Pwy sy’n gyfrifol am dalu’r bil treth y cyngor?
Mae un bil treth y cyngor ar gyfer pob eiddo p’un ai’n dŷ, byngalo, fflat, fflat deulawr, cartref symudol neu gwch preswyl, a ph’un a'i fod yn berchen i'r sawl sy'n byw ynddo neu'n cael ei rentu.
I benderfynu pwy sy’n gyfrifol am dalu treth y cyngor, mae ‘hierarchaeth’, fel y manylir isod. Darllenwch y rhestr ac ar ôl dod at ddisgrifiad sy’n berthnasol i berson yn eich cartref chi, dyma’r person fydd yn gyfrifol am dalu treth y cyngor.
-
Lesddeiliad preswyl (mae hyn yn cynnwys tenantiaid sicr dan Ddeddf Tai 1988)
-
Tenant statudol neu sicr preswyl
-
Trwyddedai preswyl
-
Preswylydd
-
Y perchennog (mae hyn yn berthnasol pan na fydd preswylwyr yn yr annedd)
Mae ‘preswylydd’ yn golygu rhywun 18 oed neu drosodd sy’n byw yn yr annedd fel ei unig neu brif gartref. Mae hyn yn golygu bod rhaid i berchen-feddianwyr neu denantiaid preswyl (gan gynnwys tenantiaid y cyngor) fel arfer talu treth y cyngor. Os yw’r eiddo’n wag neu nad yw’n brif gartref i unrhyw un, y perchennog sy’n gyfrifol am dalu’r bil.
Mewn rhai amgylchiadau, y perchennog ac nid y preswylydd sy’n gyfrifol am dalu treth y cyngor fel a ganlyn:
-
Anheddau â mwy nag un aelwyd ynddynt lle bydd preswylwyr yn talu rhent ar wahân am wahanol rannau o’r eiddo a lle bydd yr aelwydydd efallai'n rhannu cyfleusterau coginio neu ymolchi e.e. rhai hosteli, cartrefi nyrsys neu grwpiau o fflatiau un ystafell.
-
Cartrefi gofal preswyl, cartrefi nyrsio (megis hosbisau), cartrefi nyrsio iechyd meddwl neu rai mathau o hosteli sy'n cynnig lefel uchel o ofal.
-
Cymunedau crefyddol megis mynachlogydd neu leiandai.
-
Anheddau nad ydynt yn brif gartref i’r perchennog, ond sy’n brif gartref i rywun y mae'r perchennog yn ei gyflogi i wneud gwasanaeth domestig.
-
Anheddau, sydd ar gael i’w meddiannu gan weinidog o unrhyw enwad crefyddol fel rhywle i gyflawni ei ddyletswyddau.
- Eiddo a feddiannir gan geiswyr lloches
Os ydych yn byw mewn annedd lle mae’r landlord yn atebol, nid oes rhaid i chi dalu treth y cyngor. Os taw’ch landlord yw’r person sy’n atebol, gallai ofyn i chi dalu rhywbeth tuag at y bil, yn dibynnu ar delerau eich cytundeb ag ef.