Wrth i ddisgyblion ddychwelyd i'r ystafell ddosbarth yr wythnos hon, mae ysgolion ledled Bwrdeistref Sirol Caerffili ar agor fel arfer heb unrhyw achos o nodi Concrit Awyredig Awtoclafiedig Cyfnerth (RAAC) yn lleol.
Mae RAAC yn ddeunydd a oedd yn cael ei ddefnyddio wrth adeiladu nifer o adeiladau rhwng y 1960au a'r 1990au. Mae wedi cael ei gadarnhau ei fod yn bresennol mewn ystod o eiddo sector cyhoeddus ledled y Deyrnas Unedig, gan gynnwys mewn ysgolion ac ysbytai.
Fe wnaeth Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili adolygu ei bortffolio adeiladau yn 2021, a oedd yn cynnwys arolygon a gafodd eu cynnal gan arbenigwr strwythurol annibynnol ar safleoedd a gafodd eu hystyried eu bod nhw'n cynnwys RAAC. Nid oedd dim un o'r adeiladau a gafodd eu harolygu yn cynnwys y deunydd.
Bydd y Cyngor yn parhau i weithio'n agos gyda Llywodraeth Cymru ar ei rhaglen nodi RAAC mewn ysgolion ac yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i rieni am unrhyw ddatblygiadau.
Mae rhagor o wybodaeth am RAAC ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru – www.llyw.cymru/datganiad-ysgrifenedig-concrit-awyredig-awtoclafiedig-cyfnerth-raac-mewn-sefydliadau-addysg-yng
|