News Centre

Taith Prydain yn dychwelyd i Gaerffili ar gyfer diweddglo trawiadol

Postiwyd ar : 15 Medi 2023

Taith Prydain yn dychwelyd i Gaerffili ar gyfer diweddglo trawiadol
Cafodd pencampwr ei goroni yng nghymal olaf Taith Prydain ar ôl taith 166 cilomedr o Barc Margam i ganol tref Caerffili ddydd Sul 10 Medi.
 
Wedi'i ddarlledu'n fyw ar ITV4 ac i fwy na 150 o wledydd yn fyd-eang, teithiodd beicwyr gorau’r byd trwy Nelson, Tredomen, Ystrad Mynach a Llanbradach cyn cyrraedd canol tref Caerffili. Daeth y ras beicio ffordd fwyaf ym Mhrydain i ben mewn ffordd drawiadol o flaen Castell Caerffili.
 
Roedd tref Caerffili yn llawn baneri ac arwyddion wrth i filoedd o drigolion ac ymwelwyr ymddangos i gefnogi'r beicwyr. Roedd lleisiau sylwebwyr y ras a cherddoriaeth egnïol yn llenwi'r aer wrth i bawb fynd i ysbryd y digwyddiad.
 
Ymgasglodd torfeydd hefyd ar Fynydd Caerffili gan greu awyrgylch trydanol wrth i feicwyr wneud dwy lap o ddringfa chwedlonol Mynydd Caerffili.
 
Dywedodd Arweinydd Cyngor Caerffili, y Cynghorydd Sean Morgan: “Roedd yn wych gweld cymaint o bobl ar hyd strydoedd Caerffili yn cefnogi’r digwyddiad a'r beicwyr. Roedd cefndir godidog Castell Caerffili yn lleoliad trawiadol i'r beicwyr groesi'r llinell derfyn, yn enwedig ar ôl mynd i'r afael â dringfa flinedig Mynydd Caerffili.
 
Hoffwn ddiolch i bawb a gymerodd ran am wneud y digwyddiad yn llwyddiant a helpu rhoi Caerffili ar y map i gynulleidfa ryngwladol”.
 
I gael rhagor o wybodaeth am Daith Prydain, ewch i: https://www.tourofbritain.co.uk
 


Ymholiadau'r Cyfryngau