News Centre

​Erlyn perchennog tafarn o Goed Duon am fethu â darparu gwybodaeth am alergenau

Postiwyd ar : 22 Medi 2023

​Erlyn perchennog tafarn o Goed Duon am fethu â darparu gwybodaeth am alergenau
Rock Pub and Bed and Breakfast, Tredegar Road, Blackwood

Mae Paul Taylor, perchennog tafarn a gwely a brecwast The Rock, Tredegar Road, Coed Duon, Gwent NP12 1DD, wedi’i erlyn am fethu â darparu gwybodaeth am alergenau yn groes i Reoliadau Gwybodaeth am Fwyd (Cymru) 2014.

Daw’r ddedfryd yn dilyn ymchwiliad gan Wasanaeth Safonau Masnach Cyngor Caerffili, a gafodd ei hysbysu am ddigwyddiad yn nhafarn The Rock ym mis Awst 2022, lle gwrthododd Taylor ddarparu gwybodaeth am alergenau i aelod o’r cyhoedd sy’n orsensitif i laeth ac sy’n byw gydag alergedd bwyd difrifol.

Fe wnaeth Swyddogion Safonau Masnach archwilio'r busnes a rhoi cyngor ac arweiniad cynhwysfawr i Taylor, sef goruchwyliwr dynodedig mangre a deiliad trwydded mangre The Rock, yn ogystal â rhybudd ffurfiol, y dewisodd ei anwybyddu.  Fe wnaeth Taylor wrthod deddfwriaeth ynghylch alergenau a oedd yn berthnasol i'w fangre trwyddedig a gwrthod hyfforddi ei staff a chydymffurfio â gofynion cyfreithiol yn ymwneud â gwybodaeth am alergenau bwyd.

Ar 28 Tachwedd 2022, ymwelodd swyddogion safonau masnach â thafarn The Rock i gynnal pryniant prawf. Pan ofynnwyd iddo am wybodaeth am alergenau llaeth, gwrthododd Taylor ei darparu ac fe gyfeiriodd y swyddogion at ymwadiad ar ei fwydlen a oedd yn nodi ‘Ni allwn ddarparu ar gyfer cwsmeriaid ag alergeddau bwyd’.

Fe gofnododd Taylor (71 oed) ble euog yn ysgrifenedig i Lys Ynadon Cwmbrân ac ar 14 Medi 2023, yn ei absenoldeb, cafodd ddirwy o £293, yn ogystal â gorchymyn i dalu costau o £1,879.70 i'r Cyngor a gordal dioddefwr o £117.

Dywedodd y Cynghorydd Philippa Leonard, Aelod Cabinet dros Ddiogelu'r Cyhoedd,

“Mae gan weithredwyr busnesau bwyd rwymedigaeth gyfreithiol i ddarparu gwybodaeth glir a chywir am alergenau yn y bwydydd maen nhw'n eu gweini. Nid yw'n ddewis, mae'n sylfaenol i ddiogelu iechyd, diogelwch a lles y rheini sy'n byw ag alergeddau bwyd, anoddefiadau neu glefyd seliag.

Gall darparu gwybodaeth am bresenoldeb y 14 o alergenau sydd wedi’u rhestru yn y gyfraith fod yn hanfodol iawn, gan atal salwch a, hyd yn oed, achub bywydau trwy rymuso prynwyr sydd â gorsensitifrwydd i fwyd i wneud dewisiadau diogel a gwybodus.

“Os oes unrhyw un yn pryderu nad yw busnes yn darparu gwybodaeth am alergenau bwyd, neu os ydych chi'n fusnes sydd angen cyngor mewn perthynas ag alergenau bwyd, cysylltwch â'r tîm Safonau Masnach.” 
SafonauMasnach@caerffili.gov.uk



Ymholiadau'r Cyfryngau