Clefyd Coed Ynn

Beth yw Clefyd Coed Ynn?

Clefyd ffyngaidd yw Clefyd Coed Ynn sy'n effeithio ar goed Ynn ar draws y DU ac Ewrop.  Credir ei fod wedi cyrraedd y DU tua 20 mlynedd yn ôl mewn sborau ffyngaidd a gariwyd gan y gwynt o'r cyfandir, yn ogystal ag mewn stoc plannu coed wedi'u heintio a fewnforiwyd o dir mawr Ewrop.  Enw blaenorol ffwng Clefyd Coed Ynn oedd Chlalara fraxinea ond bellach, ei enw gwyddonol yw Hymenoscyphus fraxineus.

Credir bod y ffwng wedi tarddu yn Asia ac mae eu coed Ynn brodorol nhw wedi esblygu i fyw gyda'r ffwng hwn.  Ar dir mawr Ewrop, fodd bynnag, mae ein coed Ynn yn dioddef o'r haint ac mewn rhai ardaloedd, mae hyd at 90% o goed Ynn wedi cael eu lladd gan y clefyd.  Bellach, fe'i gwelir ar draws Cymru.

Mae'r clefyd mewn coed Ynn yn deillio o'r ffwng yn mynd i mewn i'r dail a'r brigau, gan beri niwed i'r systemau cludo bwyd a dŵr hanfodol dan y rhisgl.  Bydd y dail yn gwywo ac yn troi'n ddu a bydd namau (darnau marw neu gamweithredol) yn ymddangos ar y rhisgl.  Bydd colli dail a'r niwed i weithrediad sylfaenol y goeden yn arwain at y corun yn gwywo'n raddol, gan ymddangos fel brigau gydag arlliw efydd yng nghanopi y gaeaf weithiau.  Bydd y coed yn mynd yn frau a gall brigau dorri i ffwrdd.  Efallai na fydd hyn yn broblem mewn coetiroedd, ond mae angen rheoli'r coed mewn ffordd briodol mewn rhai mannau.  Mae coed Ynn sy'n cael eu heffeithio'n ddifrifol mewn perygl o gwympo, gan achosi perygl yn y safle o'u cwmpas.

Dim ond coed Ynn (rhywogaeth Fraxinus) sy'n cael eu heffeithio gan y clefyd ffyngaidd hwn. Mae tudalen ddefnyddiol ar wefan Coed Cadw er mwyn eich helpu i adnabod coed Ynn. (Rydych chi nawr yn cael eich ailgyfeirio i wefan/gwybodaeth trydydd parti)

Nid oes gofyniad cyfreithiol arnoch i gymryd unrhyw gamau penodol os ydych chi'n berchen ar goed Ynn wedi'u heintio, fodd bynnag, mae'r ddyletswydd gofal gyfreithiol arferol yn berthnasol – gweler isod.  Gallai Cyfoeth Naturiol Cymru roi Hysbysiad Iechyd Planhigion Statudol (SPHN) i chi, y bydd gofyn gweithredu yn ei gylch.  Mae hyn, fodd bynnag, yn annhebygol iawn yn Ne Cymru gan fod y clefyd bellach i'w weld dros ardal eang.

Ac eithrio cwympo coed er diogelwch y cyhoedd (dan ddyletswydd gofal) neu gynhyrchu pren, mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn cynghori tybiaeth gyffredinol yn erbyn cwympo coed Ynn byw, os ydynt wedi cael eu heintio neu beidio.  Mae hyn oherwydd y ceir tystiolaeth dda y bydd cyfran fach yn gallu goddef haint H. Fraxineus.  Ceir y posibilrwydd hefyd y gall cyfran o goed Ynn ddioddef o'r clefyd, ond yna, y gallant adfer eu hiechyd wedi hyn.  Byddai'r rhain hefyd yn werthfawr ar gyfer gwaith ymchwil coedwigaeth, er ei bod yn rhy gynnar o hyd i wybod a oes coed o'r fath yn bodoli ym mhoblogaeth Coed Ynn Prydain.

Sut allaf i adnabod Clefyd Coed Ynn?

Fel arfer, mae coed Ynn yn eithaf hwyr yn deilio o'u cymharu gyda'n coed Prydeinig brodorol eraill.  Felly, o fis Mehefin ymlaen y bydd y dail sy'n duo fwyaf amlwg.  I goed ifanc iawn, hyn a'r namau siâp diemwnt ar y brigau neu'r boncyff yw prif nodweddion haint cynnar.

Mae'r clefyd yn peri i'r goeden wywo o ymyl ei chanopi.  Mewn coed aeddfed, arwydd cyntaf y clefyd yw brigau moel a marw ar frig y goeden ac wrth ben y brigau.  Wrth i'r clefyd ddatblygu ac wrth i nifer a hyd y canghennau marw gynyddu, bydd y goeden yn ymateb trwy dyfu dail newydd yn agosach i'r prif ganghennau a'r boncyff, gan roi edrychiad 'pom-pom' talpiog i'r goeden.  Yn y pen draw, bydd y goeden yn edrych yn gynyddol foel a marw.   (Cofiwch y bydd clympiau o allweddi (hadau) Ynn tywyll yn aros ar y coed ar ôl i'r dail gwympo yn yr hydref a'r gaeaf.  Mae hyn yn ddigon arferol, ond o bellter, mae modd eu camgymryd am ddail sydd wedi duo.)

Gall Clefyd Coed Ynn arwain at y rhisgl ar waelod y boncyff yn colli ei liw mewn ffordd amlwg, yn cracio ac yn marw.  Dylai archwiliad nodi cyrff hadol ffyngaidd a nodweddion “lasys” duon, y maent oll yn dynodi bod y goeden wedi cael ei chytrefu gan ail ffwng, gan gyflymu dirywiad y goeden.  Mae gan goed ynn sydd â'r symptomau hyn risg uwch o farw a chwympo yn sydyn, felly dylid rhoi blaenoriaeth i'r cam o wneud gwaith diogelwch ar y rhain os ydynt mewn lleoliad sy'n peryglu diogelwch y cyhoedd.

Mae adran ddefnyddiol ar wefan Coed Cadw sy'n cynnwys lluniau sy'n dangos y symptomau i gadw golwg amdanynt. (Rydych chi nawr yn cael eich ailgyfeirio i wefan/gwybodaeth trydydd parti)

Er ei bod yn debygol y bydd nifer o'n coed Ynn yn marw o'r ffwng hwn, ceir gobaith ac arwyddion bod rhai coed yn dangos lefel o ymwrthedd. Er mwyn darganfod y coed gwrthiannol, mae'n bwysig cadw cymaint o goed Ynn ag y bo modd lle y mae hyn yn ddiogel. Yn wir, mae coed Ynn nad ydynt yn dangos unrhyw symptomau o'r clefyd yn sicrhau mwy o werth o ran mwynder cyhoeddus ac amrywiaeth amgylcheddol.

Beth mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn ei wneud i reoli'r broblem hon?

Mae gan y Cyngor gyfrifoldeb uniongyrchol dros yr holl goed sy'n tyfu ar dir y mae'n berchen arno neu y mae'n ei ddal yn y fwrdeistref sirol.  Mae'r 'ystad' yn amrywiol iawn ac mae'n cynnwys parciau trefol, parciau gwledig, ardaloedd tai, tir wrth ymyl priffyrdd, mynwentydd a chartrefi gofal ac ati.  Mae gan bob safle ei ofynion, ei gyfleoedd a'i gyfyngiadau ei hun mewn perthynas â choed.  O 2016, nifer amcangyfrifedig y coed yw 260,000, er y disgwylir i'r nifer hwn godi wrth i arolygon ehangach gael eu cynnal yn y dyfodol.

Fel yr Awdurdod Priffyrdd, mae'r Cyngor yn asesu coed y gallent gwympo ar y Briffordd hefyd.  Efallai nad y cyngor sy'n gyfrifol am reoli'r coed hyn, felly hysbysir perchennog y tir o unrhyw berygl a gofynnir iddynt gymryd camau priodol er mwyn sicrhau diogelwch defnyddwyr y briffordd.  Mae gan yr Awdurdod Priffyrdd bwerau dan Ddeddf Priffyrdd 1980 i roi hysbysiad i berchnogion sy'n mynnu eu bod yn atal niwsans neu berygl rhagweladwy i'r briffordd.  Bydd hyn yn cynnwys coed Ynn yn nosbarthiadau 2-4 (gweler isod).

Ni fydd y Cyngor yn ymwneud ag anghydfodau rhwng perchnogion tir preifat ynghylch materion sy'n ymwneud ag iechyd coed a dyletswydd gofal (oni bai bod y goeden dan sylw yn berygl rhagweladwy i hawl tramwy cyhoeddus, priffordd neu le mynediad cyhoeddus cyfreithlon arall gerllaw).
 
Mae'r Cyngor yn cyflogi staff proffesiynol, sy'n meddu ar gymwysterau a phrofiad addas ym maes coedyddiaeth (gofalu am a rheoli coed).  Er mwyn cynorthwyo i reoli'r stoc coed, ac er mwyn bodloni dyletswydd gofal y Cyngor, defnyddir cronfa ddata rheoli coed cyfrifiadurol.  Mae'r wybodaeth a gofnodir yn cynnwys manylion ynghylch lleoliad, rhywogaeth, oedran a disgwyliad oes defnyddiol a chyflwr coeden, ynghyd ag argymhellion ynghylch unrhyw waith angenrheidiol, gwerth coeden unigol fel ased amgylcheddol / amwynder.
 
Cynhelir archwiliadau coed ar draws  y fwrdeistref sirol ond yn enwedig yn yr ardaloedd hynny lle y gallai coed beri'r perygl mwyaf i bobl neu eiddo.  Nodir a rhoddir sylw i faterion rheoli eraill hefyd, gymaint ag y bo modd.  Caiff archwiliadau rhagweithiol neu 'a gynllunnir' eu seilio ar ddull 'parthol' yn ôl y defnydd a wneir o'r safle, pa mor aml y bydd ymwelwyr/defnyddwyr yno, ac asesiad risg cysylltiedig.
 
Ein nod yw archwilio parthau DEFNYDD UWCH bob dwy flynedd.  Mae'r rhain yn cynnwys:

  • llwybrau trafnidiaeth – ffyrdd-A a ffyrdd-B
  • ysgolion
  • ystadau tai (ardaloedd cymunol) a darpariaeth tai gwarchod/ar gyfer yr henoed
  • parciau trefol
  • mynwentydd

Ein nod yw archwilio parthau DEFNYDD CANOLIG bob pedair blynedd.  Mae'r rhain yn cynnwys:

  • parciau gwledig
  • llyfrgelloedd
  • mannau agored cyhoeddus sy'n cynnwys coed aeddfed mawr
  • lleoedd chwarae
  • safleoedd gwasanaethau cymdeithasol
  • meysydd parcio
  • safleoedd corfforaethol sy'n cael eu dal gan y Cyngor
  • Camlas Sir Fynwy ac Aberhonddu

Ar gyfer parthau DEFNYDD IS, bydd ein harchwiliadau yn seiliedig ar hwylustod:

  • Yr holl safleoedd eraill
  • Llwybrau trafnidiaeth – ffyrdd dosbarth-C a diddosbarth
  • Hawliau Tramwy Cyhoeddus

Rydym yn categoreiddio'r clefyd mewn coed Ynn gan ddefnyddio system sy'n cynnwys Dosbarth 1 i Ddosbarth 4 (gweler y graffigyn isod).  Ar sail y dull gweledol syml hwn er mwyn nodi coed Ynn y gallent fod yn beryglus, gall ein Harchwilwyr Coed, ein Harchwilwyr Priffyrdd a'n staff Cynnal a Chadw Tir gymryd camau priodol ar archwiliadau a gynlluniwyd ac archwiliadau ad hoc o goed y cyngor er mwyn sicrhau bod y coed yn cael eu rheoli mewn ffordd briodol.

Gan ddibynnu ar archwiliad manylach o'r goeden a lleoliad y goeden, gallai dewisiadau rheoli gynnwys tocio er mwyn lleihau'r corun neu docio er mwyn gwneud y goeden yn ddiogel, yn hytrach na'i chwympo.  Mae coed ynn yn cynnal ystod eang o fioamrywiaeth gysylltiedig, fel cennau, bryoffytau ac anifeiliaid sy'n magu, sy'n clwydo ac sy'n llochesu yn y coed.  Mae pren marw sy'n sefyll yn gynefin gwerthfawr iawn ac mae'n rhaid ei gadw lle y mae'n ddiogel gwneud hynny.  Mae hen goed yn cynnig gwerth arwyddocaol i fywyd gwyllt hefyd, ac fe'u hystyrir yn asedau unigryw, yn enwedig y rhai sy'n hen iawn neu a ystyrir yn goed 'hynafol'.

Disease in as tress

Beth mae angen i mi ei wneud?

Os oes gennych chi goed ar eich tir, yn enwedig coed Ynn sy'n dangos symptomau Clefyd Coed Ynn, y gallent gwympo ar dir cyfagos, ffyrdd, hawl tramwy neu eiddo, mae'n bwysig bod tyfwr coed profiadol ac sy'n meddu ar gymwysterau addas yn asesu'r coed (mae rhestr o rai ymarferwyr ag enw ar gael ar ein tudalen Cwestiynau Cyffredin am Reoli Coed ar y wefan) er mwyn pennu eu hiechyd a lefel y risg y maent yn ei hachosi.  Mae'r risg a achosir gan goeden y mae ei hiechyd yn wael neu y mae ganddi ganghennau marw neu sy'n marw, yn dibynnu ar ei lleoliad yn ogystal â'i chyflwr.  Bydd coed mewn cyflwr gwael y maent gerllaw ardaloedd defnydd uchel (er enghraifft, priffyrdd) yn achosi risg llawer uwch na choed mewn caeau, gwrychoedd a choetiroedd i ffwrdd o dai a hawliau tramwy cyhoeddus.

Gan fod coed yn werthfawr ar gyfer bywyd gwyllt, dylid ystyried lleihau'r risg a achosir gan y goeden trwy wneud gwaith tocio, yn hytrach na'i chwympo, os ystyrir bod hwn yn ddewis diogel.  Pan na cheir unrhyw dargedau i'r goeden eu difrodi, ni fydd gofyn i chi gwympo'r goeden, hyd yn oed os oes Clefyd Coed Ynn arni, (oni bai eich bod yn cael Hysbysiad Iechyd Planhigion Statudol gan Gyfoeth Naturiol Cymru yn rhoi cyfarwyddyd i chi wneud hynny).

Dan Ddeddfau Atebolrwydd Deiliaid 1957 a 1984 a Deddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith 1974, mae gofyniad cyfreithiol ar dirfeddianwyr i sicrhau bod POB coeden ar eu tir yn cael eu cynnal a'u cadw i safon ddiogel ac nad ydynt yn peri risg i'r cyhoedd.  Os bydd coeden y mae'n amlwg bod diffygion arni yn peri difrod i bobl neu eiddo pan fydd yn cwympo, neu pan fydd ei changhennau yn cwympo, mae'n debygol iawn y gallai'r tirfeddiannwr fod yn atebol am ddifrod o'r fath yn ôl y gyfraith.  Mae'n bwysig bod tirfeddianwyr yn cymryd camau priodol i asesu'r risg a achosir gan yr holl goed ar eu tir, gan gynnwys coed mewn cyflwr gwael ar hyd ffiniau.

Os ystyrir mai tocio neu wneud gwaith dinoethi yw'r dewis gorau (er mwyn lleihau'r risg a achosir gan y goeden), dylid cyflogi tyfwr coed (meddyg coed) sy'n meddu ar gymwysterau addas i gyflawni'r gwaith.  Bydd angen bod ganddynt yswiriant atebolrwydd cyhoeddus dilys.  Ni fydd tyfwr coed dibynadwy yn ddig os byddwch yn gofyn am gael gweld eu tystysgrifau yswiriant.  Gellir gweld rhestr o rai tyfwyr coed lleol sy'n meddu ar gymwysterau addas yn ein rhestr yma, ac mae gan y Gymdeithas Coedyddiaeth fanylion contractwyr coed sy'n gweithio yn unol â'r safonau diogelwch a phroffesiynol uchaf hefyd.

Mae rhai ffynonellau yn dweud bod Clefyd Coed Ynn yn peri newid strwythurol i'r pren.  Efallai y bydd coed yn mynd yn anrhagweladwy ac weithiau, ni fydd yn ddiogel eu cwympo o lefel y ddaear.  Argymhellir mai dim ond meddygon coed neu gontractwyr sy'n meddu ar brofiad, cymwysterau ac offer addas ddylai gwympo neu ddinoethi coed sydd wedi'u heintio'n ddifrifol.

Beth yw fy Nyletswydd Gofal?

Mae gan dirfeddianwyr preifat ddyletswydd gofal dan gyfraith gyffredin i sicrhau eu bod yn gwneud popeth sy'n ymarferol resymol i atal anaf neu ddifrod i gymdogion neu eu heiddo.  Yn ogystal, mae ganddynt ddyletswydd gofal tuag at ymwelwyr â'u tir, gan gynnwys tresbaswyr, dan y Deddfau Atebolrwydd Deiliaid.  Yn ogystal, mae'r Ddeddf Priffyrdd yn mynnu bod tirfeddianwyr yn sicrhau na fydd eu coed yn peryglu pobl ar ffyrdd a llwybrau troed.

Mae gan fusnesau rwymedigaethau ychwanegol dan y Ddeddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith er mwyn sicrhau bod eu gweithleoedd yn ddiogel.

I ddeiliaid tŷ unigol, efallai y bydd eich dyletswydd gofal chi yn mynnu eich bod yn archwilio cyflwr eich coed Ynn (ac unrhyw goed eraill) yn rheolaidd, neu'n trefnu bod gweithiwr proffesiynol sy'n meddu ar gymwysterau addas yn gwneud hynny ar eich rhan.  Bydd tynnu lluniau o'r goeden ar adegau amrywiol o'r flwyddyn, bob blwyddyn, yn helpu i roi dealltwriaeth well i chi o'r ffordd y mae unrhyw glefyd yn datblygu.  Bydd cymharu'r lluniau yn dangos i chi ar unwaith a fu unrhyw ddirywiad yn iechyd y goeden neu ai nawr yw'r amser i gymryd camau brys.  

I dirfeddianwyr mwy a busnesau, bydd angen i chi (neu weithiwr proffesiynol ar eich rhan):

  1. Nodi faint o goed Ynn sydd gennych chi

  2. Asesu eu cyflwr presennol

  3. Nodi lle y mae coed sy'n cael eu heffeithio yn peri risg, megis gerllaw ffyrdd neu ysgolion

  4. Gweithredu i sicrhau bod unrhyw goed peryglus yn ddiogel ar ôl cael cyngor Coedyddiaeth cadarn gan ymgynghorydd Coedyddiaeth proffesiynol (gweler trwyddedau Cwympo coed hefyd)

  5. Monitro bob blwyddyn – mae lluniau yn gymorth gweledol defnyddiol iawn er mwyn asesu dirywiad

Yr amser gorau i gynnal arolwg o Glefyd Coed Ynn yw rhwng diwedd mis Mehefin a mis Medi oherwydd y bydd y gwywo yn fwyaf amlwg pan fo'r goeden yn ei dail.  Yr amser gorau i gwympo coed os bydd angen gwneud hynny yw rhwng mis Medi a mis Chwefror, gan osgoi tymor nythu adar.

Sylwer, mae'r Clefyd Coed Ynn yn achosi newid strwythurol i'r pren.  Efallai y bydd coed yn mynd yn anrhagweladwy ac weithiau, ni fydd yn ddiogel eu cwympo o lefel y ddaear.  Argymhellir mai dim ond meddygon coed neu gontractwyr sy'n meddu ar brofiad, cymwysterau ac offer addas ddylai gwympo neu ddinoethi coed sydd wedi'u heintio'n ddifrifol.

Gorchmynion Diogelu Coed a Chlefyd Coed Ynn

Gwneir Gorchymyn Diogelu Coed ar goeden (neu grŵp o goed) er mwyn diogelu'r rhai sy'n cael effaith arwyddocaol ar yr ardal o'u cwmpas.  Mae'n orchymyn a wneir gan awdurdod cynllunio lleol sy'n golygu ei bod yn drosedd torri, tocio, brigdocio, diwreiddio, difrodi coeden yn fwriadol neu ddinistrio coeden yn fwriadol heb sicrhau caniatâd yr awdurdod cynllunio.  Trowch at Gwestiynau Cyffredin Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili ynghylch Rheoli Coed am ragor o wybodaeth, gan gynnwys gwybodaeth am goed mewn Ardal Gadwraeth sy'n cael eu diogelu rhag cael eu cwympo hefyd.

Hyd yn oed os bydd Onnen yn dangos symptomau Gwywo, bydd gofyn gwneud cais am ganiatâd i wneud gwaith tocio. Asesir pob coeden yn ôl ei haeddiant.  Ni chodir tâl am gyflwyno cais i wneud gwaith TPO.

Dan esemptiad yn y ddeddfwriaeth, gellir gwaredu unrhyw goeden sydd wedi marw, sydd yn marw neu sy'n beryglus heb orfod cyflwyno cais.  Fodd bynnag, oni bai bod y goeden yn beryglus, dylech roi pum diwrnod o rybudd fel y gallwn drefnu unrhyw archwiliadau y mae angen eu cynnal.  Mae hyn er budd i chi – gallech gael eich erlyn os byddwch wedi gwneud gwaith anawdurdodedig neu wedi defnyddio'r esemptiad heb fod gennych chi reswm da dros wneud hynny.

Fe'ch cynghorwn yn gryf y dylid trefnu bod gwaith gwaredu (neu unrhyw waith brys arall) yn cael ei gyflawni gan gontractwyr trin coed sydd ag enw da ac y mae ganddynt yswiriant addas.  Mae rhestr o gontractwyr ar gael ar ein tudalen Cwestiynau Cyffredin ynghylch Rheoli Coed. Neu, anfonwch e-bost at Parksadmin@caerphilly.gov.uk i ofyn am gopi.  Os ydych chi'n credu bod eich Onnen a ddiogelir wedi marw, yn marw neu'n beryglus, anfonwch e-bost atom, parksadmin@caerphilly.gov.uk gan gynnwys lluniau o'r goeden o onglau amrywiol er mwyn i ni allu asesu cyflwr y goeden, fel rhan o'r gofyniad i roi 5 diwrnod o rybudd.

Cofiwch nad oes rheidrwydd arnoch i gwympo'r goeden sydd wedi marw neu sydd yn marw i lefel y ddaear os nad oes unrhyw dargedau agored i niwed (ffyrdd, llwybrau, eiddo). Dylech ystyried cadw'r goeden pan fo modd, gan fod hen goed yn gynefin gwerthfawr ac unigryw.

Trwyddedau cwympo coed a Chlefyd Coed Ynn

Gan ddibynnu ar gyfanswm y pren i'w gwympo, efallai y bydd gofyn i chi gael trwydded cwympo coed i waredu coed Ynn ar eich tir, hyd yn oed os oes Clefyd Coed Ynn arnynt. Gellir gweld gwybodaeth ynghylch trwyddedau cwympo coed yn y canllawiau a gyhoeddwyd gan Gyfoeth Naturiol Cymru – Cwympo Coed:  Cael caniatâd.  Isod, gweler dyfyniad o'r ddogfen.

“Os bydd eich coed yn cael eu heintio gan H. fraxineus bydd angen i chi ystyried diogelwch y cyhoedd a monitro eich coed, yn enwedig mewn ardaloedd lle y gwelir cryn fynediad i'r cyhoedd.  Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn cyhoeddi trwyddedau cwympo coed er mwyn cwympo coed sy'n tyfu, ac nid oes unrhyw esemptiad dan Ddeddf Coedwigaeth 1967 i gwympo coed afiach.”

“Gweithgarwch cwympo coed sy'n angenrheidiol er mwyn atal perygl neu atal niwsans.

Dim ond os bydd perygl go iawn yn hytrach na pherygl tybiedig, neu niwsans fel y caiff ei gydnabod gan y gyfraith, y bydd yr esemptiad hwn yn berthnasol.  Efallai y bydd gofyn i chi ddarparu tystiolaeth o'r ffaith bod y coed yn beryglus, er enghraifft trwy gyfrwng adroddiad gan dyfwr coed achrededig neu dystiolaeth ffotograffig. Nid yw coeden afiach yn beryglus o reidrwydd.  Argymhellwn yn gryf eich bod yn cysylltu â ni (Cyfoeth Naturiol Cymru) os ydych yn ystyried cwympo coeden neu goed sy'n beryglus yn eich barn chi.  Efallai y byddwn yn gallu rhoi cyngor i chi a fyddai'n lleihau'r perygl gymaint ag y bo modd heb yr angen i'w cwympo.  Efallai y byddwch yn cael eich erlyn am gwympo coed yn anghyfreithlon os dangosir nad oedd y goeden neu'r coed yn peri unrhyw berygl go iawn neu uniongyrchol, neu nad oeddent yn peri niwsans yn unol â'r hyn a gaiff ei gydnabod gan y gyfraith” 

Torri coed: Cael caniatâd (Rydych chi nawr yn cael eich ailgyfeirio i wefan/gwybodaeth trydydd parti)

Deddfwriaeth ynghylch rhywogaethau gwarchodedig

Caiff adar sy'n nythu a'u hwyau, cywion a nythod eu diogelu gan y gyfraith.  Dylid gwneud gwaith cwympo coed a gwaith tocio y tu all i dymor nythu adar pan fo modd (1 Mawrth i 31 Awst).

Cyn cwympo unrhyw goed aeddfed, dylid archwilio'r rhain er mwyn sicrhau nad ydynt yn cynnal unrhyw ystlumod sy'n clwydo ynddynt. Caiff mannau clwydo ystlumod eu diogelu hyd yn oed os nad ydynt yn cael eu defnyddio.  Bydd gofyn i chi gael trwydded gan Gyfoeth Naturiol Cymru i ddinistrio man gorffwys neu leoliad magu unrhyw rywogaeth o ystlumod.  Am ragor o wybodaeth, gweler Cyfoeth Naturiol Cymru – Trwyddedau Ystlumod. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn rhoi trwyddedau fel y gallwch weithio o fewn y gyfraith.

Sut ddylwn i reoli fy nghoetir?

Os oes gennych chi unrhyw ffyrdd neu lwybrau troed yn mynd trwy eich coetir neu'n agos iddo, dylech archwilio unrhyw goed y gallent syrthio arnynt, a dylai hyn fod yn flaenoriaeth. Yn yr un modd, os oes gennych chi gymdogion y byddent yn cael eu niweidio gan goed y gallent fynd yn beryglus, dylech roi blaenoriaeth i'r cam o archwilio'r rhain.  Os darganfyddir bod unrhyw goed wedi marw, bydd angen cymryd camau i ddiogelu unrhyw dargedau.

Dylech gymryd lluniau o'r goeden (cyn i chi gymryd unrhyw gamau) ar gyfer eich cofnodion chi bob amser, oherwydd y bydd angen i Gyfoeth Naturiol Cymru wybod a dorrwyd unrhyw reoliadau sy'n ymwneud â thrwyddedau cwympo coed (gweler yr adran uchod). Efallai na fydd angen cwympo coed o'r fath i lefel y ddaear, ond dylid lleihau (byrhau) eu huchder a/neu eu gwasgariad er mwyn osgoi unrhyw dargedau agored i niwed.  Mae cynnal gweddill y goeden yn bwysig ar gyfer bywyd gwyllt, gan fod nifer o rywogaethau yn dibynnu ar hen goed a phren sy'n pydru.

Mae angen rheoli coetiroedd sy'n cynnwys coed sydd â Chlefyd Coed Ynn a bydd gofyn cael mewnbwn gan Gyfoeth Naturiol Cymru.  Gallai'r ddolen ganlynol gynnig rhywfaint o arweiniad.

Llawlyfr Clefyd Coed Ynn (Chalara) - 2. Rheoli coed ynn a choetir, gan gynnwys boncyffion a choed tân (Rydych chi nawr yn cael eich ailgyfeirio i wefan/gwybodaeth trydydd parti)

Casglu gwybodaeth ar gyfer cronfa ddata CBSC

Er mwyn ein helpu i reoli swm mawr yr wybodaeth y byddwn yn ei chael am goed Ynn sydd mewn cyflwr gwael, mae angen i ni gael eich help chi.  Isod, rydym wedi rhestru rhywfaint o'r wybodaeth a fydd yn ein helpu i gymryd y camau gorau. Ni allwn ymateb i'r holl ohebiaeth sy'n ymwneud ag ymholiadau ynghylch coed Ynn, ond byddwn yn asesu unrhyw goed y byddwch yn sôn wrthym amdanynt, a byddwn yn cysylltu â'r perchnogion yn ôl yr angen, er mwyn cadw pobl ac eiddo yn ddiogel rhag y niwed a achosir gan goed neu ganghennau sy'n cwympo.
 
Er mwyn ein helpu gyda'n gwaith gweinyddol, byddai o gymorth pe bai modd i chi gynnwys y pennawd canlynol yn eich neges e-bost:
Mae hwn yn ymwneud ag Onnen
 
Heb fod mewn unrhyw drefn benodol, gellir cynnwys yr wybodaeth ganlynol yn eich neges e-bost er mwyn ein helpu:

  • A ydych chi wedi sicrhau mai Onnen yw'r goeden? Nid yw Cerdin / Coed Criafol yn perthyn i'r un teulu ag Ynn, felly nid yw Clefyd Coed Ynn yn effeithio arnynt.  Trowch at wefan Coed Cadw er mwyn eich helpu i gadarnhau bod y rhywogaeth yn gywir
  • Ble mae'r goeden?  Byddai hyn yn cynnwys enw'r stryd, cod post ac unrhyw nodweddion lleol megis safle bws, goleuadau stryd sy'n cynnwys rhif ac ati.  Neu gallech dynnu braslun syml
  • Anfonwch lun o'r goeden gyfan a'r rhannau y credir eu bod yn cael eu heffeithio.
  • Beth yw cwmpas y goeden, mewn centimedrau?  Rhowch dâp mesur o gwmpas y bonyn wrth uchder eich ysgwyddau.  Os nad oes modd ei mesur, a yw hi'n rhy fawr i'w chofleidio gan gyffwrdd eich bysedd?  Mae ymestyn eich breichiau tua'r un hyd â'ch uchder!
  • A oes ganddi un boncyff neu fwy o lefel y ddaear?
  • A oes rhannau o'r canopi sy'n cynnwys llai o ddail neu ddail llai o faint na'r rhai a welir ar weddill y goeden?
  • A yw'r goeden wedi colli unrhyw ganghennau mawr yn ystod y 12 mis diwethaf?  (Yr oedd eu diamedr o leiaf 1 modfedd/25mm neu'n fwy)
  • A yw'r canopi yn cynnwys llawer o fylchau, gyda llawer yn llai o ddail na'r hyn a welir fel arfer ym mis Gorffennaf/Awst?  Neu hyd yn oed yn hollol foel?
  • A welir tyfiant epicormig [egin ifanc cymharol fach sy'n tyfu mewn ffordd doreithiog] o'r boncyff neu'r prif ganghennau?  Peidiwch gofidio os nad ydych yn siŵr – bydd y llun yn ein helpu
  • Dyddiad y llun (cofiwch ei bod yn anarferol i goed Ynn gael eu holl ddail cyn mis Mai – mae hynny'n arferol ar gyfer y rhywogaeth)
  • A oes gan y goeden namau ar y gwaelod neu ar y prif foncyff?  Unwaith eto, peidiwch gofidio os nad ydych chi'n gwybod, ond os bydd rhywbeth yn edrych yn rhyfedd, tynnwch lun i ni
  • A oes unrhyw gyrff hadol ffyngaidd (madarch neu ffwng bachog) ar neu o gwmpas y bonyn neu foncyff y goeden?
  • A oes unrhyw linynnau o fath careiau'r coed o gwmpas bonyn y goeden neu'n weladwy dan unrhyw risgl sy'n rhydd neu sydd ar goll?
  • Gan edrych ar y siart isod (ac os ydych chi'n teimlo'n ddigon hyderus i'w asesu) pa Ddosbarth y mae'n perthyn iddo yn eich barn chi?  Dosbarth 1, 2, 3 neu 4?  (Neu nid ydych yn gallu dweud?  Mae'n cymryd amser i gyfarwyddo!)
  • A ydych chi'n credu mai coeden y cyngor neu goeden breifat ydyw?
  • Manylion cyswllt – rhag ofn y bydd gennym ragor o gwestiynau (ni fyddwn yn rhannu eich data y tu allan i'r sefydliad, nac yn rhoi atebion neu gydnabyddiaeth o reidrwydd, o ganlyniad i gyfyngiadau amser ar gyfer staff Coedyddiaeth)
  • Os ydych chi'n denant Tŷ, dylech gyflwyno'ch adroddiad i'r Swyddfa Tai Ardal
  • A oes gennych chi unrhyw wybodaeth a fyddai o ddefnydd i ni efallai?  Gallai hyn gynnwys gwybodaeth am ganghennau marw, ffyngau ar y goeden neu o gwmpas y goeden, gwifren ffôn neu wifrau trydan yn rhedeg trwy'r canghennau/canopi, rhisgl sydd ar goll, tyllau maint bys yn y boncyff, chwilod neu lindys sy'n dod allan ohoni, rwbel adeiladwyr neu dipio anghyfreithlon o gwmpas bonyn y goeden

A ydych chi'n gwybod am unrhyw waith cloddio, torri ffosydd neu adeiladu a wnaethpwyd yn ddiweddar dan ganopi’r goeden?  A oes/oedd unrhyw gerbydau, cynhwyswyr storio neu gyfarpar trwm arall wedi cael ei osod dan ganopi’r goeden dros y misoedd diwethaf?

Cysylltwch â ni
  • Cyfeiriad E-bost
  • Ffôn
  • Cyfeiriad