FFURFLENNI AR-LEIN / ONLINE FORMS

FFURFLENNI AR-LEIN: Nid yw rhai o'n ffurflenni ar-lein ar gael ar hyn o bryd wrth i ni wneud gwaith cynnal a chadw hanfodol. Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra y gallai hyn ei achosi.

ONLINE FORMS: Some of our online forms are currently unavailable whilst we carry out essential maintenance. We apologise for any inconvenience this may cause.

Swydd Dirprwy Bennaeth Cyllid a Swyddog Adran 151

Ydych chi am ymuno â Chyngor sy'n sicrhau newid?

Mae ein cymunedau yn newid, mae eu hanghenion yn newid ac rydyn ni'n newid hefyd!

Mae gan Dîm Caerffili dros 8,000 o staff sy'n helpu cymunedau i ffynnu. Rydyn ni'n weithlu mawr ac amrywiol, ac mae darparu gwasanaethau cyhoeddus wrth galon ein gwaith. Os ydych chi'n angerddol am wneud gwahaniaeth, ymunwch â Thîm Caerffili heddiw – rydyn ni'n well gyda'n gilydd!

GWNEWCH GAIS NAWR

Prif Weithredwr, Christina Harrhy

Christina Harrhy

Tîm Caerffili – Byddwch yn rhan o rywbeth beiddgar, dewr a gwych!

A ninnau wedi adeiladu ein sylfeini cadarn, rydyn ni nawr yn symud ymlaen i'r ail gam yn ein taith drawsnewid arwyddocaol. Mae'r ail gam yn canolbwyntio'n gryf ar “Darparu” ac mae angen uwch arweinwyr cryf i arwain y sefydliad a thrawsnewid ein cymunedau wrth i ni symud ymlaen.

Rydyn ni'n darparu dros 600 o wasanaethau bob dydd i dros 181,000 o drigolion, gyda chyllideb gwerth miliynau o bunnoedd. Mae gennym ni 69 o gynghorwyr etholedig, sydd i gyd yn cynrychioli eu cymuned leol. Mae ein cymunedau yn gasgliad lliwgar o amrywiaeth a gwahaniaethau. Ond, mae heriau amddifadedd yn treiddio trwy nifer ohonyn nhw.

Mae gen i fandad gwleidyddol i gryfhau'r Tîm Arwain a phenodi Dirprwy Bennaeth Cyllid a Swyddog Adran 151 i gynorthwyo'r Tîm Rheoli Corfforaethol i ddatblygu ein rhaglen drawsnewid yn gyflym, trwy ein model gweithredu newydd, sef ‘Tîm Caerffili – Yn Well gyda'n Gilydd’.

Mae'r newid yma yn gofyn am arweiniad cryf, pwrpasol sydd wedi'i ategu gan greadigrwydd, arloesedd, egni ac agwedd ‘gallu gwneud’, ac mae'r swydd Dirprwy Bennaeth Cyllid a Swyddog Adran 151 yn rôl uwch arwain strategol hollbwysig yn Nhîm Rheoli Corfforaethol y Cyngor.

Felly, os oes gennych chi dân yn eich bol, angerdd ac awydd cryf i ddarparu'r gwasanaethau cyhoeddus gorau ar gyfer ein pobl, a gyda nhw, rydw i am glywed gennych chi.

Cysylltwch â Chynorthwyydd Personol y Cyfarwyddwr Richard Edmunds, Lianne Fry, i drefnu trafodaeth anffurfiol 01443 864560fryl@caerphilly.gov.uk

Arweinydd Cyngor Caerffili, y Cynghorydd Sean Morgan

Sean Morgan

Rydyn ni'n sefydliad amlochrog gyda'n trigolion a'n staff wrth galon y gwasanaethau rydyn ni'n eu darparu. O ystyried yr amgylchiadau ariannol cenedlaethol heriol iawn rydyn ni'n gweithredu ynddyn nhw, mae'n bwysicach nag erioed i sicrhau bod gennym ni reolaeth strategol gryf i sicrhau ein bod ni'n gallu parhau i ddarparu'r gwasanaethau mae ein trigolion eu heisiau a'u hangen.

Rydyn ni'n edrych am unigolyn angerddol ac ymroddedig, sy'n adlewyrchu gwerthoedd ac ethos Tîm Caerffili.

Mae fy Nghabinet wedi cytuno ar raglen newid uchelgeisiol, gan gynnwys nifer o brosiectau strategol allweddol a fydd yn trawsnewid y ffordd rydyn ni'n gweithredu fel sefydliad. Mae gennym ni'r rhaglen Llunio Lleoedd drawiadol, ar gyfer buddsoddi cyfalaf, sy'n ceisio rhoi ffyniant i'r Fwrdeistref Sirol. Rydyn ni'n aelod allweddol o Brifddinas-Ranbarth Caerdydd ac eisiau gwreiddio ein safle strategol ymhellach yn rhanbarth y De-ddwyrain a thu hwnt. Mae sgiliau partneriaeth cryf ymhlith gofynion allweddol y rôl yma gan ein bod ni'n ymfalchïo yn ein partneriaethau cadarnhaol a phopeth rydyn ni'n ei ddarparu trwyddyn nhw.

Mae'n bwysig bod yr ymgeisydd llwyddiannus yn gallu cyflawni'r weledigaeth a'r arloesedd sydd eu hangen arnom ni, er mwyn parhau i ddarparu'r safonau uchaf wrth ddiwallu anghenion cynyddol a chymhleth y gymuned gyfan.

Ein Gweledigaeth a'n Gwerthoed

Our Vision and Values

Rydym wedi creu set o werthoedd gyda staff sy'n sail i'r model gweithredu. Maent yn gweithredu fel egwyddorion arweiniol ac yn gosod y naws ar gyfer y ffordd yr ydym yn gweithredu ac yn rhyngweithio ar bob lefel.

Arloeso: Byddwn yn grymuso ein staff i ddatblygu ymatebion arloesol a chreadigol i’r heriau maent yn eu hwynebu, mewn diwylliant diogel o barch gan y naill at y llall.
 
Unedig a Chysylltiedig: Rhannwn weledigaeth sy’n gwasanaethu lles pawb; byddwn yn mynd ati i gydweithredu a chyfathrebu’n fewnol mewn modd iach.
 
Ymddiried ynom: Byddwn yn gweithredu mewn modd credadwy a dibynadwy a byddwn yn meithrin, cefnogi a chynnal perthnasoedd cadarnhaol.
 
Cydnerth: Byddwn yn meithrin timau a all ymateb i’r heriau a wynebwn ac ymaddasu i unrhyw amodau anodd.
 
Agored a Thryloyw: Byddwn yn cyfathrebu’n agored, yn rhannu gwybodaeth, yn gwrando ac yn gwerthfawrogi safbwyntiau eraill, yn rhoi adborth yn brydlon ac yn dysgu o’n camgymeriadau.

Ein Model Gweithredu

Our Operating Model

Mae #TîmCaerffili – Yn Well Gyda’n Gilydd yn rhaglen strategol o newid trawsnewidiol “awdurdod cyfan” a gyflawnir trwy fodel gweithredu newydd ar gyfer y ffordd yr ydym yn darparu gwasanaethau.
 
Bydd angen inni symud i ffwrdd o fodelau traddodiadol o ddarparu gwasanaethau, coleddu newid, bod yn barod i arloesi a chymryd risgiau a reolir yn dda. Bydd angen hefyd inni foderneiddio trwy fanteisio ar dechnolegau sy’n dod i’r amlwg ac ymgysylltu’n llawn â’n gweithlu a’n cymunedau.
 
Yn ganolog i’r rhaglen newid hon fydd ein harwyddair newydd sef Calon Gymdeithasol a Phen Masnachol. Mae hyn yn cydnabod ein hymrwymiad i wasanaeth cyhoeddus ac anghenion ein dinasyddion, ond mae hefyd yn  dangos ymrwymiad i ymchwilio i gyfleoedd  masnachol a buddsoddi, lle bo’n briodol, i gynhyrchu incwm y gellir ei ail-fuddsoddi

  • Diwylliant
  • Arloesedd
  • Digidol yn Gyntaf
  • Adolygiadau Gwasanaethau
  • Masnacheiddio
  • Ymgysylltu a Chymunedau
  • Cydweithio
  • Adnoddau
  • Cynllunio’r Gweithlu

Buddion a Gwobrau

Rydyn ni'n cynnig ystod eang o fentrau a threfniadau gweithio hyblyg sy’n ystyriol o deuluoedd i’r rhan fwyaf o’n gweithwyr ni.

Mae'r rhain wedi'u hanelu at greu amgylchedd gwaith cadarnhaol lle mae gweithwyr yn gallu gweithio i'w llawn botensial nhw a chyflawni cydbwysedd iach rhwng bywyd a gwaith.

Dolenni Defnyddiol