talu
    • Ysgolion, dyddiadau tymor a chau ysgolion
    • Gwastraff heb ei gasglu
    • Amserlenni bysiau
    • Canolfannau ailgylchu
    • Credyd Cynhwysol (yn lle Budd-daliadau Tai)
    • Cyngor a chymorth am lifogydd
    • Diwrnodau casglu gwastraff
  • Preswylydd
  • Busnes
  • Pethau i'w gwneud
  • Y Cyngor
  • Cymerwch ran
A allaf helpu?
CORONAFEIRWS (COVID-19) : yr wybodaeth cyngor a chymorth diweddaraf
  • Preswylydd    Rheoli coed    Cwestiynau cyffredin am reoli coed

Cwestiynau cyffredin am reoli coed

Cwestiynau cyffredin am goed a materion yn ymwneud â rheoli coed.
There are trees which I think should be protected by a Tree Preservation Order. What can I do?

Cysylltwch â'r Isadran Gynllunio gan roi manylion am y goeden/coed, nodi eu lleoliad (mor gywir â phosibl) os yn bosib ynghyd â ffotograff, a nodi'r rhesymau pam eich bod yn meddwl y dylai'r goeden/coed gael eu diogelu.

Can the council prune a tree on private property?

Mae gan yr Isadran Parciau ei dîm coed ei hun, gyda staff profiadol a chymwys i wneud pob math o waith tocio a/neu dorri coed. Oherwydd ei ymrwymiadau a rhwymedigaethau statudol, nid yw’r tîm bob amser ar gael i wneud gwaith. Fodd bynnag, ar rai adegau pan fo coed ar dir preifat, gall rheolwr y tîm roi dyfynbris teg am unrhyw waith sydd angen ei wneud. E-bostiwch Adran Weinyddol y Parciau neu ffoniwch 01443 866511 i ofyn am ddyfynbris.

Fel arall, byddem yn eich cynghori i ofyn am gyngor gan arbenigwr coedyddiaeth proffesiynol. Mae rhestr o gontractwyr a gymeradwyir ar gael ar wefan yr Arboricultural Association hefyd.

Cyn gwneud unrhyw waith, cysylltwch â'r adran gynllunio i sicrhau nad yw’r coed yn destun Gorchmynion Diogelu Coed ac nad ydynt mewn Ardal Gadwraeth.

I'm worried about the condition of a tree on council-held land, what can I do?

Os yw coeden y tu allan neu wrth ymyl eich eiddo, neu mewn ardal gyfagos, yn ymddangos yn wael ei hiechyd, a fyddech gystal â rhoi gwybod i'r tîm Gofal Cwsmeriaid - Priffyrdd.

Os yw’r goeden mewn parc neu fan agored arall a reolir gan y cyngor, rhowch wybod i ni drwy ffonio 01443 866511 neu drwy e-bostio Adran Weinyddol y Gwasanaeth Parciau.

Rhowch gymaint o fanylion ag y gallwch. Beth yw maint y goeden (e.e. talach na bws deulawr)? Ble yn union y mae'r goeden? Pa bryd wnaethoch chi sylwi bod ei chyflwr wedi newid? Dyma rai symptomau y gallech sylwi arnynt:

  • Coeden wedi marw – dim dail arni yn yr haf
  • Ffwng ar waelod y goeden, neu ar y boncyff, neu ar y ddaear gerllaw
  • Coeden yn gwywo, y dail yn troi’n frown ac yn cwympo yn yr haf
  • Mae’r boncyff yn ymddangos yn rhydd ar y gwaelod (neu ar ran isaf y boncyff), neu mae’r ddaear yn codi o amgylch y goeden
  • Cangen neu goes wedi cwympo
  • Brigyn wedi torri – ond dal ynghlwm wrth y goeden – neu frigyn rhydd (ddim yn ynghlwm wrth y goeden) yn hongian uwchben ffordd/troedffordd/mainc/eiddo
Falling fruit, leaves and bird mess – can I have the tree pruned or removed, or who should I report this to?

Nid ydym dan unrhyw rwymedigaeth i docio neu dorri coed am y rhesymau hyn. Mae hyn oll yn cael ei ystyried yn ‘niwsans tymhorol’ sy’n digwydd yn naturiol, ac nid ydym yn cymryd unrhyw gamau lliniaru. Mae gennym amserlen glanhau strydoedd reolaidd ar waith ar gyfer priffyrdd cyhoeddus sy’n eiddo i’r cyngor ac a gynhelir ganddo. Gellir rhoi gwybod am broblemau sy'n ymwneud â glendid strydoedd ar-lein.

Council tree overhangs my boundary, can I have it pruned?

Na. Nid ydym yn arolygu/tocio coed nad ydynt wedi’u cynnwys ar ein hamserlen waith gan fod deiliach yn hongian uwchben eiddo. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar y wefan llystyfiant sy’n gordyfu.

I am a Housing tenant, how do I get my tree pruned?

Dylai tenantiaid tai cyngor gysylltu â'u swyddfa dai leol a fydd yn trafod y broblem gyda chi ac yn cadarnhau pwy sy’n gyfrifol am y goeden. Byddant yn trosglwyddo eich ymholiad i ni os ystyrir bod angen gwneud hynny. Peidiwch â chysylltu â’r Isadran Goed neu'r Isadran Parciau yn uniongyrchol, gan nad oes modd i ni ymateb i'r ymholiadau hyn heb gais gan yr Adran Dai.

Neighbour's tree overhanging into my private property, how do I get it cut back?

Gallwch ofyn i berchennog y goeden ei thocio ond dylech wybod nad oes rhaid iddo wneud hynny. Mae gwybodaeth o ran eich hawliau dan y ‘gyfraith gyffredin' ar gael ar y wefan llystyfiant sy’n gordyfu.

Pruning at the wrong time of year, will this damage the tree?

Nid oes unrhyw adeg benodol yn ystod y flwyddyn ar gyfer tocio'r holl rywogaethau o goed. Felly, wrth reoli nifer fawr o goed cawn ein gorfodi i ledaenu gwaith cynnal a chadw ar draws y calendr. Mae’r rhan fwyaf o’r rhywogaethau a gaiff eu plannu yn y stryd neu amgylcheddau adeiledig wedi cael eu dewis oherwydd eu gwydnwch, yn ogystal â'u gallu i ymdopi â gwaith tocio rheolaidd a llygredd trefol.

Sticky mess or 'Honeydew' on my car/garden/decking, can I have the tree pruned or removed?

Na. Nid oes unrhyw reidrwydd arnom i wneud gwaith ar goeden am y rheswm penodol hwn. Mae ‘Mêl-gawod’ yn cael ei gynhyrchu’n naturiol gan bryfed gleision wrth iddynt fwydo ar sudd deiliach. Ni ellir ei rwystro na’i reoli’n effeithiol. Gellir cael gwared â ‘Mêl-gawod’ oddi ar arwynebau caled drwy eu golchi neu sgrwbio gyda digon o ddŵr sebon, cynnes os yn bosib. Dŵr-siwgr ydyw yn ei hanfon; gall fod yn annymunol ac yn niwsans ond nid yw'n niweidiol i bobl, tecstilau na phaent cerbydau [ffynhonell: Research for Amenity Trees Number 2 – 'Diagnosis Of Ill-Health In Trees' gan Strouts a Winter]

Light to my property is blocked by a tree outside my house, can the tree be pruned/removed?

Nac oes. Nid ydym yn tocio na thorri coed am y rheswm penodol hwn yn unig. Nid oes gan drigolion unrhyw hawl cyfreithiol i olau mewn cysylltiad â choed. (Eithriad nodedig yw lle ceir dwy goeden fytholwyrdd neu fwy gyda’i gilydd yn ffurfio'r hyn a elwir yn 'Berth Uchel'). Ewch i'r wefan ar Berthi Uchel i gael rhagor o wybodaeth am hyn. Fodd bynnag, yn y man, gallai gwaith cynnal a chadw coed a gynllunnir helpu i leddfu’r sefyllfa. 

My TV/satellite reception is poor, can I have a tree pruned or removed?

Na. Nid oes gennych unrhyw hawl cyfreithiol i gael derbyniad teledu/lloeren ac felly nid oes unrhyw reidrwydd arnom i docio neu dorri’r goeden/coed oherwydd derbyniad lloeren. Efallai bod angen i chi ailosod eich erial teledu neu ddysgl lloeren, neu gallech ystyried defnyddio teclyn i roi hwb i’ch erial/signal lloeren.

Tree overhanging and obstructing the public highway, what can I do to get it pruned?

Arolygwyr Priffyrdd sy’n gorfodi Deddf Priffyrdd 1980 (ac y fel y diwygiwyd) sy’n delio â choed a/neu lystyfiant arall sy’n hongian uwchben y briffordd gyhoeddus o eiddo preifat.  Rhowch wybod i'r adran Gofal Cwsmeriaid - Priffyrdd am faterion fel hyn.

Branches are touching my building from one of the council's trees, can I have it pruned?

Bydd. Caiff y goeden ei harolygu a bydd unrhyw waith tocio angenrheidiol yn cael ei wneud ar y cyfle cyntaf. 

Os ydych yn denant tŷ cyngor a bod gennych broblem sy’n ymwneud â choed sydd ar dir Tai Cyngor, dylech gysylltu â’ch swyddfa dai leol yn y lle cyntaf. Byddan nhw'n penderfynu a oes angen cynnal archwiliad, neu’n argymell gwaith angenrheidiol gan Isadran Coed y cyngor. Peidiwch â chysylltu â’r Isadran Coed yn gyntaf (oni bai mewn argyfwng) gan na allwn ddelio â'r cais.

Footpath is damaged by tree roots and is in need of repair, who should I contact?

Mae priffyrdd yn cael eu harolygu’n rheolaidd gan Arolygydd Priffyrdd a fydd yn mynd i’r afael ag unrhyw broblemau o ran arwyneb y palmant. Rhowch wybod am broblemau fel hyn i’r adran Gofal Cwsmeriaid - Priffyrdd a fydd yn rhoi gwybod am y broblem i Arolygydd perthnasol.

If I see work being carried out on a protected tree, how can I find out if the owner (or neighbour carrying out works to a protected tree) has Council permission?

Mae gennym gofrestr o’r ceisiadau hyn. Cysylltwch â'r Isadran Gynllunio.

How do I find out the ownership of trees that concern me or my property?

Gallwch gael gwybod drwy gysylltu â'r Isadran Gynllunio.

How can I find out if a tree is protected by a Tree Preservation Order (TPO)?

Am dâl bach gallwch chwilio drwy’r Gofrestr Tir a fydd yn rhoi gwybod i chi i bwy y mae'r tir wedi'i gofrestru (os oes ganddo berchennog cofrestredig).

Mwyaf poblogaidd
  • Rhoi gwybod am broblem yn ymwneud â choed
Rhannwch ar Facebook
Rhannwch ar Twitter
Rhowch Adborth
Ychwanegwch at fy nhudalennau
 
Argraffwch y dudalen hon
Gwasanaethau A i Y
  • A
  • B
  • C
  • Ch
  • D
  • Dd
  • E
  • F
  • Ff
  • G
  • Ng
  • H
  • I
  • L
  • Ll
  • M
  • N
  • O
  • P
  • Ph
  • R
  • Rh
  • S
  • T
  • Th
  • U
  • W
  • Y

Cysylltwch â ni ar gyfryngau cymdeithasol ac ymunwch â'r sgwrs


Am brofiad gwell, edrychwch ar y wefan hon ar Internet Explorer 11 neu uwch, Mozilla Firefox 27 neu uwch, Safari 7 neu uwch, Chrome 30 neu uwch, Opera 12 neu uwch neu feddalwedd borwr gyfwerth.

  • Ymwadiad
  • Hawlfraint
  • Polisi Preifatrwydd
  • Cwcis
  • Accessibility
  • Map o'r safle
Hawlfraint © 2017, Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili. Cedwir pob hawl